Jump to content
Defnyddio’r dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau

Canfod gwybodaeth ac adnoddau am sut caiff y dull ei ddefnyddio’n ymarferol.

Sut i ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau wrth gofnodi achosion

Mae'r adnodd hwn yn edrych ar yr egwyddorion ac yn darparu arweiniad i gefnogi cofnodi achosion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau personol sydd yn seiliedig ar ymchwil, ymgynghori ag ymarferwyr, a thystiolaeth o'r hyn a all weithio. Y brif ffocws yw i gofnodi achosion, ac rydym yn golygu cofnodion o ryngweithio o ddydd i ddydd rhwng ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gofal a chymorth, mae hyn yn llywio ac yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer a gyda phobl.

Mae hefyd yn darparu gwahanol enghreifftiau o recordio sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac ymarferion myfyriol. Bydd y rhain yn helpu pobl, timau a sefydliadau i sicrhau bod y recordiad yn gyson ac yn ystyrlon, a fydd yn eu helpu i adeiladu perthnasoedd a dealltwriaeth gyda phobl sy'n defnyddio gofal a chefnogaeth.

Fideos cyfaill nid gelyn

Fideos i gefnogi pobl sy’n defnyddio gofal a chymorth, ymarferwyr, rheolwyr a chomisiynwyr.

Gwneud cofnodi'n rhywbeth 'byw' a chydgysylltiedig ar draws fudiadau

Gwneud cofnodi'n rhywbeth personol a hygyrch

Cofnodi hanesion un: stori Fran

Cofnodi hanesion dau: Helen a’r crëyr

Sut i ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau mewn Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA)

Dyma rai o egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

  • pwyslais ar hybu llesiant
  • dull ataliol
  • mwy o lais a rheolaeth i'r unigolyn
  • gweithio ar y cyd ag unigolion a’u teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae’r gwasanaeth IAA yn gwneud cyfraniad pwysig i gyflawni’r egwyddorion hyn. Yn benodol, mae’r sgwrs am ‘yr hyn sy’n bwysig’ yn gosod y sylfeini ar gyfer sefydlu perthnasoedd positif â phobl ar sail cyd-gynhyrchu.

Bydd sgyrsiau yn y gwasanaethau IAA yn canolbwyntio ar helpu pobl i feddwl am eu hamgylchiadau, gweld eu cryfderau a chryfderau eu teulu a’u cymuned ac ystyried sut gellir hybu llesiant.

Rydym wedi datblygu pecyn hyfforddiant i bobl sy’n gweithio mewn Gwasanaethau IAA i'w helpu i gael sgyrsiau gwell.

Defnyddio dull canlyniadau mewn gwasanaethau gofal cartref

Yma gallwch ddod o hyd i adnoddau hyfforddi i helpu rheolwyr a gweithwyr gofal cartref gymryd agwedd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau tuag at eu hymarfer.

Adnoddau ar gyfer rheolwyr

Mae’r adnodd yma’n dod â gwybodaeth, syniadau ac offer ymarferol at ei gilydd ar gyfer rheolwyr gofal cartref a phobl sy'n arwain ac yn dylanwadu ar ymarfer.

Mae'n edrych ar bynciau y mae angen i reolwyr fod yn ymwybodol ohonynt fel newid diwylliant a sgyrsiau gyda phartneriaid, gan gynnwys comisiynwyr ac arolygwyr. Mae hefyd yn cynnwys ffyrdd i gefnogi timau staff trwy recriwtio, goruchwylio, dysgu ac adlewyrchu.

Adnoddau ar gyfer gweithwyr

Gallwch ddefnyddio’r adnoddau hyn mewn unrhyw drefn a gallent fod yn ddefnyddiol ar gyfer:

  • goruchwyliaeth
  • cyfarfodydd tîm
  • hyfforddiant
  • cymorth cymheiriaid.

Gellir defnyddio'r adnodd hefyd i gefnogi staff sy'n cwblhau’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF). Rydyn ni wedi nodi lle maen nhw’n cyd-fynd â'r AWIF yn y canllaw.

Defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau â gofalwyr

Ceir o leiaf 370,000 o ofalwyr yng Nghymru. Yng Nghymru y mae’r gyfran uchaf (12%) o ofalwyr i'w cael o blith gwledydd y Deyrnas Unedig, ac mae llawer ohonynt yn darparu dros 50 awr o ofal yr wythnos. Dywed Cyfrifiad 2011 wrthym fod dros 30,000 o ofalwyr dan 25 i'w cael yng Nghymru, a bod 7,500 o'r rhain dan 16.

Yn ôl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae gan bob gofalwr sydd angen cymorth ei hunain hawl i gael asesiad. Rhaid i'r asesiad ystyried y canlyniadau y mae’r gofalwr eisiau eu cyflawni, a dyna pam mae angen i chi gael sgwrs am ‘yr hyn sy’n bwysig’ ar ddechrau eich cysylltiad â nhw.


Adnoddau Asesu Anghenion Cymorth Gofalwyr

Rydym wedi datblygu pecyn cymorth o bedwar adnodd i helpu ymarferwyr i asesu anghenion cymorth gofalwyr. Bydd yr adnoddau’n helpu ymarferwyr i wneud asesiadau o ansawdd o ofalwyr a byddant yn arwain ymarferwyr wrth weithio â gofalwyr a theuluoedd er mwyn canfod beth sydd wir yn bwysig iddyn nhw ac i'w galluogi i gyflawni eu canlyniadau.

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys:

  • llawlyfr hyfforddiant sy’n rhoi gwybodaeth ac arweiniad i hyfforddwyr sy’n cynnal sesiynau ffurfiol i ymarferwyr
  • pecyn o sleidiau sy’n helpu hyfforddwyr i ddatblygu sesiynau hyfforddiant
  • llawlyfr myfyriol i ymarferwyr nad ydynt wedi cael sesiwn hyfforddiant ffurfiol
  • pecyn cymorth i ymarferwyr sy'n dwyn ynghyd nifer o offer ymarfer mewn un lle.

Er sylw: Os na allwch weld cyflwyniadau PowerPoint yn Internet Explorer, ceisiwch ‘arbed’ y ddogfen i’ch bwrdd gwaith i'w gweld.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Ionawr 2020
Diweddariad olaf: 9 Mai 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (92.4 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch