Jump to content
Rhwydwaith cefnogi dyfodol gwaith cymdeithasol
Digwyddiad

Rhwydwaith cefnogi dyfodol gwaith cymdeithasol

Dyddiad
15 Hydref 2026, 11am i 1pm
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch â ni yn ein cyfarfod grŵp hydref ar gyfer pobl sy'n cefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol neu weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso. 

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn

Mae'r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy'n cefnogi myfyrwyr gwaith cymdeithasol neu weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.  Mae hyn yn cynnwys:

  • addysgwyr ymarfer
  • goruchwylwyr safle
  • rheolwyr
  • cydlynwyr ymarfer
  • mentoriaid gwaith cymdeithasol.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn ni'n: 

  • ystyried canfyddiadau'r ymchwiliad addysgwyr ymarfer cenedlaethol a gynhaliwyd gan IPC ym Mhrifysgol Oxford Brookes ar ein rhan. 
  • casglu eich barn/meddyliau am ba un o argymhellion yr adroddiad y dylid blaenoriaethu. 

E-bostiwch gwaithcymdeithasol@gofalcymdeithasol.cymru i archebu eich lle.