Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiadau o bryderon diogelu difrifol wedi’u profi yn erbyn Sulwen Edwards, Gweithiwr Gofal Cartref cofrestredig.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Sulwen Edwards i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd Ms Edwards yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Ms Edwards yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n cael eu Dileu.
Mae gan Sulwen Edwards yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru