Gwybodaeth am gael gwared ar elw o ofal preswyl plant, a ble gallwch ddarganfod mwy.
O dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddileu gwneud elw mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol plant yn raddol.
Mae hyn yn berthnasol i gartrefi plant, gwasanaethau maethu a llety diogel i blant.
Dechreuodd cam cyntaf y gweithredu ar 1 Ebrill. Ers hynny, mae'n rhaid i bob darparwr newydd o'r gwasanaethau hyn yng Nghymru weithredu ar sail nid-er-elw.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cylchlythyrau am y gweithredu ar eu gwefan.
Sut ydyn ni'n cefnogi'r gweithredu?
Rydyn ni’n helpu i gyflwyno'r polisi trwy gefnogi gweithlu gofal cymdeithasol plant i fod yn gynaliadwy, medrus a gwydn.
Ein partneriaid
Mae dau sefydliad partner allweddol yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi'r gwaith o weithredu'r newidiadau hyn: Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru).
Mae CIW yn rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau sy'n cael eu heffeithio gan y polisi tynnu elw.
Gelwir y gwasanaethau hyn gyda'i gilydd yn 'wasanaethau plant cyfyngedig' ac maent yn cynnwys:
- cartrefi plant
- gwasanaethau maethu
- gwasanaethau llety diogel.
Mae'n rhaid i AGC weithredu'r newidiadau i gyfreithiau a chanllawiau, i wneud yn siŵr mai dim ond gwasanaethau plant cyfyngedig nid-er-elw sy'n gallu cofrestru o 1 Ebrill.
Mae'n rhaid i AGC hefyd sicrhau nad yw gwasanaethau plant cyfyngedig 'er elw' presennol yn ehangu eu gwasanaethau o 1 Ebrill 2027 ymlaen.
Mae AGC yn gweithio gyda sefydliadau eraill i fonitro a gorfodi gofynion yn y Ddeddf.
Byddant yn atal darparwyr gwasanaethau plant cyfyngedig nid-er-elw rhag gwneud trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur.
Gallwch ddarganfod mwy am rôl AGC ar ei wefan.
Mae ADSS Cymru yn cefnogi pob un o'r 22 awdurdod lleol i weithredu'r newidiadau i ymateb i'r ddeddfwriaeth.
Mae ADSS Cymru yn rheoli ac yn cynnal gweithgorau ar:
- llywodraethu
- Gweithredu yn y dyfodol
- Cyfreithiol a Pholisi
- cyfathrebu ac ymgysylltu.
Mae pob grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, yn ogystal â sefydliadau partner sy'n ymwneud â chefnogi'r gwaith.