Jump to content
Deall hawliau plant a gwaith Comisiynydd Plant Cymru
Digwyddiad

Deall hawliau plant a gwaith Comisiynydd Plant Cymru

Dyddiad
7 Hydref 2026, 10am i 11am
Lleoliad
Arlein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru. Pwrpas ei swydd yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd hawliau plant, ac edrych ar sut mae penderfyniadau cyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant. Mae ganddi dîm sy’n gweithio gyda hi er mwyn cyflawni hyn.

Yn y sesiwn hon bydd aelodau o’i thîm yn: 

  • cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)
  • amlinellu rôl Comisiynydd Plant Cymru
  • amlinellu eu strategaeth tair blynedd.