Bydd y sesiwn hon yn dod â phobl at ei gilydd i rannu gwybodaeth, syniadau ac ymarferion er mwyn cefnogi llesiant yn y gwaith.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn gofal cymdeithasol neu gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Rydyn ni’n eich annog yn arbennig i fynychu os ydych chi fel arfer yn gweithio ar eich pen eich hun, neu'n teimlo'n unig yn eich penderfyniadau.
Cynnwys y sesiwn
Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar ddulliau i’ch helpu i wneud y canlynol:
- deall straen a gorbryder
- codi'ch hwyliau
- bod yn fwy gwydn
- gwella llesiant.
Dyddiadau
Rydyn ni’n cynnal y sesiwn hon ar sawl dyddiad. Dim ond un sesiwn sydd angen i chi fynychu.
- 6.30pm i 7pm, 14 Gorffennaf
- 6.30pm i 7pm, 11 Awst
- 6.30pm i 7pm, 8 Medi.