Mae gweithiwr gofal o Sir Ddinbych, prosiect realiti rhithwir yn Sir Fôn a gweithiwr chwarae cynhwysol o Ferthyr Tudful ymhlith y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau 2026.
Mae’r gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae’r Gwobrau yn agored i weithwyr gofal ar bob lefel, yn ogystal â thimau, prosiectau a sefydliadau o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Roedd 141 – y nifer fwyaf erioed – o brosiectau a gweithwyr gofal o bob cwr o Gymru wedi ymgeisio neu’u henwebu dros saith categori ar gyfer y gwobrau eleni.
Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu dewis gan baneli o feirniaid sy’n cynnwys aelodau ein Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau partner, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth.
Eleni, bydd enillwyr o dri chategori yn cael eu dewis gan y cyhoedd: y gwobrau Arweinyddiaeth Ysbrydoledig, Dysgwr y Flwyddyn a Gofalwn Cymru.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni wobrwyo Gwobrau 2026 yng Ngwesty Parkgate yng Nghaerdydd, ddydd Iau 2 Gorffennaf.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Rydyn ni’n falch iawn o gael grŵp mor gryf yn y rownd derfynol sy’n dangos y gwaith gofal rhagorol sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru.
“Unwaith eto, rydyn ni wedi cael ceisiadau o safon eithriadol o uchel ac mae’r beirniaid wedi’i chael yn anodd dewis y 19 o geisiadau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol.
“Mae'r Gwobrau eleni wedi rhoi enghreifftiau gwych i ni o weithwyr, timau a sefydliadau ysbrydoledig ac ymroddedig sy'n darparu gofal a chymorth o safon uchel i blant, oedolion a theuluoedd yng nghymunedau ym mhob cwr o Gymru.
“Mae hi’n hollbwysig ein bod yn cymryd yr amser i ddiolch i’n gweithwyr gofal ymrwymedig ac ymroddgar, ac i gydnabod a dathlu’r gwahaniaeth positif maen nhw’n yn eu cael ar fywydau pobl.
“Llongyfarchiadau i’r 19 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol! Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i’r seremoni wobrwyo ym mis Gorffennaf, ac at gydnabod, dathlu a rhannu eich ymdrechion a’ch llwyddiannau rhagorol.”