Jump to content
Wythnos Llesiant 2025

Cip olwg o'r ddigwyddiadau sydd i ddod yn ein Wythnos Llesiant 2025 (20 i 24 Ionawr 2025).

Mae Wythnos Llesiant 2025 yn wythnos o ddigwyddidadau ar-lein lle gall pobl yn y sector ddod at ei gilydd i ddysgu am lesiant a rhannu arferion gorau.

Mae'r digwyddiadau yn agored i bawb yn y sector. Os ydych chi wedi cofrestru gyda ni, bydd cymryd rhan yn y digwyddiadau yn cyfrif tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Gallwch ymuno â chymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch.

Ein digwyddiadau: nesaf ar y rhaglen

Dydd Mawrth, 21 Ionawr: 10am i 11.45am

Gweithdy: sut i gefnogi pobl sy'n newydd i fyw a gweithio yng Nghymru

Rydyn ni’n gwybod fod mwy o bobl yn symud i Gymru i ddarparu gofal a chymorth hanfodol.

Mae gweithwyr sy'n cael eu cefnogi a'u hysgogi yn fwy tebygol o barhau i weithio i chi am gyfnod hirach.

Byddwn yn rhannu canllaw gyda chi sydd ar gael i gefnogi pobl sy’n newydd i fyw a gweithio yng Nghymru.

Bydd y sesiwn hon hefyd yn eich cysylltu â rheolwyr ac arweinwyr tîm eraill i rannu profiadau o sut i groesawu staff newydd a'u setlo yn eu rôl newydd.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Mawrth, 21 Ionawr: 1pm i 3pm

Gweithdy: Beth sydd yn eich pecyn cymorth iechyd meddwl?

Gofal Cymdeithasol Cymru a Cortecs, arbenigwyr iechyd meddwl a llesiant

Mae’r sesiwn hon yn gyflwyniad i raglen iechyd meddwl a llesiant Cortecs ar gyfer timau a rheolwyr.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu rhai technegau sy’n canolbwyntio ar leihau straen a phryder, codi eich hwyliau a gwella eich gwydnwch, eich llesiant a’ch gallu i ymdopi.

Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol, a byddwch yn gallu rhannu eich profiadau ac awgrymiadau eich hun os dymunwch.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Mercher, 22 Ionawr: 9.45am i 11.45am

Gweminar: deall diogelwch seicolegol

Mae teimlo cysylltiad, cefnogaeth a’r gallu i fod yn agored ac yn onest yn allweddol i deimlo’n ddiogel yn seicolegol yn y gwaith.

Mae ymchwil yn dweud wrthym fod lefelau uchel o ddiogelwch seicolegol yn rhagweld perfformiad, diogelwch a chanlyniadau da.

Ond a yw hyn bob amser yn bosibl pan fyddwn yn teimlo dan straen ac yn cael llwythi gwaith cynyddol?

Mae’r sesiwn hon yn archwilio sut y gallwn weithio i gynnal diogelwch seicolegol i ni ein hunain, a’r bobl rydym yn gweithio gyda, mewn cyfnodau heriol.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Mercher, 22 Ionawr: 1pm i 2.30pm

Gweithdy: llesiant i ddysgwyr

Gofal Cymdeithasol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Gall rhoi blaenoriaeth i’ch llesiant fel myfyriwr sy’n gweithio fod yn heriol pan fyddwch chi’n ceisio rheoli eich cartref, eich gwaith a’ch astudiaethau.

Yn y sesiwn hon, bydd Tracey Evans, Asesydd a hyfforddwr QCF yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn rhannu ei argymhellion ar gyfer cefnogi pobl trwy eu dysgu i ennill cymwysterau, wrth reoli gofynion gwaith a chartref.

Bydd myfyrwyr gwaith cymdeithasol presennol yn ymuno â ni hefyd a fydd yn rhannu eu profiadau a’r hyn sy’n gweithio iddyn nhw.

Mae croeso i chi hefyd ymuno yn y drafodaeth a rhannu eich dulliau o gydbwyso dysgu gyda’r cartref a’r gwaith, neu’r ffyrdd rydych chi’n cefnogi pobl i ddysgu.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Iau, 23 Ionawr: 9.45am i 11.45am

Sut i greu lleoedd ar gyfer sgyrsiau cefnogol

Gofal Cymdeithasol Cymru a Canopi

Teimlo'n cefnogi gan ein cydweithwyr yw un o’r pethau pwysicaf sy’n effeithio ar ein llesiant yn y gwaith.

Bydd rhai pobl yn y gwaith yn datblygu perthnasoedd cefnogol - yn enwedig pan fydd gwaith yn heriol. I eraill, nid yw'n digwydd mor hawdd.

Bydd y sesiwn hon yn ystyried rhai camau syml i’ch helpu i greu gweithle lle mae sgyrsiau cefnogol yn normal, yn cael eu hannog ac yn gallu digwydd yn aml.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Iau, 23 Ionawr: 1pm i 3pm

Sut i greu diwylliant am weithwyr i siarad yn ddiogel

Mae trefniadau i siarad yn ddiogel yn bwysig iawn yn y gweithle. Mae'n helpu i amddiffyn y gweithlu a'r bobl rydyn ni’n eu cefnogi, yn ogystal â gwneud gofal o ansawdd gwell.

Mae'r diwylliant cywir yn allweddol er mwyn i bobl allu mynegi pryder yn y gwaith ac iddynt deimlo y gwrandewir arnynt a'u bod yn cael eu cefnogi'n briodol drwy'r amser.

Bydd y sesiwn yn ystyried rôl arweinyddiaeth dosturiol i alluogi pobl i siarad yn ddiogel yn y gwaith. Bydd yn cynnwys enghreifftiau o drefniadau siarad yn ddiogel a’r hyn y dylai fod gennych yn ei le.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Gwener, 24 Ionawr: 9.45am i 11am

Cefnogi timau ar ôl digwyddiad critigol

Sut byddai digwyddiad tyngedfennol yn effeithio ar lesiant eich tîm? A fyddech chi'n gwybod sut i'w cefnogi i wella?

Ym mis Gorffennaf 2021, profodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr farwolaeth plentyn proffil uchel a arweiniodd at archwiliad sylweddol gan y cyfryngau a phartneriaid rheoleiddio.

Dengys tystiolaeth y gall awdurdodau lleol sy’n mynd trwy drasiedïau fel hyn ddisgwyl gweld lefel ddigynsail o alw am o leiaf ddwy flynedd wedyn.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn clywed:

  • sut wnaeth yr amseriad y digwyddiad effeithio ar wytnwch a sefydlogrwydd y tîm
  • pam a sut y canolbwyntiodd y tîm ar lesiant, recriwtio a chadw er mwyn helpu eu gweithlu i ymateb i’r digwyddiad a delio â’r canlyniadau
  • yr hyn a ddysgodd y tîm o'r profiad
  • pa effaith a dysgu a ddaeth o'r ffordd hon o weithio.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Y safbwyntiau a fynegir yn y gweithdai hyn yw barn y siaradwyr ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn y sefydliadau y maent yn eu cynrychioli, na barn Gofal Cymdeithasol Cymru.

Ein siaradwyr

Dysgwch fwy am y siaradwyr sy'n arwain ein sesiynau Wythnos Llesiant.

Sesiynau Wythnos Llesiant 2025 sydd wedi dod i ben

Dydd Llun, 20 Ionawr: 9.30am i 11am

Gweminar: yr hyn a wyddom am lesiant yn y gwaith

Gofal Cymdeithasol Cymru a Cymru Iach ar Waith

Bydd Cymru Iach ar Waith yn ymuno â ni i siarad:

  • ei chynnig digidol, sy'n gweithio i wella iechyd yn y gweithle ac atal salwch o fewn sefydliadau yng Nghymru
  • pam dylai cyflogwyr cefnogi gweithwyr gyda chyflyrau hirdymor, fel cyflyrau cyhyrysgerbydol (MSKs).
Dydd Llun, 20 Ionawr: 12.30pm i 3pm

Gweithdy: sut i greu polisïau sy'n cefnogi llesiant yn y gwaith

Gofal Cymdeithasol cymru ac RCS lles ar gyfer gweithio

Mae ein llesiant yn y gwaith yn cynnwys pob rhan o'n bywyd gwaith, gan gynnwys yr amgylchedd rydyn ni’n gweithio ynddo, sut rydyn ni'n teimlo am ein gwaith, y sefydliad a'r bobl rydyn ni'n gweithio gyda.

Mae polisïau gweithle yn disgrifio’r hyn a ddisgwylir gan bawb sy’n gweithio i sefydliad. Maent yn chwarae rhan bwysig wrth gadw pobl yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn y gwaith.

Mae’r gweithdy hwn yn gyfle gwych i:

  • cymerwch amser i feddwl am gynnwys polisïau eich sefydliad
  • clywed awgrymiadau a chyngor ar sut i newid eich polisïau i gefnogi llesiant yn eich gweithle yn well
  • rhannu syniadau gyda rheolwyr ac arweinwyr tîm eraill ar sut i wneud polisïau yn effeithiol ac ystyrlon
  • trafod beth i gynnwys mewn polisi llesiant yn y gwaith
  • cael templedi polisi a dolenni i adnoddau a chymorth pellach y gallech eu cynnwys ynddynt.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Tachwedd 2024
Diweddariad olaf: 20 Ionawr 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (39.3 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch