Jump to content
Cefnogi sgyrsiau cynnar am niwrowahaniaeth
Digwyddiad

Cefnogi sgyrsiau cynnar am niwrowahaniaeth

Dyddiad
8 Rhagfyr 2026, 10am i 11am
Lleoliad
ar-lein, Microsoft Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch â ni a Niwrowahaniaeth Cymru am sesiwn ryngweithiol sy'n helpu gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant i deimlo'n fwy hyderus wrth siarad â rhieni a gofalwyr am niwrowahaniaeth posibl. Byddwch chi’n dysgu sut i gynnal y sgyrsiau mewn ffordd sensitif, gynhwysol a chefnogol, yn myfyrio ar eich dull presennol, ac yn edrych ar gwestiynau a phryderon cyffredin sydd gan deuluoedd.

Byddwn hefyd yn cyflwyno adnoddau ymarferol a ffyrdd o gyfeirio at wybodaeth a chymorth pellach, er mwyn eich helpu i roi gwybodaeth glir a chryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.