Jump to content
Llesiant ariannol: cymorth a chyngor i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
Digwyddiad

Llesiant ariannol: cymorth a chyngor i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol

Dyddiad
16 Tachwedd 2026, 10.30am i 12pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS)
  • Ydy costau byw cynyddol yn effeithio arnoch chi neu'r bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw? 
  • Hoffech chi wybod mwy am gymorth ariannol a chyngor sydd ar gael i chi? 
  • Ydych chi eisiau deall y datblygiadau diweddaraf ynghylch gwaith teg, cyflog a dilyniant mewn gofal cymdeithasol? 

Cynnwys y sesiwn

Dyma sesiwn ar-lein ymarferol am ddim i'ch helpu chi: 

  • gwneud y gorau o'ch incwm, gan gynnwys ffyrdd y gallech chi wneud incwm eich cartref yn fwy 
  • gwirio beth mae gennych hawl iddo – sut i wirio eich cymhwysedd i gael budd-daliadau a chymorth ariannol arall
  • delio â dyled – fel y gallwch chi ddeall pa gymorth y gallech ei gael os ydych chi'n cael trafferth gyda benthyca neu ad-daliadau
  • darganfod ble i gael gymorth ychwanegol, fel grantiau neu gymorth caledi
  • clywed ble i gael cymorth diduedd am ddim gan sefydliadau sy'n gallu darparu arweiniad a chyngor cyfrinachol pan fydd ei angen arnoch. 

Byddwn hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gyflog a dilyniant a gwaith y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol. 

Ar gyfer pwy mae'r sesiwn hon?

Mae'r sesiwn hon ar gyfer: 

  • unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
  • cyflogwyr a rheolwyr sydd am gefnogi llesiant ariannol eu gweithlu. 

Archebu eich lle