Jump to content
Gweithdy: Beth sydd yn eich pecyn cymorth iechyd meddwl?
Digwyddiad

Gweithdy: Beth sydd yn eich pecyn cymorth iechyd meddwl?

Dyddiad
21 Ionawr 2025, 1pm i 3pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a Cortecs, arbenigwyr iechyd meddwl a llesiant

Digwyddiad Wythnos Llesiant 2025.

Ydych chi'n ymwybodol o'ch iechyd meddwl eich hun? Allwch chi adnabod ac ymateb pan fyddwch chi'n teimlo dan straen neu'n bryderus?

Cynnwys y sesiwn

Mae’r sesiwn hon yn gyflwyniad i raglen iechyd meddwl a llesiant Cortecs ar gyfer timau a rheolwyr.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhannu rhai technegau sy’n canolbwyntio ar leihau straen a phryder, codi eich hwyliau a gwella eich gwydnwch, eich llesiant a’ch gallu i ymdopi.

Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol, a byddwch yn gallu rhannu eich profiadau ac awgrymiadau eich hun os dymunwch.