Jump to content
Ein hadroddiad blynyddol ar gydraddoldeb: yr hyn a wnaethom yn 2024 i 2025

Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gydraddoldeb yn amlinellu’r hyn a wnaethom yn 2024 i 2025 i’n helpu i wireddu pum amcan cydraddoldeb ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.

Cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb

Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn nodi’r camau rydyn ni wedi’u cymryd i gyflawni ein pum amcan cydraddoldeb.

Mae pum canlyniad i’r cynllun. Byddwn ni’n:

  • gwella’r defnydd o ddata a gwybodaeth am gydraddoldeb
  • gweithio gyda chyflogwyr ac arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar i helpu i hyrwyddo cydraddoldeb yn y gwaith
  • gweithio i sicrhau bod cydraddoldeb, hygyrchedd a chynhwysiant yn ganolog i’n gwaith o adeiladu gweithlu gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sy’n barod yn ddigidol
  • cefnogi’r gweithlu drwy hyrwyddo ein hadnoddau a’n cynigion llesiant, a gwella mynediad atynt
  • hyrwyddo cyfleoedd i weithio gyda ni, i’n helpu i sicrhau Bwrdd, staff a phanel rheoleiddio mwy amrywiol a chynhwysol, ac i ehangu ein rhwydweithiau.

Rydyn ni wedi gwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gyflawni amcanion ein cynllun cydraddoldeb strategol yn ein gwaith drwyddi draw, yn ogystal ag yn ein gwaith i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydyn ni’n ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydyn yn ei rhannu.

Beth oedd ein heffaith yn 2024 i 2025?

Datganiad effaith

Mae myfyrdodau ar ein cynnydd rhwng 2024 a 2025 wedi tynnu sylw at y ffaith ein bod yn dechrau gweld effaith ein Cynllun cydraddoldeb strategol (2022 i 2027).

Drwy ddatblygu, parhau a mireinio dulliau cadarn o gasglu data, rhaglenni cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’u targedu, ac ymgysylltu cynhwysol, rydyn ni’n gosod y sylfeini ar gyfer newid hirdymor ar draws y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn parhau â thaith ein sefydliad tuag at wrth-wahaniaethu.

Dyma rhywfaint o’r effaith fesuradwy:

Adeiladu sylfaen dystiolaeth gref

Mae Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu (WRES) a’r arolwg Dweud eich Dweud wedi rhoi data sylfaenol i ni fonitro profiadau o wahaniaethu, cynnydd a chynhwysiant yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd yr adnoddau hyn yn ein galluogi i olrhain tueddiadau dros amser a sicrhau bod ein gwaith yn cael ei dargedu a’i fod yn cael effaith. Mae’r data hwn wedi rhoi dealltwriaeth glir i ni o brofiadau gwahanol grwpiau sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Eleni, rydyn ni hefyd wedi lansio arolwg blynyddoedd cynnar a gofal plant i ddeall profiad y gweithlu yn well a byddwn ni’n adrodd ar ein canfyddiadau yn 2025 i 2026.

Mae ein dangosfyrddau data mewnol wedi gwella ein gallu i ddeall demograffeg a phrofiadau’r gweithlu cofrestredig, gan alluogi gwneud penderfyniadau mwy gwybodus yn ein sefydliad a gwella mynediad at ddata i’w ddefnyddio mewn asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.

Sicrhau cynrychiolaeth a chynhwysiant

Rydyn ni wedi cymryd camau i sicrhau bod ein sefydliad ar y daith i fod yn gynrychioliadol o’r sectorau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Gan adeiladu ar ein gwaith recriwtio ar gyfer y Bwrdd yn 2023 i 2024, rydyn ni wedi gweld mwy o amrywiaeth o ran penodi aelodau panel addasrwydd i ymarfer a recriwtio staff, gyda mwy o benodiadau o gymunedau ethnig leiafrifol a phobl ag anableddau. .

Mae ein rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol o leiafrifoedd ethnig yn treialu rhaglen i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth mewn arweinyddiaeth ym maes gofal cymdeithasol, sy’n cael ei lansio yn 2025 i 2026. Rydyn ni wedi’i chydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd i sicrhau ei bod yn cynrychioli’r cymunedau y mae’n ceisio eu cefnogi.

Ymgorffori ymarfer gwrth-wahaniaethol

Mae ein gwaith gydag arweinwyr a rheolwyr drwy addewidion gwrth-hiliaeth, sioeau teithiol ac adnoddau e-ddysgu yn helpu i newid diwylliant y gweithle. Mae’n ein galluogi i ddefnyddio ein rôl ddylanwadol i ddechrau neu barhau â theithiau gwrth-hiliaeth sefydliadau eraill i feithrin diwylliannau cynhwysol cadarnhaol ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’r Cod Ymarfer Proffesiynol diwygiedig wedi cael ei ddatblygu drwy ymgynghori â’r sector, yn ogystal â grwpiau penodol. Mae hyn wedi arwain at ffocws cryfach ar wrth-wahaniaethu, gan osod disgwyliadau cliriach.

Hysbysu cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Bydd y mewnwelediadau a gafwyd eleni yn helpu’n uniongyrchol i lunio datblygiad ein cynllun cydraddoldeb strategol nesaf. Bydd y metrigau a’r mecanweithiau adborth rydyn ni wedi’u gwreiddio yn gwneud y cynllun nesaf hyd yn oed yn fwy ymatebol, yn fwy effeithiol a bydd yn cael ei arwain gan dystiolaeth.

Darllenwch yr adroddiad

Cliciwch yma i lawrlwytho a darllen yr adroddiad gyflawn.

Trosolwg o'r bobl sydd wedi cofrestru gyda ni

Roedd ein data pobl gofrestredig ym mis Ebrill 2025 yn dangos bod 65,301 o bobl wedi cofrestru:

  • 6,838 o weithwyr cymdeithasol
  • 4 rheolwr gwasanaethau mabwysiadu
  • 1,324 o reolwyr cartrefi gofal i oedolion
  • 26,986 o weithwyr cartrefi gofal i oedolion
  • 14 o reolwyr lleoliadau oedolion
  • 3 rheolwr eiriolaeth plant a phobl ifanc
  • 1,057 o reolwyr gofal cartref
  • 22,818 o weithwyr gofal cartref
  • 18 o reolwyr gwasanaethau maethu
  • 437 o reolwyr gofal preswyl i blant
  • 4,906 o weithwyr gofal preswyl i blant
  • 4 o reolwyr canolfannau preswyl i deuluoedd
  • 81 o reolwyr canolfannau preswyl i deuluoedd
  • 807 o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol
  • 4 o reolwyr preswyl mewn ysgolion arbennig.

Mae ein data’n dangos i ni, o blith y rhai sydd wedi cofrestru gyda ni:

  • mae 76.7 y cant yn Wyn
  • mae 12 y cant yn Ddu
  • mae 7.7 y cant yn Asiaidd
  • mae 1.7 y cant yn ethnigrwydd cymysg
  • mae 0.8 y cant o unrhyw gefndir ethnig arall
  • mae 78.1 y cant yn fenywod
  • mae 21.8 y cant yn ddynion
  • mae gan 2.6 y cant anabledd
  • does gan 95.4 y cant ddim anabledd
  • mae 88.4 y cant yn heterorywiol
  • mae 2.2 y cant yn ddeurywiol
  • mae 1.5 y cant yn fenywod lesbiaidd neu hoyw
  • mae 1 y cant yn ddynion hoyw neu gyfunrywiol.

Rhoddodd y mwyafrif helaeth o bobl sydd wedi cofrestru gyda ni (96.7 y cant) rywfaint o wybodaeth i ni am eu cyfleoedd cyfartal ac mae hyn yn cynnwys pobl a ddywedodd wrthym ni nad oedden nhw eisiau rhoi’r wybodaeth hon i ni. Dyna pam nad yw’r ffigurau’n gwneud cyfanswm o 100 y cant.

Mae canran y rhai a atebodd bob cwestiwn yn amrywio:

  • anabledd: 95.4 y cant
  • cyfeiriadedd rhywiol: 95.5 y cant
  • ethnigrwydd: 95.8 y cant
  • rhywedd: 99.9 y cant.

Ni fyddwn ni’n rhannu unrhyw ddata trawsryweddol gan fod y niferoedd yn rhy fach ac mae perygl y gellid adnabod y bobl hynny.

Pa mor gynrychioliadol yw’r gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig o’i gymharu â data Cyfrifiad Cymru 2021?

Ethnigrwydd:

Mae ein data am y gweithlu cofrestredig yn dangos y canlynol i ni:

  • mae 76.7 y cant yn Wyn
  • mae 12 y cant yn Ddu
  • mae 7.7 y cant yn Asiaidd
  • mae 1.7 y cant yn ethnigrwydd cymysg
  • mae 0.8 y cant o unrhyw gefndir ethnig arall.

O’i gymharu â data Cyfrifiad Cymru 2021:

  • Gwyn: 93.8 y cant
  • Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: 0.7 y cant
  • Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: 2.9 y cant
  • Grwpiau cymysg neu aml-ethnig: 1.6 y cant
  • Grŵp ethnig arall: 0.7 y cant.

Rhywedd*:

Mae ein data am y gweithlu cofrestredig yn dangos y canlynol i ni:

  • mae 78.1 y cant yn fenywod
  • mae 21.8 y cant yn ddynion.

*Yn 2024 i 2025 wrth gofrestru ac adnewyddu, gwnaethon ni holi ymgeiswyr a phobl gofrestredig am rywedd. Yr opsiynau ar gyfer y cwestiwn hwn oedd benywaidd, gwrywaidd, anneuaidd, rhyweddhylifol, arall ac mae’n well gen i beidio â dweud. Bydd hyn yn newid yn 2025 i 2026 i ryw biolegol. Byddwn ni’n ychwanegu cwestiwn penodol am hunaniaeth rhywedd ar wahân.

O’i gymharu â data Cyfrifiad Cymru 2021:

  • menywod: 51.1 y cant
  • dynion: 48.9 y cant.

Anabledd:

Mae ein data am y gweithlu cofrestredig yn dangos y canlynol i ni:

  • mae gan 2.6 y cant anabledd
  • does gan 95.4 y cant ddim anabledd.

O’i gymharu â data Cyfrifiad Cymru 2021:

  • heb anabledd: 78.9 y cant
  • gydag anabledd: 21.1 y cant.

Cyfeiriadedd rhywiol:

Mae ein data am y gweithlu cofrestredig yn dangos y canlynol i ni:

  • mae 88.4 y cant yn heterorywiol
  • mae 2.2 y cant yn ddeurywiol
  • mae 1.5 y cant yn fenywod lesbiaidd neu hoyw
  • mae 1 y cant yn ddynion hoyw neu gyfunrywiol.

O’i gymharu â data Cyfrifiad Cymru 2021:

  • heterorywiol: 89.4 y cant
  • deurywiol: 1.2 y cant
  • dynion/merched hoyw/lesbiaidd: 1.5 y cant
  • arall: 0.3 y cant.

Ein staff

Rydyn ni’n cynnal arolwg cydraddoldeb ac amrywiaeth am ein staff bob blwyddyn.
Gofynnwn i staff ddiweddaru eu gwybodaeth amrywiaeth bob mis Mehefin cyn ein
harchwiliad cydraddoldeb cyflog blynyddol. Dyma grynodeb o amrywiaeth ein staff ym mis Mehefin 2025:

Rhyw

  • Dynion: 24 y cant
  • Menywod: 76 y cant

Oedran

  • 18 i 21: 0 y cant
  • 22 i 29: 12.55 y cant
  • 30 i 39: 29.87 y cant
  • 40 i 49: 32.46 y cant
  • 50 i 59: 20.34 y cant
  • 60 oed a hŷn: 4.76 y cant

Anabledd

  • Oes: 7.35 y cant
  • Nac oes: 32.03 y cant
  • Dewis peidio ag ateb neu heb ddatgan: 60.62 y cant

Hil

  • Unrhyw gefndir Gwyn: 30.75 y cant
  • Unrhyw gefndir Du ac ethnig leiafrifol: 1.29 y cant
  • Dewis peidio ag ateb neu heb ddatgan: 67.98 y can

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw adborth ar yr adroddiad blynyddol hwn neu os hoffech lywio ein gwaith i gyflawni ein cynllun cydraddoldeb strategol a’n hamcanion cydraddoldeb, cysylltwch â ni.

E-bost: edi@socialcare.wales