Jump to content
Cynllun darparu Cymru iachach: strategaeth gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 2022 i 2023

Mae’r cynllun darparu ar gyfer strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn amlinellu’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i ateb yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn 2022 i 2023 a thu hwnt.

Introduction

Lansiwyd ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a ddatblygwyd gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru, yn Hydref 2020 i gefnogi gweithrediad Cymru Iachach. Cafodd ei lansio yn ystod misoedd cyntaf y pandemig Covid-19 ac mae’r strategaeth hyd yma wedi digwydd yn erbyn cefndir y pandemig parhaus hwn.

Roedd nifer o newidiadau deddfwriaethol a gwleidyddol a ddaeth gyda:

Mae hyn i gyd wedi cael, ac a fydd yn parhau, i gael effaith ar fodelau gwasanaeth a darparu yn y dyfodol rhagweladwy, a bydd yn cael effaith ar faint y gweithlu a sut fath o weithlu fydd ei angen arnom.

Gan edrych ymlaen, rydym yn aros am adroddiad cyntaf o’r Grŵp Arbenigol y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol a chanlyniadau’r Fforwm Gwaith Teg Cymdeithasol

Rydym eisoes wedi gweld cyfraniad y fforwm drwy gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol ac yn rhoi cymorth i Lywodraeth Cymru gyda deall yr effaith y mae hyn wedi’i gael ar yr argraffiadau o’r gweithlu, gan gynnwys pobl sy’n newydd i’r sector.

Mae’r pandemig yn parhau i gael effaith, gyda lefelau amrywiol o drosglwyddo haint a heintio yn effeithio ar y darpariad o wasanaethau, mynediad at wasanaethau i ymwelwyr a denu, recriwtio a chadw staff yn effeithio’r gweithlu. Mae’r effaith yma’n waeth mewn sector a wynebodd yr heriau hyn hyd yn oed cyn y pandemig. Mae angen i ni barhau i roi’r cymorth yn ei le sydd ei angen ar y gweithlu a chyflogwyr, drwy weithredu ymrwymiadau’r strategaeth yn ddi-oed a phwrpasol a rhoi ffocws ar y themâu o les, yr Iaith Gymraeg a chynhwysiant sy’n rhedeg drwy gydol y strategaeth ac yn tanategu’r holl y rydym yn ei wneud.

Mae angen i ni barhau i roi ffocws ar sicrhau parch cydradd rhwng y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, ac o fewn y gweithlu gofal cymdeithasol. Mae’r heriau recriwtio a chadw staff yn dangos yn glir bod angen mwy o ffocws ar amrywiaeth ein gweithlu a hefyd ar y problemau mwy a wynebir gan rai, yn enwedig ein cydweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig, fel bod gwasanaethau’n adlewyrchu ar boblogaeth ac anghenion y cymunedau a wasanaethir ganddynt.

Rhaid i les fod wrth galon popeth a wnawn fel ei bod yn ategu ein hymdrechion i wella recriwtio a chadw staff. Mae angen i ni dalu sylw i’r gweithlu presennol, gan sicrhau bod y sector yn apelio ddigon fel bod pobl newydd yn ymuno ac aros. Mae angen i ni barhau i ddelio â’r twf sydd ei angen rhwng nawr a diwedd y strategaeth wrth i’r galw am wasanaethau dyfu. I wneud hyn, rhaid i ni ddeall pa gyflenwad fydd ar gael i’r gweithlu yn y dyfodol, o bob oedran.

Er bod dal llawer o heriau, rydym wedi gwneud cynnydd da iawn yn ystod 18 mis cyntaf y strategaeth a mae’r llwyddiannau hyd yma yn cael eu dangos yn glir yn adroddiad blynyddol y strategaeth gweithlu ar gyfer 2021 i 2022.

Ar y pwynt hwn yn y strategaeth, roeddem yn disgwyl bod mewn sefyllfa i ganolbwyntio ar gynlluniau gweithredu canol-tymor. Ond oherwydd y pwysau parhaus ar wasanaethau, cytunwyd bod angen datblygu cynllun darparu arall ar gyfer gofal cymdeithasol am 2022 i 2023, gan ddefnyddio’r adolygiad tri-mlynedd, sydd wedi’i gynllunio fel rhan o’r strategaeth wreiddiol, i edrych eto a gloywi’r camau gweithredu yn y strategaeth. Mae’r broses hon eisoes wedi dechrau a byddwn yn ffocysu ar hyn yn bellach yn ystod haf 2022. Rydym yn gobeithio rhyddhau strategaeth ddiwygiedig a chynllun gweithredu i gyflawni uchelgeisiau hirdymor y strategaeth erbyn Ebrill 2023.

Gweithlu cysylltiedig, iach ac ymroddedig

Gydag AaGIC byddwn yn:

  • rhannu arferion da ac adnoddau rhwng iechyd a gofal cymdeithasol i sbarduno gwelliannau, a wnawn gyfnewid lleoedd ar rwydweithiau iechyd a lles
  • parhau i gefnogi Canopi, gwasanaeth cymorth iechyd meddwl, ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn:

  • parhau i ychwanegu at, gwerthuso a diwygio’r ystod o adnoddau lles sydd ar gael ar ein gwefannau ac yn allanol
  • cyhoeddi a monitro ein llwyddiant yn erbyn ein cynllun cydraddoldeb strategol
  • cyfrannu at weithrediad Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil Llywodraeth Cymru
  • parhau i gynnal rhwydwaith lles cymdeithasol ar gyfer partneriaid a rhanddeiliaid
  • lansio ein fframwaith iechyd a lles, gan osod ymrwymiadau a ddisgwyliwn gan gyflogwyr a’n staff, er mwyn sbarduno profiad staff gwell a gwella ansawdd
  • helpu’r sector i ddatblygu grwpiau cyd-gymorth i wella gwydnwch a lles eu gweithlu
  • cefnogi lles rheolwyr gyda mwy o ddigwyddiadau gwytnwch dysgu a datblygu
  • parhau i gefnogi’r sector i weithio’n ddwyieithog gydag adnoddau targed i gefnogi’r gweithlu presennol, a gweithlu’r dyfodol, fel rhan o’n hymrwymiad i Mwy na Geiriau
  • parhau i gyfrannu at Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ag arweinir gan Lywodraeth Cymru sy’n anelu at wella amodau gweithio mewn gofal cymdeithasol. Gallwch ddod o hyd i’w cylch gwaith llawn yma
  • sefydlu astudiaeth reolaidd a systematig i gasglu data a darparu gwybodaeth eang a pharhaus am y gweithlu gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol yng Nghymru
  • cryfhau ein cefnogaeth i gyflogwyr trwy dreialu adnodd sy'n dod â'n gwasanaethau rheoleiddio a datblygu ynghyd, gan weithio i ddechrau gyda chartrefi gofal oedolion
  • cynnal seremoni Wobrwyo i gydnabod cyfraniad eithriadol y gwahanol dimau ac unigolion i ddarparu gofal cymdeithas.

Denu a recriwtio

Gydag AaGIC byddwn yn:

  • datblygu cysylltiadau â’r Rhwydweithiau Gyrfaoedd rhwng dulliau gyrfaoedd mewn iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn cyrraedd mwy o bobl
  • parhau i gefnogi rhwydwaith ar-y-cyd i rannu arferion da ac adnoddau i sbarduno gwelliannau mewn denu a chadw staff ar draws y sectorau.

Byddwn yn:

  • datblygu cynlluniau targed ar gyfer proffesiynau sy’n wynebu prinder, a meysydd anodd recriwtio iddynt, gyda ffocws ar waith cymdeithasol yn 2022 i 2023
  • parhau i hyrwyddo prentisiaethau fel dewis gyrfa hyfyw i ymuno ac aros yn y sector
  • gweithio gyda rhanddeiliaid fel yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru, a chyrff dyfarnu, fel City & Guilds a CBAC, i gryfhau’r cysylltiadau rhwng pobl sy’n chwilio am waith a gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol
  • parhau i ariannu’r swyddi cysylltydd gyrfaoedd gofal yn y saith rhanbarth
  • parhau i gynnal y rhaglen cyflwyniad i gofal cymdeithasol ar draws Cymru, a gwerthuso ei chanlyniadau
  • parhau i ddatblygu gwefan Gofalwn.Cymru gan ychwanegu adnoddau penodol a chymorth i gyflogwyr
  • rhoi cymorth pellach i ddatblygu’r porth swyddi gan wella profiad y defnyddiwr i gyflogwyr a phobl sy’n chwilio am waith
  • parhau i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a theledu i hyrwyddo GofalwnCymru
  • datblygu mwy ar raglen llysgenhadon Gofalwn Cymru i arddangos a thynnu sylw at swyddi gofal
  • parhau i gyflwyno cyfres o weminarau hyfforddiant sy’n rhoi ffocws ar brif elfennau Recriwtio ar Sail Gwerthoedd, gan gynnwys rhannu ystod o adnoddau i helpu cyflogwyr i ystyried a mabwysiadu’r dull hwn o recriwtio.

Modelau gweithio di-dor

Gydag AaGIC byddwn yn:

  • gweithio gyda phartneriaid i ehangu’r hyfforddiant i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal drwy swyddi hwyluswyr addysg cartrefi gofal
  • cyhoeddi cynllun gweithlu i gyd-fynd â Law yn Llaw at Iechyd Meddwl gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau cynnar ar gyfer CAMHS a gwasanaethau seicoleg glinigol ac ‘amenedigol’
  • datblygu cynlluniau gweithredu i gefnogi cynllun y gweithlu iechyd meddwl
  • symud ymlaen â’r gwaith ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid
  • cyfrannu at, a chefnogi thema gweithlu a datblygiad sefydliadol y rhaglen Gofal Sylfaenol Strategol
  • cyfrannu at, a chefnogi rhaglenni gwaith yn ymwneud â nyrsio mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys data cynllunio’r gweithlu, lleoliadau i nyrs-fyfyrwyr mewn cartrefi gofal, a dulliau o weithredu cynlluniau imiwneiddio
  • cynnal digwyddiad dysgu a gwerthuso am y peilot cynefino yn Hywel Dda.

Byddwn yn:

  • cynnal sesiynau cyd-ddysgu gyda phartneriaid i drafod heriau amlsector a sut gallem gyd-gynhyrchu atebion a gweithredoedd i gefnogi’r datblygiad o les a gwydnwch cymunedol ar draws Cymru
  • cyhoeddi cynllun gweithlu i’r gweithlu gofal uniongyrchol
  • cyhoeddi cynllun gweithlu i’r proffesiwn gwaith cymdeithasol, gan gynnwys fframwaith ôl-gymhwysol newydd.

Creu gweithlu digidol-barod

Gydag AaGIC byddwn yn:

  • lansio hyfforddiant ar-lein diwygiedig ar atal a rheoli heintiau (IPC).

Byddwn yn:

  • helpu i gynyddu ar allu digidol gwell o fewn ein gweithlu
  • parhau i ddatblygu adnoddau dysgu ar-lein
  • parhau i ddatblygu llwyfan dysgu digidol gan ychwanegu mwy o adnoddau dysgu a datblygu i’r sector eu defnyddio
  • monitro darpariaeth y flaenoriaeth genedlaethol i gyflwyno dulliau digidol drwy Grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2021 i 2022
  • gwneud ymchwil i ddeall y symud at ddysgu a datblygu digidol yn y sector, gan gynnwys adnabod pa gymorth sydd ei angen i wella hyn ymhellach.

Addysg a dysgu rhagorol

Gydag AaGIC byddwn yn:

  • gweithio gyda’r City & Guilds i rannu gwybodaeth a data am effaith Covid-19 ar ddarparu ac ennill cymwysterau galwedigaethol.

Byddwn yn:

  • gweithio gyda phartneriaid i gynnig mwy o gyfleoedd i ddysgwyr derbyn eu haddysg a’u hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
  • gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith a phrentisiaethau fel eu bod yn ddewisiadau gyrfa hyfyw i ymuno ac aros yn y sector
  • ehangu mynediad at, a hyrwyddo llai o wahaniaeth cyrhaeddiad a chyflawni ar draws y rhaglenni addysg iechyd a gofal
  • arwain ar ddatblygu rhaglen ddysgu i gefnogi gweithrediad y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid a’i rhoi ar waith
  • cefnogi gwaith y cynghorau o ddatblygu cynlluniau trawsnewid, yn enwedig y newid systemig sydd angen iddo ddigwydd i gefnogi ymarfer ar sail cryfderau
  • datblygu sgiliau, gallu a chysylltiadau’r rhai sy’n defnyddio, darparu ac ymchwilio i ofal a chymorth yng Nghymru
  • monitro’r nifer sy’n astudio a darpariaeth y cymwysterau Lefel 2 a 3 newydd a chefnogi gweithrediad y cymwysterau Lefel 4 a 5 newydd
  • cefnogi gweithrediad a faint sy’n defnyddio’r fframweithiau prentisiaeth Lefel 4 a 5 diwygiedig
  • cynnal a datblygu Rhwydwaith Mentoriaid Cymru-Gyfan ar gyfer ymarfer gyda ffocws ar ganlyniadau
  • dadansoddi, adrodd a gweithredu ar effaith Covid-19 ar ddysgwyr na lwyddodd i gwblhau asesiadau neu leoliadau
  • datblygu ac ymgynghori ar safonau cyson ar gyfer dysgu a hyfforddiant diogelu a rhyddhau fframwaith i gynorthwyo eu gweithrediad
  • datblygu adnoddau digidol i gyd-fynd â’r canllawiau ar arferion cyfyngol
  • darparu cymorth parhaus i fyfyrwyr-weithwyr cymdeithasol o’r cam hyfforddiant cymhwyso i’r cam cyflogaeth
  • cyhoeddi’r adolygiad o’r fframwaith cymhwyso ar gyfer gwaith cymdeithasol a gweithredu’r argymhellion ar ein cyfer
  • datblygu a gweithredu fframwaith ôl-gymhwysol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol
  • cefnogi defnydd y fframwaith cynefino ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol
  • parhau i gefnogi defnydd y Fframwaith Cynefino Cymru-Gyfan, a gwerthuso’r defnydd a wneir o’r gweithlyfrau
  • cefnogi darpariaeth barhaus y wobr Ymarferwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
  • cyhoeddi a chefnogi gweithrediad y fframwaith cymwyseddau ar gyfer gweithwyr gwybodaeth, cyngor a chymorth
  • cyfrannu at adolygiad llai manwl o’r cymwysterau galwedigaethol ar Lefel 2-5 mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Arweinyddiaeth ac olyniaeth

Gydag AaGIC byddwn yn:

  • gweithio i ddatblygu ac wedyn ehangu'r cyfleoedd gofal cymdeithasol o fewn y porth Gwella, fel y gall ddod yn safle i reolwyr ac arweinwyr sy'n dymuno archwilio ac ymgymryd â chyfleoedd datblygiad proffesiynol ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd
  • adolygu'r gwaith arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol a chytuno ar feysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu a dysgu cydweithredol.

Byddwn yn:

  • parhau i fuddsoddi mewn datblygu arweinwyr tosturiol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
  • datblygu a pheilota rhaglen uwch-arweinyddiaeth traws-sector mewn gofal cymdeithasol, ar draws y sector statudol a’r trydydd sector
  • parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni arweinyddiaeth benodol ar gyfer penaethiaid gwasanaeth a chyfarwyddwyr statudol sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol, gan gynnwys cymwysterau TMDP a MMDP, gyda rhaglenni datblygu pwrpasol yn eu lle ar gyfer cyfarwyddwyr ac is-gyfarwyddwyr gwasanaeth a’r gweithlu
  • datblygu rhaglen ddysgu a datblygu ar gyfer darpar reolwyr a’i roi ar waith
  • cefnogi rhwydweithiau ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol cofrestredig mewn gwasanaethau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus i wella lles a helpu i amddiffyn gwytnwch
  • parhau i gefnogi hyrwyddo a gweithredu’r cymwysterau Lefel 4 a 5 newydd, gan gynnwys y llwybrau prentisiaeth gysylltiedig
  • parhau i ddarparu rôl arweinyddiaeth mewn hyrwyddo gweithio’n ddwyieithog
  • cefnogi cynllun gweithredu Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru gan ddatblygu cynllun gweithredu diwygiedig ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cyflenwad a ffurf y gweithlu

Gydag AaGIC byddwn yn:

  • cyhoeddi’r cynllun ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl a rhoi ei weithredoedd ar waith.

Byddwn yn:

  • parhau i gydlynu casgliad data’r gweithlu, gan wella lefelau dychwelyd a chywirdeb y data
  • parhau i newid ein dulliau casglu data i sicrhau bod data trylwyr ar gael, a bod mwy o ddata ar iaith a tharddiad ethnig yn cael ei adrodd
  • parhau i gynorthwyo’r gweithlu cartrefi gofal i gofrestru mewn amser ar gyfer cofrestriad gorfodol ym mis Hydref 2022
  • cyhoeddi’r cynlluniau gweithlu ar gyfer y gweithlu gofal uniongyrchol a’r proffesiwn gwaith cymdeithasol
  • craffu ar faterion o bryder i ddeall proffil y gweithlu’n well a darparu gwybodaeth i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol. Er enghraifft, drwy broffilio nyrsys gofal cymdeithasol, ac edrych at gyfraddau trosiant mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a gofal cartref
  • cynnal adolygiad cwmpasu o ddulliau cynllunio’r gweithlu ar draws y sector gan wneud argymhellion ar gyfer datblygu’r gwaith hwn.

Casgliad

Mae’r pandemig wedi cael effaith hirbarhaus ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae wedi taflu golau ar yr heriau a oedd yn bodoli cyn y pandemig ac wedi creu heriau newydd wrth i ni barhau i adfer o’r pandemig.

Roedd gwireddu uchelgais y strategaeth 10 mlynedd wastad yn ddyhead ac rydym yn cydnabod bod mwy o waith i’w wneud er mwyn rhoi cynlluniau mwy hirdymor mewn lle i weld y dyhead hwnnw’n gweld golau dydd. Byddwn yn parhau i gefnogi cydweithrediad ar draws iechyd a gofal cymdeithasol a rhwng cyrff lleol a chenedlaethol drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol.

Mae’r gwaith a wnaed ers lansio’r strategaeth, sy’n cysylltu’r gwaith yn glir i’r saith thema allweddol ac yn ategu edafedd aur, wedi’n caniatáu i gynyddu momentwm y gallwn adeiladu arno yn y dyfodol, yn unol â’n dyheadau a’n hamcanion mwy hirdymor. Mae hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i ateb yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn 2022 i 2023 ac ymhellach.

Mae gennym gynllun clir ar gyfer 2022 i 2023. Rydym hefyd wedi cynllunio cyfres o weithdai sydd i’w cynnal yng nghanol a thuag at ddiwedd 2022 i 2023 fel rhan o’r adolygiad ffurfiol cyntaf y strategaeth, fel paratoad ar gyfer strategaeth ddiwygiedig a chynllun gweithredu mwy hirdymor ar gyfer 2023 ymlaen.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Medi 2022

Cyhoeddwyd gyntaf: 13 Medi 2022
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (60.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch