Jump to content
Gwneud i'r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant weithio i chi a'ch tîm: sesiwn ar gyfer rheolwyr
Digwyddiad

Gwneud i'r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant weithio i chi a'ch tîm: sesiwn ar gyfer rheolwyr

Dyddiad
4 Awst 2026, 10am i 11am
Lleoliad
Ar-lein, Microsoft Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Noder bod y sesiwn hon ar gyfer rheolwyr.

Dewch i ddarganfod y Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF)

Meddwl bod yr AWIF ond ar gyfer cyfnod sefydlu? Meddyliwch eto!

Ymunwch â ni am sesiwn ddifyr ac ymarferol i archwilio sut y gall Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF) gefnogi datblygiad gweithlu ym mhob cam gyrfa – o’r rhai sy’n newydd i’r sector i ymarferwyr ac arweinwyr profiadol.

Yn ystod y sesiwn, byddwch yn darganfod sut gall yr AWIF:

  • adnabod cryfderau a meysydd ar gyfer dysgu a datblygu pellach
  • cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) o ansawdd uchel drwy lwybrau dysgu clir a hygyrch
  • arbed amser trwy adnoddau parod, offer ymarferol a chanllawiau strwythuredig
  • cryfhau prosesau cyfnod sefydlu a helpu staff newydd i feithrin hyder a chymhwysedd yn eu rolau
  • annog dysgu cydweithredol, ymarfer myfyriol a sgyrsiau proffesiynol
  • cefnogi dilyniant gyrfa, datblygu arweinyddiaeth a gwelliant parhaus ar draws eich lleoliad.

Beth i ddisgwyl:

Byddwn ni'n cyflwyno’r ystod lawn o adnoddau AWIF ac yn dangos ffyrdd ymarferol i’w hymgorffori mewn ymarfer dydd i ddydd.

Os ydych chi’n rheolwr tîm, yn anelu at ddatblygu eich arbenigedd, neu’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd, dewch i ddarganfod sut gall yr AWIF wella hyder proffesiynol, ehangu sgiliau a chryfhau canlyniadau i blant, teuluoedd ac ymarferwyr.

Mae’r sesiwn yn cefnogi’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant.

Dyma rai esiamplau ohonyn nhw:

Rhai enghreifftiau o sut mae’r sesiwn hon yn cydfynd â Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer blynyddoedd cynnar a gofal plant:

  • 3.1      Rolau a chyfrifoldebau gweithiwr blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • 3.6      Datblygiad proffesiynol parhaus