Jump to content
Rhys McCloy
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Gateway Support and Care Limited
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr euogfarn ganlynol wedi’i phrofi yn erbyn Mr McCloy, gweithiwr gofal cartref.

Cafodd Mr McCloy ei ddedfrydu i 12 mis o garchar wedi'i ohirio am 24 mis am feddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant a gwneud lluniau anweddus o blant.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Mr McCloy i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru a bydd yn cael ei roi ar y rhestr o bobl a ddilëwyd.

Mae gan Mr McCloy yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau y panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Cafwyd Mr McCloy yn euog ar dditiad o feddiant o ddelweddau gwaharddedig o blant yn groes i adran 160(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988