Jump to content
Jane Alana Williams
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal preswyl i blant
Canlyniad
Gorchymyn Dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Senad Group
Math o wrandawiad
Panel Addasrwydd i Ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod euogfarn am geisio cyflenwi canabis a methu â hysbysu ei chyflogwr yn brydlon am ei harestiad ar ymchwiliad heddlu parhaus wedi’i brofi yn erbyn Jane Alana Williams, gweithiwr gofal preswyl plant cofrestredig.

Canfu’r Panel fod nam ar addasrwydd i ymarfer presennol Ms Williams a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Jane Alan Williams yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr a'i roi ar y Rhestr o Bersonau a Ddilëwyd.

Mae gan Jane Alana Williams yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y penderfyniad ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru



Crynodeb o honiadau

Cafwyd Ms Williams yn euog o geisio cyflenwi swm o 32.86 gram o Ganabis, a methodd â rhoi gwybod i'w chyflogwr am ei harestio a'i hymchwiliad parhaus gan yr heddlu.