Jump to content
Niaomi Hannam
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Maponos Ltd
Math o wrandawiad
Panel Addasrwydd i Ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod pryderon diogelu difrifol wedi’u profi yn erbyn Niaomi Hannam, gweithiwr gofal preswyl i blant..

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Hannam i ymarfer a gosododd orchymyn dileu sy’n golygu na fydd Ms Hannam yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol wedi’i rheoleiddio yng Nghymru. Bydd enw Ms Hannam yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n cael eu Dileu.

Mae gan Ms Hannam yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru



Crynodeb o honiadau

Bydd y gwrandawiad hwn yn ystyried pryderon diogelu difrifol a godwyd mewn perthynas ag ymddygiad Ms Hannam.