Noder bod y sesiwn hon ar gyfer ymarferwyr.
Dewch i ddarganfod y Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF)
Meddwl bod yr AWIF ond ar gyfer cyfnod sefydlu? Meddyliwch eto!
Ymunwch â ni am sesiwn ddifyr ac ymarferol i archwilio sut y gall Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF) gefnogi datblygiad gweithlu ym mhob cam gyrfa – o’r rhai sy’n newydd i’r sector i ymarferwyr ac arweinwyr profiadol.
Yn ystod y sesiwn, byddwch chi'n darganfod sut gall yr AWIF:
- adnabod cryfderau a meysydd ar gyfer dysgu a datblygu pellach
- cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) o ansawdd uchel drwy lwybrau dysgu clir a hygyrch
- arbed amser trwy adnoddau parod, offer ymarferol a chanllawiau strwythuredig
- cryfhau prosesau cyfnod sefydlu a helpu staff newydd i feithrin hyder a chymhwysedd yn eu rolau
- annog dysgu cydweithredol, ymarfer myfyriol a sgyrsiau proffesiynol
- cefnogi dilyniant gyrfa, datblygu arweinyddiaeth a gwelliant parhaus ar draws eich lleoliad.
Beth i ddisgwyl:
Byddwn ni'n cyflwyno’r ystod lawn o adnoddau AWIF ac yn dangos ffyrdd ymarferol i’w hymgorffori mewn ymarfer dydd i ddydd.
Os ydych chi’n rheolwr tîm, yn anelu at ddatblygu eich arbenigedd, neu’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd, dewch i ddarganfod sut gall yr AWIF wella hyder proffesiynol, ehangu sgiliau a chryfhau canlyniadau i blant, teuluoedd ac ymarferwyr.
Mae’r sesiwn yn cefnogi’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant.
Dyma rai esiamplau ohonyn nhw:
- HSCCLD21 – Cefnogi cyfathrebu effeithiol
- HSCCLD31 – Hybu cyfathrebu effeithiol
- HSCCLD41 – Arwain cyfathrebu effeithiol
- HSCCLD23 – Datblygu ymarfer myfyriol
- HSCCLD33 – Hybu a datblygu ymarfer myfyriol
- HSCCLD43 – Arwain a datblygu ymarfer myfyriol
- HSCCLD28 – Cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- HSCCLD38 – Hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- HSCCLD48 – Arwain ymarfer sy’n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- HSCCLD24 – Cynorthwyo â’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
- HSCCLD34 – Hybu’r gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
- HSCCLD44 – Arwain y gwaith o ddiogelu unigolion ac eraill
Rhai enghreifftiau o sut mae’r sesiwn hon yn cydfynd â Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant:
- 3.1 Rolau a chyfrifoldebau gweithiwr blynyddoedd cynnar a gofal plant
- 3.6 Datblygiad proffesiynol parhaus