Jump to content
Archebwch eich lle ar ein cynhadledd am y Gymraeg mewn gofal cymdeithasol
Newyddion

Archebwch eich lle ar ein cynhadledd am y Gymraeg mewn gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

5 Mawrth 2025, Swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno

Ymunwch â ni ar gyfer ein cynhadledd gyntaf am y Gymraeg mewn gofal cymdeithasol, ar y thema 'Urddas, iaith a gofal'.

Mae'r gynhadledd am ddim i'w fynychu ac yn agored i unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dewch draw i ddathlu gwaith ysbrydoledig, rhannu arfer da a chlywed am yr adnoddau a'r cymorth sydd ar gael i wasanaethau i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol yn y Gymraeg.

Dywedodd Gemma Halliday, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros y Gymraeg: "Rydyn ni’n gyffrous i gynnal ein cynhadledd gyntaf sy'n canolbwyntio ar y Gymraeg mewn gofal cymdeithasol.

“Bydd y gynhadledd yn gyfle i chi glywed gan eraill a gwneud cysylltiadau â phobl i ddatblygu eich gwybodaeth am ffyrdd o weithio'n ddwyieithog. Roedd sesiwn debyg yn gynharach yn y flwyddyn ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant ac fe wnaethon ni adeiladu ar hynny yn ein cynhadledd blynyddoedd cynnar a gofal plant diweddar.

"Rydyn ni eisiau helpu i roi'r hyder i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion Cymraeg y bobl maen nhw'n eu cefnogi. Mae gweithlu dwyieithog yn golygu y gall unigolion fynegi eu hunain yn eu dewis iaith, sy'n ein galluogi i ddeall beth sy'n bwysig yn llawer mwy effeithiol a chyfforddus."   

Bydd mynychu'r gynhadledd yn cyfrif tuag at eich oriau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), os ydych chi wedi cofrestru gyda ni. 

Rydyn ni wrthi yn trefnu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau, a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn fuan.