Trefn y dydd a manylion am seremoni wobrau 2026
Trefn y dydd
12.15pm – Derbyniad a bwffe
1pm – Cychwyn y digwyddiad
1.05pm – Neges gan Delyth Jewell AS, Dirprwy Wenidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod
1.10pm – Y gwobrau, rhan1 dan arweiniad Garry Owen a Sarah McCarty, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru
2.10pm – Egwyl
2.30pm – Y gwobrau, rhan 2
4pm – Diwedd y seremoni
Gall yr amseroedd hyn newid
Croeso i'r Gwobrau 2026
Croeso gan Sarah a Mick
Croeso cynnes i chi gyd i’r Gwobrau 2026, ein gwobrau blynyddol sy’n dathlu cyflawniadau’r gweithlu a gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Mae’r Gwobrau yn gyfle i ni dynnu sylw at y bobl a’r prosiectau sy’n mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Eleni rydyn ni’n dathlu 21ain penbwlydd y Gwobrau a dros y cyfnod hwnnw rydyn ni wedi cydnabod, dathlu a rhannu gwaith dwsinau o brosiectau a gweithwyr rhyfeddol sy’n darparu gofal a chymorth amhrisiadwy i blant, oedolion a theuluoedd mewn cymunedau ledled Cymru.
Mae’r gwobrau’n parhau i fynd o nerth i nerth ac eleni, roedden ni wrth ein bodd i dderbyn 141 o geisiadau ac enwebiadau ledled Cymru – y nifer uchaf erioed yn hanes y gwobrau. Mae’r ymateb gwych hwn yn arwydd o’r gwaith da a gwerthfawrogir gan bobl a theuluoedd sy’n derbyn gofal a chymorth ledled y wlad.
Mae 11 tîm ac wyth o weithiwr wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae’n bleser i gael eu croesawu nhw yma heddiw ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i gydnabod, dathlu a rhannu eu cyflawniadau anhygoel.
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ymgeisio ac enwebu gweithwyr ar gyfer gwobrau eleni oherwydd mae’n golygu y gallwn ni barhau â’r gwaith hynod bwysig hwn o gydnabod, dathlu a rhannu rhagoriaeth mewn gofal.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i lwyddiant y Gwobrau – yn sicr ni allem ei wneud ar ein pen ein hunain. Hoffem ni felly ddiolch i’n beirniaid am eu hamser,eu hymdrech a’u harbenigedd yn ystod y broses feirniadu.
Llongyfarchiadau i bob un o’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau. Mae’n llwyddiant rhagorol y dylech chi fod yn falch iawn ohono.
Panel beirniadu 2026
Roedd panel beirniadu y Gwobrau 2026 yn cynnwys aelodau ein Bwrdd, cynrychiolwyr o sefydliadau partner, a phobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Llawer iawn o ddiolch i bob un ohonyn nhw ac i’r sefydliadau canlynol am eu cefnogaeth yn ystod y broses beirniadu:
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
- Anheddau Cyf.
- Antur Waunfawr
- Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
- Cydweithrediad Gwasanaethau Cymdeithasol Gogledd CymruCymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Cyngor Abertawe
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Sir Ddinbych
- Pobl
- Cyngor Sir Powys
- Credu
- Ffederashwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
- Fforwm Gofal Cymru
- GIG Cymru
- Prifysgol Bangor
Ein cyflwynydd – Garry Owen
Mae Garry yn newyddiadurwr arobryn, sydd wedi rhoi sylw i straeon newyddion mawr i'r BBC o bob cwr o Gymru a'r byd.
Fel cyflwynydd, mae'n adnabyddus ar y teledu a'r radio. Ar ôl blynyddoedd lawer fel un o brif angorwyr rhaglen newyddion Gymraeg y BBC, Newyddion, ar S4C a chyflwynydd y rhaglen ffôn radio ddyddiol amser cinio, Taro'r Post, mae bellach yn ohebydd arbennig i BBC Radio Cymru.
Mae hefyd yn aelod o dîm cyflwynwyr rhaglen newyddion BBC Cymru, BBC Wales Today.
Mae galw mawr am Garry fel cyflwynydd ac roedd o’n falch iawn o fod wedi cyflwyno yn Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd Lerpwl yr wythnos diwethaf ar gyfer cyngerdd côr meibion Massed Welsh.
Mae Garry wedi bod yn cyflwyno seremoni wobrwyo'r Gwobrau ers blynyddoedd erbyn hyn, ac mae'n dweud ei fod yn “anrhydedd” ac yn ddigwyddiad pwysig y mae'n edrych ymlaen yn fawr ato”.
Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol
Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
Mae’r categori hwn yn dathlu sefydliadau, lleoliadau neu brosiectau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i’w helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Gwasanaeth Cymorth Plant a Theuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr
Clwb Dydd Sadwrn KidCare4U
Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl Sir Benfro
Gwobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig
Mae’r wobr yma’n dathlu arweinwyr rhagorol ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Jenna Bennett, Arweinydd Ymarfer yng Nghyngor Abertawe
Letitia Deeble, Arweinydd Iechyd Meddwl yn Mirus, Port Talbot
Melvin Jones, Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheoleiddiedig i Blant yng Nghyngor Sir y Fflint
Defnydd effeithiol o ddigidol a thechnoleg
Mae'r categori hwn yn dathlu sefydliadau, lleoliadau neu brosiectau sy'n gwneud defnydd effeithiol neu arloesol o ddigidol a thechnoleg i wella'r gofal a'r cymorth y maen nhw'n eu darparu.
Ap Insight, Innovate Trust yng Nghaerdydd
Magic Notes, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
‘Gweld i Goelio', Cyngor Sir Ynys Môn
Ffyrdd arloesol o recriwtio a chadw’r gweithlu
Mae'r categori hwn yn dathlu prosiectau, timau a sefydliadau sy'n cefnogi pobl i wneud y pethau sy'n bwysicaf iddyn nhw, yn eu ffordd eu hunain fel eu bod yn gallu byw bywyd fel maen nhw eisiau.
Right at Home Caerdydd a Chasnewydd
Gwasanaeth Chwarae Torfaen
Gwobr Dysgwr y Flwyddyn
Mae’r categori yma’n dathlu unigolion rhagorol ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar sydd wedi mynd y tu hwnt yn eu dysgu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Catherine Hevizi, Rheolwr Byw â Chymorth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Georgia Meyrick, Gweithiwr Chwarae yng Nghlwb Cymer Ofal yng Nghaerdydd
Rebecca Howell-Morgan, Gweithiwr Chwarae Cynhwysol yn Bridging the Gap Youth, Merthyr Tudful
Cefnogi pobl i fyw’r bywyd sy’n bwysig iddyn nhw
Mae'r categori hwn yn dathlu prosiectau, timau a sefydliadau sy'n cefnogi pobl i wneud y pethau sy'n bwysicaf iddyn nhw, yn eu ffordd eu hunain fel eu bod yn gallu byw bywyd fel maen nhw eisiau.
Gwasanaeth Achieving Change Together Plus (ACT+) Barnardo’s, mewn partneriaeth â Chabanau Tŷ Augusta Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cydweithrediad rhwng Mencap Môn, Llwybrau Llesiant, Cyswllt Conwy a Stand North Wales
Tîm Dyer, Cartrefi Cymru
Gwobr Gofalwn Cymru
Noddir gan Gofalwn Cymru
Mae’r categori hwn yn dathlu gweithwyr gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar, sydd wedi gwneud gwahaniaeth hynod gadarnhaol i fywydau plant a phobl.
Gareth Lewis, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Maxine Carr, Gweithiwr Gofal a Chymorth, Cyngor Sir Ddinbych
Peidiwch anghofio rhannu eich llyniau ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #Gwobrau2026