Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n cynnal cynhadledd genedlaethol blynyddoedd cynnar a gofal plant eto eleni, ar ddydd Mercher 17 Medi yn Venue Cymru, Llandudno.
Mae’r gynhadledd am ddim ac yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Dewch i glywed gan arbenigwyr cenedlaethol a rhynwladol. Bydd arbenigwyr o leoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant hefyd yn trafod sut maen nhw’n rhoi theori ar waith mewn ymarfer bywyd go iawn. Bydd y gynhadledd yn cefnogi cyfleoedd rhwydweithio a dysgu proffesiynol.
Dywedodd mynychwyr y llynedd:
- “Rhoddodd y digwyddiad gyfle i mi weld beth sy’n digwydd yn ein lleoliad a sicrhau bod fy addysgu yn gyfredol.”
- “Rwyf wrth fy modd â’r dull dan arweiniad plant / cynllunio yn y foment a gwnaeth eich sesiwn ateb y cwestiynau oedd gennym ni ar hyn, felly rydyn ni bellach wedi ymestyn ein hymarfer dan arweiniad plant ymhellach.”
- “Ers mynychu eich sesiwn, rydyn ni nawr yn gwerthuso buddion y plant o bob gweithgaredd. Ar ddiwedd y tymor, rydyn ni’n cofnodi’r buddion maen nhw wedi’u profi yn yr wythnosau blaenorol, ond rydyn ni’n diweddaru’r taflenni cynllunio bob tro.”
Rydyn ni wrthi yn cadarnhau’r rhaglen, a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn fuan ond yn y cyfamser gallwch gofrestru drwy’r ffurflen isod. Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn y gynhadledd!
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â eycc@socialcare.wales