Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiad o bryderon diogelu difrifol wedi’i brofi yn erbyn ymddygiad Ms Ille, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Ilie i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Ms Ilie yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bersonau sydd wedi’u Dileu o’r Gofrestr.
Mae gan Ms Ilie yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru