Jump to content
Cyfres o weithdai: deall a rheoli straen, gorbryder, a llethu mewn gwaith
Digwyddiad

Cyfres o weithdai: deall a rheoli straen, gorbryder, a llethu mewn gwaith

Dyddiad
22 Hydref 2026 i 12 Tachwedd 2026, 10am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein (Microsoft Teams)
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Cortecs

Gall straen, gorbryder a llethu effeithio ar unrhyw un ohonom wrth i ni gydbwyso rolau heriol emosiynol â gofynion eraill yn ein bywydau.

Ar gyfer pwy mae'r sesiynau hyn

Mae'r sesiynau hyn ar gyfer pawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Cynnwys y sesiynau

Byddwn yn rhannu offer a strategaethau ymarferol i'ch helpu i reoli straen a phryder yn y fan a’r lle, cefnogi eich llesiant, ac adeiladu gwytnwch. 

Byddwn hefyd yn siarad am:

  • achosion ac effeithiau straen, gorbryder, a llethu
  • sut i adnabod yr arwyddion a'r symptomau ynddo'ch hun ac eraill
  • sut i amddiffyn eich llesiant eich hun, cefnogi eraill, a symud y tu hwnt i oroesi i ffynnu.

Archebu eich lle

Pwysig
  • Bydd angen i chi fynychu pob un o'r pedair sesiwn yn y grŵp rydych chi'n ei ddewis.
  • Cofrestrwch dim ond os gallwch ymrwymo i'r pedair sesiwn.

Rydyn ni wedi rhannu'r gweithdai yn ddau grŵp. 

Bydd y dau grŵp yn dilyn yr un rhaglen, ond gallwch ddewis naill ai'r grŵp bore neu'r grŵp nos.

Sesiynau bore

  • Sesiwn un: Dydd Iau 22 Hydref, 10am i 12pm
  • Sesiwn dau: Dydd Iau 29 Hydref, 10am i 12pm
  • Sesiwn tri: Dydd Iau 5 Tachwedd, 10am i 12pm
  • Sesiwn pedwar: Dydd Iau 12 Tachwedd, 10am i 12pm

Sesiynau gyda'r nos

  • Sesiwn un: Dydd Iau 22 Hydref, 6pm i 8pm
  • Sesiwn dau: Dydd Iau 29 Hydref, 6pm i 8pm
  • Sesiwn tri: Dydd Iau 5 Tachwedd, 6pm i 8pm
  • Sesiwn pedwar: Dydd Iau 12 Tachwedd, 6pm i 8pm