Jump to content
Gwybodaeth i weithwyr

Gwybodaeth i gefnogi gweithwyr.

Beth yw’r ‘cynnig rhagweithiol’?

Ystyr ‘cynnig rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai yr un gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr ag sydd ar gael yn Saesneg.

Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu, a bod y rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau gofal yn gallu dibynnu ar gael eu trin â’r parch ac urddas maen nhw’n ei haeddu.

Gall peidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.

Gallwch weld mwy yn y pecyn gwybodaeth 'cynnig rhagweithiol.'

Modiwl e-ddysgu Ymwybyddiaeth o'r Gymraeg

Mae’r modiwl hwn ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr gofal cymdeithasol neu blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n dymuno dysgu mwy am yr iaith Gymraeg, diwylliant a gweithio’n ddwyieithog.

Mae'r modiwl yn cynnwys gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd a beth mae'r gyfraith yn ei ddweud. Mae'n edrych ar yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud a pham.

Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar ymarferoldeb gweithio'n ddwyieithog a beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, a'r hyn y gallwch ei wneud i wella profiadau unigolion neu blant sy'n derbyn gofal a chymorth.

Bydd y modiwl yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau ac mae'n cyfri tuag at eich ddatblygiad proffesiynol parhaus os ydych chi wedi cofrestru gyda ni (un awr).

Bydd pawb sy'n ei gwblhau yn derbyn tystysgrif.

Stori Keneuoe

Dyma Keneuoe yn siarad am bwysigrwydd y Gymraeg yn ei swydd hi.

Gwiriwr lefel iaith Cymraeg

Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach ddefnyddio rhaglen ar-lein am ddim i asesu eu sgiliau Cymraeg.

Rydyn ni wedi cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu ‘Gwiriwr Lefel’ ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.

Mae’r Gwiriwr Lefel yn asesiad ar-lein i’ch helpu i ddarganfod lefel eich Cymraeg o ran sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Rydych chi'n cwblhau cyfres o asesiadau ar-lein, ac mae eich canlyniadau yn nodi lefel eich Cymraeg - o lefel mynediad hyd at hyfedredd.

Gall unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ddefnyddio’r Gwiriwr Lefel i asesu eu gallu yn y Gymraeg. Mae am ddim i’w ddefnyddio ac ar gael ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron.

Cyrsiau Cymraeg Camau

Ar ôl cwblhau’r asesiad, y cam nesaf i rywun sydd â diddordeb i ddysgu Cymraeg yw cofrestru ar un o’n cyrsiau Camau. Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim ac wedi eu creu yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol.

Mae’n cynnig dysgu hyblyg drwy gyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar y geiriau a thermau y mae gweithwyr eu hangen fwyaf wrth gyfathrebu gyda’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Mae’n cyfrif tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol a bydd pawb sy’n cwblhau’r cwrs yn cael tystysgrif.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 8 Hydref 2024
Diweddariad olaf: 10 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (45.2 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch