Mae gweithiwr llety diogel yn rhoi gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn i blant a phobl ifanc, i’w helpu i gael canlyniadau cadarnhaol.
Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd
Gofynnol er mwyn cofrestru:
-
City and Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
ac
-
City and Guilds Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
neu
-
City and Guilds Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
neu
-
Gradd mewn gwaith cymdeithasol
Mae unrhyw weithiwr sydd ddim yn meddu ar un o’r cymwysterau yma yn gallu rhoi cais i gofrestru trwy ddefnyddio un o’r llwybrau i gofrestru.
Fe dderbynnir unrhyw gymwysterau a rhestrwyd ar gyfer rolau uwch yn yr un maes gwasanaeth ar gyfer cofrestru yn y rôl yma hefyd.