00:00:03,800 --> 00:00:07,680
Croeso i chi i'r cyflwyniad hon
ynglyn â newidiadau...
2
00:00:07,720 --> 00:00:10,480
..i'r ffordd y mae cymwysterau
yn cael eu hasesu.
3
00:00:14,600 --> 00:00:18,080
Felly, pam ydyn ni'n gwneud
addasiadau...
4
00:00:18,120 --> 00:00:19,880
..ynglyn â'r cymwysterau yma?
5
00:00:19,920 --> 00:00:23,360
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn
ymwybodol o'r newidiadau...
6
00:00:23,400 --> 00:00:27,000
..a wnaed i gyflawni cymwysterau
TGAU a Safon Uwch...
7
00:00:27,040 --> 00:00:31,560
..ychydig a glywyd am gymwysterau
galwedigaethol.
8
00:00:33,000 --> 00:00:37,680
Pan darodd Covid-19 ym mis Mawrth,
fel yr holl TGAU a Safon Uwch...
9
00:00:37,720 --> 00:00:40,920
..gofynnwyd i ni weithio
gyda Cymwysterau Cymru...
10
00:00:40,960 --> 00:00:46,320
..a'r consortiwm, City and Guilds
a CBAC, i ystyried addasiadau...
11
00:00:46,360 --> 00:00:50,520
..byr dymor ar gyfer asesu
cymwysterau...
12
00:00:50,560 --> 00:00:54,280
..i ganiatáu i fyfyrwyr gwblhau
eu hastudiaethau.
13
00:00:55,200 --> 00:00:58,800
Fel y gallwch ddychmygu roedd hwn
yn gyfnod o straen mawr...
14
00:00:58,840 --> 00:01:02,240
..i fyfyrwyr a oedd yn poeni
a fyddent yn gallu...
15
00:01:02,280 --> 00:01:04,160
..cwblhau eu hastudiaethau.
16
00:01:05,000 --> 00:01:08,800
Roedd yn rhaid i ni sicrhau
na chafodd unrhyw fyfyrwyr...
17
00:01:08,840 --> 00:01:11,680
..eu heffeithio'n negyddol
oherwydd Covid...
18
00:01:11,720 --> 00:01:15,960
..felly rhoddwyd mesurau ac atebion
dros dro ar waith.
19
00:01:17,000 --> 00:01:22,680
Yn anffodus, gyda'r tarfu'n parhau,
mae angen i ni nawr edrych...
20
00:01:22,720 --> 00:01:25,560
..am atebion hirdymor.
21
00:01:26,000 --> 00:01:29,800
Mae pob un ohonom wedi cael mwy
o amser i ystyried y materion...
22
00:01:29,840 --> 00:01:35,000
..ac mae'r addasiadau a weithredwyd
ddechrau'r haf...
23
00:01:35,040 --> 00:01:38,080
..bellach wedi'u mireinio
a'u hymestyn.
24
00:01:39,400 --> 00:01:43,800
Cymwysterau y byddwn yn edrych arnyn
nhw yn ystod y cyflwyniad hon yw...
25
00:01:43,840 --> 00:01:46,600
..cymhwyster Craidd Lefel 2...
26
00:01:46,640 --> 00:01:50,760
..Gofal, Chwarae, Dysgu
a Datblygiad Plant...
27
00:01:50,800 --> 00:01:56,800
..a chymwysterau Gofal, Chwarae,
Dysgu a Datblygiad Plant...
28
00:01:56,840 --> 00:02:02,680
..Lefel 2 a 3 a'r addasiadau sydd
wedi'u rhoi ar waith oherwydd Covid.
29
00:02:07,400 --> 00:02:10,120
Felly, mae gan y cymhwyster
craidd...
30
00:02:10,400 --> 00:02:16,400
..Gofal, Chwarae, Dysgu
a Datblygiad Plant 5 adran.
31
00:02:17,600 --> 00:02:22,400
Un ydy egwyddorion a gwerthoedd
Gofal, Chwarae, Dysgu...
32
00:02:22,440 --> 00:02:23,880
..a Datblygiad Plant...
33
00:02:23,920 --> 00:02:26,200
..iechyd a llesiant dysgu
a datblygu...
34
00:02:26,240 --> 00:02:30,440
..ymarfer proffesiynol diogelu
ac iechyd a diogelwch.
35
00:02:30,480 --> 00:02:33,880
Mae'r craidd yn cyd-fynd
efo'r fframwaith...
36
00:02:33,920 --> 00:02:36,000
..Sefydlu'r Blynyddoedd Cynnar.
37
00:02:37,000 --> 00:02:40,000
Felly, sut mae'r cymhwyster craidd
yn cael ei asesu?
38
00:02:40,800 --> 00:02:44,240
Mae'r asesiad ffurfiol yn cynnwys
tair astudiaeth achos...
39
00:02:44,280 --> 00:02:46,520
..a phrawf cwestiynau aml-ddewis.
40
00:02:47,400 --> 00:02:52,400
Mae astudiaeth achos 1 yn seiliedig
ar Egwyddorion a Gwerthoedd...
41
00:02:52,440 --> 00:02:55,200
..Gofal, Chwarae, Dysgu
a Datblygu Plant...
42
00:02:55,240 --> 00:02:58,720
..ac Iechyd, Llesiant, Dysgu
a Datblygu.
43
00:02:59,200 --> 00:03:01,560
Mae astudiaeth achos 2...
44
00:03:01,600 --> 00:03:05,680
..yn seiliedig ar Egwyddorion
a Gwerthoedd...
45
00:03:05,720 --> 00:03:10,000
..Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu
Plant ac Ymarfer Proffesiynol...
46
00:03:10,040 --> 00:03:13,200
..fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar
a Gofal Plant.
47
00:03:13,600 --> 00:03:18,680
Mae astudiaeth achos 3 yn seiliedig
ar Egwyddorion a Gwerthoedd...
48
00:03:18,720 --> 00:03:23,040
..Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygu
Plant a Diogelu Plant.
49
00:03:23,600 --> 00:03:27,320
Mae'r prawf cwestiynau aml-ddewis
yn seiliedig ar bob adran...
50
00:03:27,360 --> 00:03:30,280
..ac yn cymryd 75 munud.
51
00:03:31,000 --> 00:03:34,360
Gellir lawrlwytho'r astudiaethau
achos...
52
00:03:34,400 --> 00:03:36,920
..pythefnos cyn yr asesiad ffurfiol.
53
00:03:37,200 --> 00:03:40,600
Mae hyn yn rhoi amser i weithwyr
baratoi ac adolygu.
54
00:03:41,200 --> 00:03:45,000
Yna, cynhelir yr asesiad mewn
'amgylchiadau dan reolaeth'.
55
00:03:45,040 --> 00:03:49,960
Mae hyn yn gwahaniaethu ar draws
canolfannau asesu gwahanol...
56
00:03:50,280 --> 00:03:56,280
..ac un enghraifft fyddai swyddfa
dawel, ystafell ddosbarth...
57
00:03:56,320 --> 00:03:58,320
..neu ystafell hyfforddi.
58
00:03:58,800 --> 00:04:01,880
Mae gan y gweithiwr nifer
o gwestiynau i'w hateb...
59
00:04:01,920 --> 00:04:07,680
..yn seiliedig ar yr adrannau sy'n
cael sylw, er enghraifft, diogelu...
60
00:04:07,720 --> 00:04:10,440
..ac egwyddorion a gwerthoedd.
61
00:04:11,000 --> 00:04:14,880
Gallant fynd â thaflen
o nodiadau A4 gyda nhw.
62
00:04:14,920 --> 00:04:19,240
Rhoddir 60 munud i ddysgwyr
gyflawni'r dasg.
63
00:04:20,400 --> 00:04:23,760
Os yw gweithwyr yn methu â
chyflawni'r marciau...
64
00:04:23,800 --> 00:04:27,480
..sydd eu hangen i basio'r asesiad,
gallant ei wneud eto...
65
00:04:27,520 --> 00:04:32,360
..drwy ddefnyddio'r un astudiaeth
achos ond gyda chwestiynau gwahanol.
66
00:04:33,200 --> 00:04:37,600
Mae manylion am gyfanswm
yr amseroedd...
67
00:04:37,640 --> 00:04:40,440
..y gellir eu hail-brofi...
68
00:04:40,480 --> 00:04:44,600
..ar gyfer pob astudiaeth achos
wedi'u cynnwys...
69
00:04:44,640 --> 00:04:47,000
..o fewn manyldeb y cymhwyster.
70
00:04:47,600 --> 00:04:53,600
A gallwch chi weld hon ar safle we
Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.
71
00:04:54,200 --> 00:04:58,360
Pan fydd y gweithwyr wedi cyflawni
pob un o'r tair astudiaeth achos...
72
00:04:58,400 --> 00:05:01,240
..gallant gymryd y prawf cwestiynau
aml-ddewis.
73
00:05:01,280 --> 00:05:05,600
Prawf ar-lein yw hwn,
ond gellir ei gwblhau ar bapur...
74
00:05:05,640 --> 00:05:07,720
..os gofynnir ymlaen llaw.
75
00:05:08,680 --> 00:05:13,720
Mae sampl o brofion cwestiynau
aml-ddewis, astudiaethau achos...
76
00:05:13,760 --> 00:05:16,280
..ac atebion disgwyliedig ar gael...
77
00:05:16,320 --> 00:05:22,320
..a fydd yn helpu rheolwyr a
gweithwyr i wybod beth i'w ddisgwyl.
78
00:05:22,800 --> 00:05:27,640
Unwaith eto, mae rhain ar gael ar
safle we Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.
79
00:05:29,000 --> 00:05:33,040
Gellir cael mwy o wybodaeth am
y cynnwys ar yr un un safle we.
80
00:05:34,000 --> 00:05:38,160
Os oes gan gyflogwyr ddysgwyr
ar yr hen gymhwyster...
81
00:05:38,200 --> 00:05:40,960
..Fframwaith Cymwysterau
a Chredydau...
82
00:05:41,000 --> 00:05:45,640
..yna'r asesydd sy'n gyfrifol o hyd
am asesu'r dysgwr...
83
00:05:45,680 --> 00:05:47,280
..a dod i benderfyniad.
84
00:05:52,400 --> 00:05:57,400
Felly, cytunwyd ar addasiadau
oherwydd Covid-19.
85
00:05:58,200 --> 00:06:02,720
Mae nifer yr asesiadau y mae angen
i ddysgwyr eu cwblhau...
86
00:06:02,760 --> 00:06:04,920
..wedi lleihau dros dro.
87
00:06:05,600 --> 00:06:09,000
Mae angen i ddysgwyr
a gofrestrwyd...
88
00:06:09,040 --> 00:06:12,200
..cyn diwedd mis Awst, 2020...
89
00:06:12,240 --> 00:06:16,280
..a fydd yn cwblhau'r cymhwyster...
90
00:06:16,320 --> 00:06:20,240
..erbyn Rhagfyr 18, 2020...
91
00:06:20,280 --> 00:06:25,320
..cwblhau 1 astudiaeth achos
a chwestiynau aml-ddewis.
92
00:06:26,320 --> 00:06:30,480
Mewn amgylchiadau eithriadol,
2 astudiaeth achos...
93
00:06:30,520 --> 00:06:32,560
..a dim cwestiynau aml-ddewis.
94
00:06:33,200 --> 00:06:37,120
Rhoddwyd hyn ar waith i sicrhau
nad oedd dysgwyr o dan anfantais...
95
00:06:37,160 --> 00:06:41,520
..o ganlyniad i gyfyngiadau
Covid-19...
96
00:06:41,560 --> 00:06:46,880
..yn enwedig lle mae
canolfannau asesu...
97
00:06:46,920 --> 00:06:48,760
..wedi bod ar gau.
98
00:06:53,600 --> 00:06:57,560
Dysgwyr a gofrestrwyd ar ôl
Medi 1, 2020.
99
00:06:58,200 --> 00:07:01,840
Mae'n rhaid i bob dysgwr a
gofrestrodd ar ôl Medi 1...
100
00:07:02,040 --> 00:07:08,040
..neu'r rheini sydd ddim yn gallu
cwblhau erbyn Rhagfyr 18...
101
00:07:08,200 --> 00:07:12,080
..ymgymryd â'r broses asesu lawn,
hynny yw...
102
00:07:12,120 --> 00:07:15,880
..pob un o'r astudiaethau achos
a'r cwestiynau aml-ddewis.
103
00:07:16,600 --> 00:07:20,040
Mae nifer o ganolfannau wedi rhoi
pethau ar waith...
104
00:07:20,080 --> 00:07:23,720
..i sicrhau amgylchedd diogel
i ddysgwyr gwblhau eu profion...
105
00:07:23,760 --> 00:07:26,560
..o dan amodau rheoledig.
106
00:07:27,400 --> 00:07:31,720
Bydd y sleid nesaf yn archwilio
beth all ddigwydd...
107
00:07:31,760 --> 00:07:33,680
..os nad yw hynny'n digwydd.
108
00:07:39,000 --> 00:07:44,480
Beth os oes cyfyngiadau pellach
ac na all dysgwyr gael mynediad...
109
00:07:44,520 --> 00:07:50,400
..at amgylchedd lle gellir cynnal
asesiadau o dan amodau rheoledig?
110
00:07:51,000 --> 00:07:53,600
Os yw hyn yn digwydd,
mae 'na ddau ddewis.
111
00:07:54,200 --> 00:07:58,440
Un yw, gall y ganolfan ail-drefnu...
112
00:07:58,480 --> 00:08:01,640
..os yw hyd yr oedi hyd at 4 mis.
113
00:08:01,680 --> 00:08:06,400
Dewis 2, astudiaeth achos holi
ac ateb ar lafar...
114
00:08:06,440 --> 00:08:08,040
..o bell, os yw'r...
115
00:08:08,080 --> 00:08:10,640
..ganolfan ar gau yn hirach
na 4 mis...
116
00:08:10,680 --> 00:08:14,040
..mae angen y cymhwyster
ar gyfer symud ymlaen...
117
00:08:14,080 --> 00:08:16,400
..ar gyfer cwrs neu gyflogaeth...
118
00:08:16,440 --> 00:08:20,800
..mae angen i'r dysgwr hunanynysu.
119
00:08:24,000 --> 00:08:26,920
Rydym hefyd yn edrych ar
oruchwylio o bell.
120
00:08:26,960 --> 00:08:30,840
Mae City and Guilds yn cynnal peilot
yn ystod y misoedd nesaf.
121
00:08:30,880 --> 00:08:34,040
Bydd arolygu o bell
yn galluogi dysgwyr...
122
00:08:34,080 --> 00:08:36,800
..i gwblhau sesiynau profion
ar-lein...
123
00:08:36,840 --> 00:08:41,760
..mewn un neu ddwy ffordd...
124
00:08:41,800 --> 00:08:45,600
..hynny yw, arolygu'n fyw
neu recordio a phrofi...
125
00:08:45,640 --> 00:08:49,240
..y tu hwnt i'w canolfan gymeradwy.
126
00:08:49,600 --> 00:08:52,640
Bydd hyn yn lleihau'r angen
i ddysgwyr gwblhau...
127
00:08:52,680 --> 00:08:56,360
..eu hastudiaethau achos neu brofion
cwestiynau aml-ddewis...
128
00:08:56,400 --> 00:08:59,960
..yn y ganolfan ei hun a bydd
recordiad yn cael ei ddefnyddio...
129
00:09:00,000 --> 00:09:05,280
..i wneud yn siwr nad yw'r dysgwr
yn defnyddio deunydd neu adnoddau...
130
00:09:05,320 --> 00:09:07,400
..ychwanegol i ateb cwestiynau...
131
00:09:07,440 --> 00:09:12,120
..fel ffonau symudol, gwerslyfrau
ac yn y blaen.
132
00:09:15,000 --> 00:09:17,680
Cadw uniondeb.
133
00:09:18,000 --> 00:09:23,720
Mae'n bwysig sicrhau bod pa bynnag
addasiadau a roddir ar waith...
134
00:09:23,760 --> 00:09:28,640
..y cedwir uniondeb y cymwysterau.
135
00:09:28,680 --> 00:09:32,760
Felly, mae City and Guilds wedi rhoi
mesurau ar waith i sicrhau...
136
00:09:32,800 --> 00:09:37,400
..bod pob dysgwr wedi cwblhau eu
dysgu ar draws yr holl gymhwyster...
137
00:09:37,440 --> 00:09:41,480
..a bod yr asesydd wedi cynnal
asesiad ffurfiannol i sicrhau...
138
00:09:41,520 --> 00:09:45,200
..bod y dysgwr yn barod
ar gyfer yr asesiad ffurfiol...
139
00:09:45,240 --> 00:09:47,320
..ym mhob rhan o'r cymhwyster.
140
00:09:47,800 --> 00:09:52,520
Mae angen i ni fod yn gwbl sicr bod
y sgiliau craidd wedi'u cyflawni...
141
00:09:52,560 --> 00:09:57,800
..a bod gwybodaeth wedi'i
hymgorffori wrth ymarfer.
142
00:09:58,400 --> 00:10:02,000
Ni allwn gyfaddawdu ar hyn...
143
00:10:02,040 --> 00:10:05,600
..wrth i ni sicrhau bod gennym
weithlu cymwys...
144
00:10:05,640 --> 00:10:08,960
..medrus a diogel yn gweithio
gyda'n plant.
145
00:10:12,000 --> 00:10:15,480
Felly, wnawn ni symud ymlaen rwan
i gymhwyster ymarfer...
146
00:10:15,520 --> 00:10:19,960
..Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad
Plant Lefel 2.
147
00:10:21,000 --> 00:10:24,360
Unwaith eto, byddwn yn crynhoi'r
trefniadau asesu...
148
00:10:24,400 --> 00:10:29,480
..mewn amseroedd mwy 'normal' cyn i
ni edrych ar beth sydd wedi newid.
149
00:10:30,200 --> 00:10:35,360
Asesiad yn cael ei gynnal dros
gyfnod o 6 i 12 mis.
150
00:10:36,080 --> 00:10:40,600
Asesydd yn cynnal o leiaf
4 o arsylwadau o'r dysgwr.
151
00:10:41,400 --> 00:10:45,680
Bydd cynlluniau'n cael eu datblygu
a'u cytuno rhwng y dysgwr...
152
00:10:45,720 --> 00:10:49,360
..yr asesydd a'r rheolwr i sicrhau
eu bod yn addas.
153
00:10:50,200 --> 00:10:55,720
Portffolio o dystiolaeth nad
yw'n dod o dan y dasg strwythuredig.
154
00:10:56,800 --> 00:11:02,440
Cofnod adlewyrchol o ymarfer
yn ystod y cyfnod asesu.
155
00:11:03,200 --> 00:11:07,120
Trafodaeth derfynol sy'n helpu'r
asesydd i gadarnhau...
156
00:11:07,760 --> 00:11:13,760
..neu atgyfnerthu unrhyw fylchau
mewn tystiolaeth.
157
00:11:14,920 --> 00:11:16,640
Yn ystod yr asesiadau hyn...
158
00:11:16,680 --> 00:11:19,520
..mae'n rhaid i'r dysgwr ddangos
sut mae nhw'n...
159
00:11:19,560 --> 00:11:23,000
..cefnogi plentyn neu blant
yn ystod cyfnod o bontio...
160
00:11:23,400 --> 00:11:27,000
..cefnogi cyfle neu profiad
mewn amgylchedd y tu allan...
161
00:11:27,600 --> 00:11:31,080
..cefnogi cyfle neu profiad
mewn amgylchedd y tu mewn...
162
00:11:31,400 --> 00:11:34,680
..cefnogi cyfle neu profiad
nad yw'n arferol...
163
00:11:35,200 --> 00:11:37,680
..cefnogi plentyn ar sail un i un...
164
00:11:38,000 --> 00:11:42,000
..cefnogi cyfle neu profiad
sy'n cynnwys mwy nag un plentyn.
165
00:11:42,200 --> 00:11:48,200
Gellir dod o hyd i fanylion llawn
y gofynion asesu ar safle we...
166
00:11:48,240 --> 00:11:52,240
..Dysgu Iechyd a Gofal Cymru,
y pecyn asesiad.
167
00:11:53,600 --> 00:11:56,080
Felly, y cymhwyster ymarfer...
168
00:11:56,120 --> 00:12:01,160
..Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad
Plant Lefel 3.
169
00:12:02,200 --> 00:12:07,720
Mae'r asesiad i'w gynnal dros gyfnod
o 6 i 12 mis unwaith eto...
170
00:12:07,760 --> 00:12:13,200
..ac mae'n cynnwys ac yn ofynnol
i'r dysgwr gwblhau...
171
00:12:13,240 --> 00:12:17,640
..pedwar o arsylwadau gyda phlant
o fewn amgylchedd gwaith go iawn.
172
00:12:17,680 --> 00:12:21,120
At hynny, mae'n rhaid i'r dysgwr...
173
00:12:21,600 --> 00:12:27,000
..gwerthuso a myfyrio ar ddysgu,
datblygiad, chwarae, iechyd...
174
00:12:27,040 --> 00:12:28,560
..a llesiant plant.
175
00:12:28,800 --> 00:12:32,240
Cynllunio ar gyfer datblygu
a chyflwyno pedwar cyfle...
176
00:12:32,280 --> 00:12:35,960
..neu profiad a fydd yn helpu
i ddatblygu datblygiad...
177
00:12:36,000 --> 00:12:39,000
..y plentyn neu blant
yn y meysydd hyn ymhellach.
178
00:12:39,400 --> 00:12:44,080
Dylai'r arsylwadau a'r cyfleoedd
neu profiadau a gynlluniwyd...
179
00:12:44,120 --> 00:12:48,000
..gynnwys ystyried datblygiad plant
yn y meysydd canlynol...
180
00:12:48,600 --> 00:12:52,800
..iechyd a llesiant corfforol,
cyfathrebu, iaith a llythrennedd...
181
00:12:53,840 --> 00:12:59,120
..gwybyddol neu deallusol -
mathemateg neu rhifedd...
182
00:12:59,600 --> 00:13:03,840
..personol, cymdeithasol, emosiynol
ac ymddygiadol.
183
00:13:04,400 --> 00:13:08,600
Bydd yr asesydd yn cwestiynu'r
dysgwr...
184
00:13:08,640 --> 00:13:14,400
..i samplo ei wybodaeth
a'i ddealltwriaeth.
185
00:13:15,600 --> 00:13:19,680
Bydd cynlluniau'n cael eu datblygu
a'u cytuno rhwng y dysgwr...
186
00:13:19,720 --> 00:13:24,600
..yr asesydd a'r rheolwr i sicrhau
eu bod yn addas.
187
00:13:25,200 --> 00:13:28,520
Yn ogystal,
bydd y dysgwr yn cynhyrchu...
188
00:13:28,600 --> 00:13:34,600
..portffolio o dystiolaeth nad yw'n
dod o dan y dasg strwythuredig...
189
00:13:34,640 --> 00:13:40,360
..cofnod adlewyrchol o ymarfer
yn ystod y cyfnod asesu...
190
00:13:41,320 --> 00:13:46,040
..trafodaeth broffesiynol derfynol
sy'n helpu'r asesydd i gadarnhau...
191
00:13:46,600 --> 00:13:52,600
..neu atgyfnerthu unrhyw fylchau
mewn tystiolaeth.
192
00:13:53,400 --> 00:13:56,440
Disgwylir i'r dysgwr werthuso...
193
00:13:56,480 --> 00:14:00,160
..a myfyrio ar ei weithgareddau.
194
00:14:00,200 --> 00:14:04,200
Gellir dod o hyd i fanylion unwaith
eto ar safle we...
195
00:14:04,240 --> 00:14:09,760
..Dysgu Iechyd a Gofal Cymru, drwy'r
pecyn asesiad ar gyfer lefel 3.
196
00:14:13,480 --> 00:14:16,600
Felly, beth sydd wedi newid
o ran y cymysterau yma?
197
00:14:17,000 --> 00:14:21,640
Mae'r corff arsylwi ymarfer yn
ganolog tra'n asesu'r cymhwyster...
198
00:14:21,680 --> 00:14:25,400
..Gofal, Chwarae, Dysgu
a Datblygiad Plant.
199
00:14:25,440 --> 00:14:30,880
Gan nad oes llawer o leoliadau gofal
plant yn gallu cefnogi mynediad...
200
00:14:30,920 --> 00:14:34,840
..at aseswyr o ganlyniad...
201
00:14:34,880 --> 00:14:38,640
..i gyfyngiadau Covid-19...
202
00:14:38,880 --> 00:14:44,880
..a materion diogelwch, o fis Medi
tan fis Mehefin 2021...
203
00:14:44,920 --> 00:14:48,720
..lle na all arsylwi ymarfer
ddigwydd...
204
00:14:49,000 --> 00:14:53,920
..cytunwyd y gall cyflogwr,
rheolwr neu arweinydd profiadol...
205
00:14:53,960 --> 00:14:59,720
..addas ymgymryd â rôl
tyst arbenigol.
206
00:15:00,400 --> 00:15:04,040
Bydd yr asesydd yn gallu gofyn
cwestiynau i'r dysgwr...
207
00:15:04,080 --> 00:15:08,920
..a'r tyst arbenigol i wneud
penderfyniadau cymhwysedd...
208
00:15:08,960 --> 00:15:11,320
..er mwyn cyflawni'r cymhwyster.
209
00:15:12,800 --> 00:15:15,600
Pwy fydd y tystion arbenigol?
210
00:15:16,200 --> 00:15:20,520
Rheolwr, arweinydd
cyflogedig addas...
211
00:15:20,560 --> 00:15:22,920
..fydd y tyst arbenigol.
212
00:15:22,960 --> 00:15:25,240
Mae'n rhaid i dystion arbenigol...
213
00:15:25,280 --> 00:15:28,880
..gael gwybodaeth ymarferol
o'r cymhwyster neu'r unedau...
214
00:15:28,920 --> 00:15:31,560
..y maent yn rhoi tystiolaeth
ar eu cyfer...
215
00:15:31,640 --> 00:15:37,640
..bod yn gymwys yn alwedigaethol
yn eu maes arbenigedd...
216
00:15:37,680 --> 00:15:43,400
..sydd o leiaf yn gyfwerth â'r un
lefel â'r cymhwyster neu unedau...
217
00:15:43,440 --> 00:15:46,240
..y maent yn darparu tystiolaeth
ar eu cyfer...
218
00:15:46,280 --> 00:15:51,200
..bod â naill ai unrhyw gymhwyster
mewn asesu perfformiad...
219
00:15:51,240 --> 00:15:56,000
..yn y gweithle neu rôl waith
broffesiynol a oedd yn cynnwys...
220
00:15:56,040 --> 00:15:59,000
..gwerthuso ymarfer staff
o ddydd i ddydd.
221
00:15:59,800 --> 00:16:02,680
Nhw fydd llygaid a chlustiau'r
asesydd...
222
00:16:02,720 --> 00:16:05,320
..ac yn arsylwi'r dysgwr
wrth ymarfer.
223
00:16:05,800 --> 00:16:09,240
Maent yn darparu tystiolaeth
nid dyfarniad.
224
00:16:10,000 --> 00:16:13,640
Dilynir hyn gan drafodaeth
broffesiynol o bell.
225
00:16:14,800 --> 00:16:19,760
Bydd yr asesydd yn gyfrifol am wneud
y dyfarniad terfynol...
226
00:16:19,960 --> 00:16:24,960
..a byddai'n triongli tystiolaeth
o bob rhan o'r tasgau asesu...
227
00:16:25,000 --> 00:16:30,280
..er enghraifft, cofnod myfyriol,
portffolio ac yn y blaen.
228
00:16:31,000 --> 00:16:35,080
Bydd City and Guilds yn darparu
hyfforddiant i dystion arbenigol...
229
00:16:35,120 --> 00:16:38,600
..a rhaid i'r asesydd ddarparu
cefnogaeth drwy arweiniad...
230
00:16:38,640 --> 00:16:42,640
..o ran yr hyn y mae angen iddynt
edrych amdano...
231
00:16:42,680 --> 00:16:47,240
..drwy gydol yr arsylwi a sut y bydd
hyn yn cael ei gofnodi.
232
00:16:49,400 --> 00:16:53,680
Felly, sut bydd y tystion arbenigol
yn cael eu cefnogi?
233
00:16:54,400 --> 00:16:58,720
Mae'n rhaid i dystion arbenigol
gael hyfforddiant cynefino...
234
00:16:58,760 --> 00:17:04,480
..a chefnogaeth barhaus
y darparwr dysgu.
235
00:17:05,000 --> 00:17:09,360
Disgwylir i ddarparwyr dysgu weithio
mewn partneriaeth â chyflogwyr...
236
00:17:09,400 --> 00:17:11,760
..a gofynnir iddynt hefyd
ystyried...
237
00:17:11,800 --> 00:17:17,600
..os gellir arsylwi, dyrannu aseswyr
i leoliadau cyflogaeth penodol...
238
00:17:17,640 --> 00:17:23,640
..gydag ymgais i gadw nifer
yr aseswyr i'r lleiafswm...
239
00:17:23,680 --> 00:17:25,920
..er mwyn lleihau niferoedd...
240
00:17:25,960 --> 00:17:29,560
..gwahanu gweithgareddau o ran
cynllunio, adolygu...
241
00:17:29,600 --> 00:17:32,800
..a gwirio cynnydd y gellir
eu cwblhau o bell...
242
00:17:32,840 --> 00:17:37,360
..yna gall cyfleoedd i gael mynediad
at leoliad gwasanaethau...
243
00:17:37,400 --> 00:17:42,200
..flaenoriaethu gweithgareddau asesu
arsylwadol...
244
00:17:42,400 --> 00:17:46,080
..nodi galluoedd pawb o fewn
lleoliad i gefnogi asesiad...
245
00:17:46,120 --> 00:17:49,440
..er enghraifft,
aseswyr yn y gwaith...
246
00:17:50,000 --> 00:17:54,200
..defnyddio amgylcheddau awyr
agored ar gyfer arsylwi allanol...
247
00:17:54,240 --> 00:17:57,640
..lle bo hynny'n bosib
ac yn briodol.
248
00:18:00,320 --> 00:18:03,560
Felly, cyfle i ni rwan
i gael trafodaeth.
249
00:18:04,200 --> 00:18:08,400
Hynny yw, beth yw'r cryfderau,
y cyfleoedd a'r heriau...
250
00:18:08,440 --> 00:18:10,200
..y gallwch eu rhagweld?
251
00:18:14,720 --> 00:18:16,120
Diolch yn fawr iawn.