Digwyddiad Wythnos Llesiant 2025.
Gall rhoi blaenoriaeth i’ch llesiant fel myfyriwr sy’n gweithio fod yn heriol pan fyddwch chi’n ceisio rheoli eich cartref, eich gwaith a’ch astudiaethau.
Yn y sesiwn hon, bydd Tracey Evans (Asesydd a hyfforddwr QCF yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn rhannu ei argymhellion ar gyfer cefnogi pobl trwy eu dysgu i ennill cymwysterau, wrth reoli gofynion gwaith a chartref.
Bydd myfyrwyr gwaith cymdeithasol presennol yn ymuno â ni hefyd a fydd yn rhannu eu profiadau a’r hyn sy’n gweithio iddyn nhw.
Mae croeso i chi hefyd ymuno yn y drafodaeth a rhannu eich dulliau o gydbwyso dysgu gyda’r cartref a’r gwaith, neu’r ffyrdd rydych chi’n cefnogi pobl i ddysgu.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer:
- unrhyw un sy'n dysgu ac yn gweithio
- unrhyw un sy'n cefnogi dysgwyr sydd hefyd yn gweithio.