Mae amcangyfrif o 84,908 o bobl yn gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ôl ein hadroddiad diweddaraf ar gyfansoddiad y gweithlu.
Mae hyn yn gynnydd bach o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Casglon ni ddata ar gyfer Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol gyda chymorth awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2025.
Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn rhoi darlun i ni o faint a nodweddion y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’n cynnwys data fel oedran, rhyw ac ethnigrwydd y gweithlu, yn ogystal â gwybodaeth am nifer yr oriau mae pobl yn eu gweithio, pa fath o gontract sydd ganddyn nhw ac a oes angen fisa arnyn nhw i weithio.
Dyma’r pumed tro i ni gasglu data am y gweithlu cyfan fel un ymarfer. Ar gyfer yr adroddiad hwn, gofynnon ni i ddarparwyr am ddata am y gweithlu fel yr oedd ar 31 Mawrth 2025.