Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod pryderon diogelu difrifol wedi’u profi yn erbyn Sarah O’brien, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms O'brien i ymarfer a gosododd orchymyn dileu sy’n golygu na fydd Ms O'brien yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Ms O'brien yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sydd wedi’u Dileu o’r Gofrestr.
Mae gan Ms O'brien yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.
Mae rhagor o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais. Fodd bynnag, sylwch y gallai rhywfaint o wybodaeth gael ei golygu.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru