Dywedwch wrthym am eich profiad o weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant
Dywedwch wrthym am eich profiad o weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant
Mae ein harolwg o'r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru bellach ar agor.
Dyma'r ail flwyddyn i ni gynnal yr arolwg hwn. Mae'r hyn a ddywedoch chi wrthym llynedd wedi rhoi darlun cliriach o'r gweithlu i ni. Bydd yr arolwg eleni yn adeiladu ar hynny, gan ein helpu i ddeall beth sydd wedi newid, beth sydd angen sylw o hyd, a pha gefnogaeth gallai fod ei angen ar y gweithlu yn y dyfodol.
Mae ‘Strategic Research and Insight’ (SRI) yn rheoli'r arolwg ac yn dadansoddi'r canfyddiadau ar ein rhan.
Bydd eich atebion yn ein helpu i ddeall:
- beth mae pobl yn ei fwynhau am eu gwaith
- pa gefnogaeth sydd ei angen ar bobl
- beth allai helpu pobl i aros yn y sector
- beth allai wneud y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn lle gwell i weithio.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sy'n gweithio ar draws pob rôl a lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr, rheolwyr a gwarchodwyr plant, a phobl sy'n gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser.
Helpwch ni i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl trwy rannu'r arolwg. Y nifer fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y cryfaf a'r mwyaf defnyddiol fydd y canfyddiadau.
Sut i gymryd rhan
Mae'r arolwg yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau. Bydd eich ymatebion yn ddienw – ni fyddwn yn gofyn am eich enw ac ni fydd eich ymatebion yn cael eu cysylltu'n ôl â chi.
Bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun, 30 Tachwedd 2026. Byddwn ni'n cyhoeddi'r canlyniadau ar ein gwefan yng ngwanwyn 2027 ac yn rhannu'r canfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â Saadiah yn Strategic Research and Insight:
Ebost: saadiah@strategic-research.co.uk
Ffôn: 07903 364936