Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad ar-lein lle byddwn yn clywed gan Kyle a Sannah, rheolwyr 'Blue Door Childcare' yng Nghaerdydd, a fydd yn rhannu eu profiadau o weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Yn ystod y digwyddiad, byddwn ni'n archwilio ffyrdd o wella amrywiaeth a chynrychiolaeth ar draws y gweithlu, gan gynnwys mynd i'r afael â thangynrychiolaeth dynion mewn rolau blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer:
- ymarferwyr blynyddoedd cynnar
- rheolwyr ac arweinwyr
- myfyrwyr a dysgwyr
- gwarchodwyr plant
- arweinwyr ysgol
- athrawon a chynorthwywyr addysgu
- tiwtoriaid ac aseswyr
- staff awdurdodau lleol
- llunwyr polisi
- cynrychiolwyr o sefydliadau partner.
Mae'r sesiwn yn cefnogi'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, a fframwaith sefydlu blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Dyma rai enghreifftiau o'r safonau:
- HSCCLD412 - Arwain y gwaith o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau a chyfleusterau
- HSCCLD23 - Datblygu ymarfer myfyriol
- HSCCLD33 - Hybu a datblygu ymarfer myfyriol
- HSCCLD43 - Arwain a datblygu ymarfer myfyriol
- HSCCLD28 - Cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- HSCCLD38 - Hybu cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- HSCCLD48 - Arwain ymarfer sy'n sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a hawliau unigolion
- HSCCLD339 – Hybu’r gwaith o recriwtio aelodau'r tîm
Fframwaith sefydlu ar gyfer gweithwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant
- 1.3 Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- 1.12 Credoau, gwerthoedd a phrofiadau bywyd
- 3.6 Datblygiad proffesiynol parhaus
Sefydlu a dysgu ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant
- Adran 3: Deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
Byddwch yn rhan o'r sgwrs ar 19 Tachwedd 2026 a helpu i lunio dyfodol recriwtio a chadw staff blynyddoedd cynnar.