Helo Gemma Halliday ydw i, cyfarwyddwr cynorthwyol yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Ein gweledigaeth yw i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth yng Nghymru i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae angen i lawer o bobl sy’n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol gofrestru gyda ni. Mae bod wedi cofrestru gyda ni yn golygu eich bod yn rhan o weithlu proffesiynol ac yn gallu dangos bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth gywir i ddarparu gofal a chefnogaeth dda i bobl Cymru. Rydym yn credu mewn dull sy’n seiliedig ar gryfderau. Mae hyn yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn gweithio gyda’i gilydd i benderfynu sut i gefnogi eu hiechyd a’u lles, a byw’r bywyd gorau posibl.
Mae’r adnodd HIV hwn yn bwysig i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gan y dylid ddarparu gofal cymdeithasol mewn ffordd wrth-wahaniaethol. Rydyn ni eisiau gwneud yn siwr nad yw pobl sy’n byw gyda HIV yn wynebu stigma, p’un ai ydyn nhw’n derbyn gofal a chefnogaeth neu’n gweithio mewn gofal cymdeithasol. Rydyn ni eisiau atgyfnerthu’r neges o U=U, undetectable yn golygu untransmittable. Rhan o hyn yw gwenud yn siŵr bod unrhyw chwedlau hen neu anghywir yn cael eu chwalu. Rwy’n bersonol yn cofio’r negeseuon HIV ac AIDS o’r 80au, felly rwyf am wneud yn sîwr bod pobl yn deall bod pethau’n wahanol nawr a bod pobl â HIV yn gallu byw bywydau hir ac iach gan gynnwys cael plant heb HIV. Rydym am ddathlu llwyddiant triniaethau HIV, ac rydym yn diolch i chi am gwblhau’r e-ddysgu hwn. Mae hyn yn dangos eich ymrwymiad i ddatblygu sector gofal cymdeithasol heb stigma yma yng Nghymru.
Bydd y modiwl dysgu hwn yn helpu i sicrhau bod eich practis yn bodloni gofynion y Cod Ymarfer Proffesiynol. Dylai pob gweithiwr gofal cymdeithasol ddilyn y Cod, hyd yn oed os nad oes rhaid iddynt gofrestru gyda ni. Ac mae’n bwysig cofio nad yw ymddygiad gwahaniaethol yn dderbyniol, a gallai gwestiynu addasrwydd gweithiwr gofal cymdeithaol cofrestredig i ymarfer. Ar ôl i chi orffen y modiwl, cymerwch ychydig o amser i feddwl am yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu a sut y gall eich cefnogi gyda’ch ymarfer o ddydd i ddydd. Siaradwch â’ch cyflogwr neu reolwr a rhannwch eich meddyliau gyda nhw.