Mae dirprwy reolwr lleoli oedolion/cysylltu bywydau yn cefnogi ac yn cynorthwyo rheolwr y gwasanaeth a bydd, pan fydd angen, yn dirprwyo ar ran y rheolwr.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Cymwysterau sy'n cael eu hargymell ar gyfer ymarfer:
-
City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
a
-
City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
neu
-
City and Guilds Lefel 4 Lleoli Oedolion / Cysylltu Bywydau
neu
-
Cymhwyster mewn gwaith cymdeithasol, wedi’i gymeradwyo gan Gofal Cymdeithasol Cymru