Information for employers
Beth yw’r ‘cynnig rhagweithiol’?
Ystyr ‘cynnig rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai yr un gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr ag sydd ar gael yn Saesneg.
Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu, a bod y rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau gofal yn gallu dibynnu ar gael eu trin â’r parch ac urddas maen nhw’n ei haeddu.
Gall peidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.
Gallwch ddarllen mwy ym mhecyn gwybodaeth 'cynnig rhagweithiol'.
Yn y clip hwn rydym yn clywed gan weithwyr allweddol a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn Antur Waunfawr, sy'n sôn am pam mae siarad Cymraeg yn bwysig iddyn nhw, a pha wahaniaeth mae hyn yn ei wneud.
Sut i asesu sgiliau iaith Gymraeg
Asesu a chofnodi sgiliau iaith Cymraeg eich staff
Mae’r adnodd yma yn ffordd syml o asesu sgiliau iaith yn seiliedig ar y mathau o dasgau cyfathrebu (darllen, ysgrifennu, siarad â dealltwriaeth) y mae eich staff yn gallu ei wneud drwy’r Gymraeg.
O fewn yr adran yma fe welwch Fframwaith Sgiliau Iaith sydd yn fodd i chi fod yn glir ynglŷn â’r union lefel o sgiliau y cyfeiriwch atynt wrth asesu, recriwtio a chynllunio i ddefnyddio sgiliau cyfarthrebu eich staff.
Cynllunio gweithlu
Mae'r adnodd 'Sgiliau Iaith Gymraeg yn eich gweithlu - eu defnyddio'n effeithiol' wedi ei gynllunio i gefnogi 'Mwy na Geiriau' trwy helpu cyflogwyr a rheolwyr nodi pa lefel sgiliau Cymraeg sydd gan eu gweithwyr.
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys hunanasesiad sy'n gweithio allan sgiliau pobl wrth siarad, ysgrifennu a darllen Cymraeg o'r sylfaenol i'r rhugl. Mae pob lefel yn bwysig ac mae mawr ei angen yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Rydyn ni hefyd wedi creu pecyn ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant sy'n seiliedig ar egwyddorion 'Mwy na geiriau'.
Mae'r pecynnau hyn yn eich helpu chi i wneud defnydd effeithiol o sgiliau iaith, fel y byddech ag unrhyw sgil arall yn y gweithle, er budd a lles pobl sy'n defnyddio'ch gwasanaethau.
Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog
Mae ein adnodd ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ yn cefnogi hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i bobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant ac ar gyfer pobl sydd mewn addysg bellach neu addysg uwch.
Nod yr adnoddau ydy:
- helpu'r hyfforddwr i ddysgu ymwybyddiaeth iaith wrth annog trafodaethau ar y ffordd orau i weithio'n ddwyieithog
- addysgu a grymuso dysgwyr a gweithwyr ar sut i gynnig gwasanaeth gwerthfawr i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan sicrhau bod iaith bob amser yn ystyriaeth ganolog
- eu ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant ‘mewn swydd’ neu sefydlu ar gyfer pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r adnodd hwn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pôb sleid. Cysylltwch â ni os na allwch chi lawrlwytho'r cyflwyniad hwn.
-
Urddas, iaith a gofal - dogfen cyflwynoDOCX 424KB
Modiwl e-ddysgu Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg
Mae’r modiwl hwn ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr gofal cymdeithasol neu blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n dymuno dysgu mwy am yr iaith Gymraeg, diwylliant a gweithio’n ddwyieithog.
Mae'r modiwl yn cynnwys gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd a beth mae'r gyfraith yn ei ddweud. Mae'n edrych ar yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud a pham.
Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar ymarferoldeb gweithio'n ddwyieithog a beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, a'r hyn y gallwch ei wneud i wella profiadau unigolion neu blant sy'n derbyn gofal a chymorth.
Bydd y modiwl yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau ac mae'n cyfri tuag at eich ddatblygiad proffesiynol parhaus os ydych chi wedi cofrestru gyda ni (un awr).
Bydd pawb sy'n ei gwblhau yn derbyn tystysgrif.
Apiau ar gyfer hyfforddiant
Mae Cymraeg Gwaith yn darparu cwrs ar-lein am ddim ar gyfer dechreuwyr sydd wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes gofal. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i gael sgwrs wyneb yn wyneb cychwynnol yn Gymraeg â’r bobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.
Mae’r cwrs Camau | Dysgu Cymraeg yn gwrs hunan-astudiaeth, sy’n addas i ddechreuwyr ac sydd wedi’i hariannu’n llawn gan y Ganolfan Dysgu Gymraeg Cenedlaethol.
Mae Sgiliaith (Grwp Llandrillo Menai) yn cynnig cyngor ymarferol ar arfer da, hyfforddiant staff ac adnoddau, i wella sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig astudio cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng Cymraeg. Mae ganddyn nhw adnoddau i gefnogi dysgwyr sydd â'r cymwysterau CCPLD a HSC newydd ac maen nhw'n cynnig cyrsiau 'Prentis-iaith' i brentisiaid sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd. Maen nhw'n galluogi prentisiaid i gwblhau rhan o'u cymhwyster HSC / CCPLD yn Gymraeg.
Mae cynllun Iaith Gwaith a’r bathodyn swigen oren yn dangos eich bod yn siarad Cymraeg.
Gwiriwr lefel iaith Cymraeg
Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach ddefnyddio rhaglen ar-lein am ddim i asesu eu sgiliau Cymraeg.
Rydyn ni wedi cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu ‘Gwiriwr Lefel’ ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.
Mae’r Gwiriwr Lefel yn asesiad ar-lein i’ch helpu i ddarganfod lefel eich Cymraeg o ran sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Rydych chi'n cwblhau cyfres o asesiadau ar-lein, ac mae eich canlyniadau yn nodi lefel eich Cymraeg - o lefel mynediad hyd at hyfedredd.
Gall unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ddefnyddio’r Gwiriwr Lefel i asesu eu gallu yn y Gymraeg. Mae am ddim i’w ddefnyddio ac ar gael ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron.
Cyrsiau Cymraeg Camau
Ar ôl cwblhau’r asesiad, y cam nesaf i rywun sydd â diddordeb i ddysgu Cymraeg yw cofrestru ar un o’n cyrsiau Camau. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac wedi eu creu yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae’n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau y mae gweithwyr eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.
Mae’n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol a bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.
Gallwch ddarllen mwy am ein cynnig Cymraeg yma.
-
Ein cynnig CymraegPDF 389KB