Jump to content
Cefnogi timau ar ôl digwyddiad critigol
Digwyddiad

Cefnogi timau ar ôl digwyddiad critigol

Dyddiad
24 Ionawr 2025, 9.45am i 11am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Digwyddiad Wythnos Llesiant 2025.

Sut byddai digwyddiad tyngedfennol yn effeithio ar lesiant eich tîm? A fyddech chi'n gwybod sut i'w cefnogi i wella?

Ym mis Gorffennaf 2021, profodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr farwolaeth plentyn proffil uchel a arweiniodd at archwiliad sylweddol gan y cyfryngau a phartneriaid rheoleiddio.

Dengys tystiolaeth y gall awdurdodau lleol sy’n mynd trwy drasiedïau fel hyn ddisgwyl gweld lefel ddigynsail o alw am o leiaf ddwy flynedd wedyn.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn clywed:

  • sut wnaeth yr amseriad y digwyddiad effeithio ar wytnwch a sefydlogrwydd y tîm
  • pam a sut y canolbwyntiodd y tîm ar lesiant, recriwtio a chadw er mwyn helpu eu gweithlu i ymateb i’r digwyddiad a delio â’r canlyniadau
  • yr hyn a ddysgodd y tîm o'r profiad
  • pa effaith a dysgu a ddaeth o'r ffordd hon o weithio.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu sut mae gweithlu wedi cael ei gefnogi ar ôl digwyddiad tyngedfennol a heriau sylweddol eraill.