Jump to content
Stacey Smith
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Phoenix Homecare and Support Ltd
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau canlynol wedi’u profi yn erbyn Stacey Smith, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Ar fwy nag un achlysur rhwng Ionawr a Mehefin 2021 Ms Smith;

Wedi cymryd arian yn perthyn i Unigolyn A heb ganiatâd.

Heb gadw unrhyw gofnodion ariannol/digonol mewn perthynas ag Unigolyn A.

Heb wisgo unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol (GDP)/priodol.

Canfu’r Panel fod addasrwydd i ymarfer presennol Ms Smith wedi’i amharu a’i orfodi

gorchymyn dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol wedi’i rheoleiddio yng Nghymru. Bydd enw Ms Smith yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Personau wedi'u Dileu.

Mae gan Ms Smith yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Mae hwn yn wrandawiad a ailgynullwyd

Ar fwy nag un achlysur rhwng Ionawr a Mehefin 2021 Ms Smith;

Cymerodd arian oedd yn perthyn i Unigolyn A heb ganiatâd.

Heb gynnal unrhyw gofnodion ariannol/digonol mewn perthynas ag Unigolyn A.

Heb wisgo unrhyw/priodol Cyfarpar Diogelu Personol (CDP).