Jump to content
Polisi a deddfwriaeth

Yn dilyn deddfwriaeth a datblygiadau mewn polisi iaith, mae angen i ddarparwyr gwasanaethau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod ganddyn nhw drefniadau staffio cymesur, priodol a digonol ar waith i ddarparu gwasanaeth gofal dwyieithog.

Mae deddfwriaeth bellach wedi sefydlu Safonau Iaith ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Safonau Iaith hyn yr un mor berthnasol i gyrff, asiantaethau, cwmnïau a sefydliadau trydydd parti sy’n darparu gwasanaethau gofal ar ran cyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol.

Mae deddfwriaeth a pholisi yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i wasanaethau Cymraeg mewn gofal cymdeithasol:

  • fod o'r un safon ac ar gael mor rhwydd a phrydlon â gwasanaethau Saesneg
  • beidio tybio mai Saesneg yw'r iaith ddiofyn wrth ddarparu eu gwasanaethau
  • sicrhau nad ydy siaradwyr Cymraeg yn gorfod gofyn am wasanaeth yn Gymraeg.

Dyma rai dolenni defnyddiol am safonau, cynllunio ac ymwybyddiaeth Cymraeg. Mae gwybodaeth hefyd am hawliau, cynlluniau iaith Gymraeg ac arweiniad i gefnogi darparu gwasanaeth dwyieithog.

Beth yw 'Mwy na geiriau'?

‘Mwy na geiriau’ yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Iaith Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Ei nod yw

  • sicrhau bod anghenion ieithyddol siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
  • darparu gwasanaeth Cymraeg i'r rhai sydd ei angen
  • dangos bod iaith yn chwarae rhan bwysig o ran ansawdd gofal ac nad yw'n cael ei ystyried yn “ychwanegiad”.

Dyma ddull rhagweithiol o ran dewis ac angen iaith yng Nghymru, sy’n rhoi'r cyfrifoldeb dros sicrhau gwasanaethau Cymraeg ar ddarparwyr gwasanaethau, yn hytrach na’r unigolyn sy'n defnyddio’r gwasanaethau.

Mae gan y rhai sy’n siarad Cymraeg a’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg ran i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

Stori Mari: Mwy na geiriau - More than just words

Ar ôl colli ei thad, Mari Emlyn sy'n siarad yn onest am eu profiad gofal. Mae'r ffilm wedi ei gynhyrchu gan Theatr Bara Caws i Llywodraeth Cymru.

I wylio’r fideo gydag isdeitlau Cymraeg, cliciwch ar yr opsiwn ‘Settings’ ar waelod y fideo a dewisiwch ideitlau Cymraeg.

Beth yw’r ‘cynnig rhagweithiol’?

Ystyr ‘cynnig rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Dylai yr un gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i ddefnyddwyr ag sydd ar gael yn Saesneg.

Mae cynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol yn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a'u diwallu, a bod y rhai sy'n defnyddio’r gwasanaethau gofal yn gallu dibynnu ar gael eu trin â’r parch ac urddas maen nhw’n ei haeddu.

Gall peidio â chynnig gwasanaethau Cymraeg yn rhagweithiol arwain at beryglu urddas a pharch pobl.

Cyhoeddwyd gyntaf: 17 Medi 2024
Diweddariad olaf: 10 Hydref 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (47.4 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch