0:12
Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn yn Hafan y Sêr.
0:17
Mae rhan fwyaf o’r plant a phobl
0:19
ifanc sydd yn dod yma yn siarad Cymraeg iaith gyntaf.
0:22
Mae'r teuluedd yn siarad Cymraeg y iaith gyntaf.
0:26
Rydyn ni’n ardal eithaf Cymraeg yn yr ardal yma.
0:30
Mae'r plant sy'n dod yma yn mynd i deimlo fwy catrefol os ydy’n nhw'n clywad ei mamiaith
0:35
yn cael ei siarad o'u cwmpas nhw.
0:38
Hyd yn oed os ydyn nhw’n ddi-lafar, mae e dal yn bwysig bod
0:40
nhw'n clywad y iaith mae’n nhw’n arfer ei glywad.
0:49
Rydyn ni’n lwcus iawn yn Hafan y Sêr.
0:51
Mae gynnon ni reolwr sydd yn awyddus iawn i annog staff i ddatblygu eu hunain.
0:58
Bob un tro mae ‘na gyfleoedd a cyrsiau
1:03
yn dod i fyny, mae hi yn rhannu'r wybodaeth yma efo staff
1:07
ac yn ein hannog ni i fynd amdani.
1:11
Wedyn dyma ddigwyddodd pan ddaeth y cyfle i wneud y cwrs Lefel 4.
1:16
O'n i wedi gwneud y Lefel 3 wrth gychwyn yma yn y swydd.
1:22
A wedyn oedd o'n braf cael y lefel o progression.
1:26
O'n i'n gweld beth o'n i wedi gwneud cynt.
1:28
O'n i'n gweld sut o'n i, iawn dwi'n gwthio fy hun ond mae o werth o.
1:34
Nes i wneud y Lefel 4 professional practice
1:38
efo'r leading practice i blant efo anableddau.
1:48
Wrth wneud y cwrs Lefel 4, nes i ddysgu dipyn, sydd wedi dod
1:54
yn berthnasol iawn yn fy rôl rwan fel uwchweithiwr.
1:59
Mae pethau fel cefnogi staff, pethau fel goruchwylio,
2:08
a jyst cael mwy o ddealltwriaeth. Dwi’n teimlo fel dwi 'di cael dealltwriaeth
2:14
uwch o'r legislations sydd mewn lle mewn swydd fel hyn.
2:21
O'n i'n gwbod amdanyn nhw cyn gwneud y Lefel 3.
2:24
Ond wrth edrych yn fwy manwl,
2:26
pethau fel y Social Services Well-being Act,
2:29
mae nhw mor bwysig i roi fframwaith i ni i fedru cefnogi
2:34
y bobl ifanc sydd yn dod yma, mewn ffordd ddiogel.
2:43
Yr assessor oedd yn dod yma i osod ein tasgau ni i ni.
2:49
Oedd hi yn rhoi timeframe o tua tair wythnos i fis i ni gwblhau'r assignments.
2:55
A mi oedd hyn yn ddigon o amser oedd o'n manageable.
2:59
Ar y cychwyn mi o'n i'n stryglo ychydig bach efo
3:05
time management a rheoli fy amser yn effeithiol.
3:08
Oherwydd oeddwn i'n ei adael o tan y munud olaf
3:10
ag o'n i wedyn yn gweithio fy hun i fyny am bach.
3:15
Ond nes i weld, iawn dyw hyn ddim yn gweithio i fi.
3:18
Dwi'n mynd i roi rhywbeth mewn lle i reoli fy amser yn fwy effeithiol.
3:22
So, nes i setio amser i un ochr bob wythnos.
3:27
Nes i feddwl “iawn dwi mynd i wneud ryw awr o waith rwan”,
3:32
a wedyn jyst torri fe lawr i chunks llai.
3:35
A wedyn mi wnaeth hynny weithio'n dda i fi.
3:43
Fel prosiect ar ddiwedd yr holl waith,
3:48
nes i ddewis mynd am active support neu cefnogaeth weithredol.
3:53
Mae hwn yn bwnc sydd wedi bod yn bwysig i fi
3:58
ers i fi gychwyn yn Hafan y Sêr i ddeud y gwir.
4:00
Gafon ni hyfforddiant active support yn yr wythnos cyntaf o gychwyn yn Hafan y Sêr.
4:08
A nath o resonetio efo fi'n syth.
4:11
Mae active support yn syml yn annog
4:16
ni fel staff i gefnogi pobl a phlant i neud
4:21
pethau drostyn nhw eu hunan lle mae nhw'n medru.
4:25
Helpu nhw i neud pethau iddyn nhw eu hunain.
4:28
Mae o jyst 'di bod yn agoriad llygad a mae staff hefyd wedi gweld,
4:32
“o iawn, oce, dydy active support ddim yn rhywbeth jyst i neud fel chore.”
4:38
Mae o'n way of life.
4:40
Mae o'n approach i ddefnyddio, i gefnogi y plant trwy'r dydd a phob dydd.
4:47
Mae o wedi newid y system a ffordd ni'n gweithio i'r gorau dwi’n meddwl.
4:53
Dwi’n teimlo ei fod o wedi gwneud lles mawr
4:57
ac heb wedi cael gwneud y Lefel 4 a gwneud y gwaith yna fel rhan o'r dasg,
5:02
dwi ddim yn meddwl effallai fysa hynna di dod i fruition mor sydyn a wnaeth o.
5:07
Pan mae Sue yma gyda fi
5:10
byddai'n mynd allan trwy’r dydd,
5:11
a ddim chwarae ar fy ffon yr holl amser.
5:14
Byddwn ni jyst yn mynd rhywle.
5:17
Dwi’n mor hapus pan ry'n ni gyda’n gilydd.
5:23
Dwi hefyd wedi dysgu mwy amdano fi fy hun.
5:26
Dwi wedi sylweddoli mi fedra i wneud rhywbeth
5:29
os dwi'n gosod fy meddwl arno fo.
5:31
Ac mae yna potensial i fynd yn uwch mewn gyrfa.
5:36
O'n i ddim yn meddwl wrth gychwyn,
5:39
gweithio'n Hafan y Sêr, byswn i mewn rôl uwch erbyn rwan.
5:43
Ond mae rhywun yn medru gwneud mwy na beth mae nhw'n feddwl.
5:47
Dwi yn falch, dwi'n prowd o fy hun am wneud o.
5:51
Mae e wedi gweithio allan yn bositif iawn. Dwi yn falch.
5:56
Byswn yn annog rhywun sy'n cael y cyfle i fynd amdani oherwydd mae o werth o.
6:01
Mae 'di bod yn gret.
6:02
Dwi wedi datblygu gymaint mwy o hyder yn ei wneud o.
6:06
Paratoi, gofyn am help os oes angen,
6:09
a jyst ffocysu ar eich hun a coeliwch bod chi'n medru ei wneud o
6:15
ac mi wnewch i o.
6:17
Ie, ewch amdani!