Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod pryderon diogelu difrifol wedi’u profi yn erbyn Balwinder Kaur Milner, gweithiwr gofal cartref, sef ei bod wedi defnyddio ataliaeth amhriodol wrth ddarparu gofal i ddefnyddiwr gofal a chymorth.
Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Balwinder Kaur Milner i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fyddant yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru. Bydd enw Balwinder Kaur Milner yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bersonau sy’n Cael eu Dileu o’r Gofrestr.
Mae gan Balwinder Kaur Milner yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal cyn pen 28 diwrnod.
Mae mwy o wybodaeth am yr achos ar gael ar gais, fodd bynnag noder y gallai peth gwybodaeth gael ei golygu.
Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru