Jump to content
Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2026

Dysgwch fwy am y wobr sy’n dathlu’r rheini sy’n darparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Beth yw’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg?

Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn wobr flynyddol sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn y sector cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru. 

Cyhoeddi'r enillydd

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Garreg Las, Sir Benfro am hanner dydd, dydd Mawrth, 4 Awst 2026. 

Helpwch ni i benderfynnu enillydd

Jodie Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Meithrinfeydd a Chlybiau ar ôl Ysgol St Aubin

Cafodd Jodie ei henwebu gan Megan Morris, sydd wedi gweithio gyda Jodie trwy ei rôl yng Nghlybiau Plant Cymru.

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr naw meithrinfa a chlybiau gofal plant y ar ôl ysgol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, mae Jodie wedi creu amgylchedd cwbl ddwyieithog lle mae'r Gymraeg yn gwbl weladwy ac yn cael ei gwerthfawrogi. 

Mae Jodie yn defnyddio pob cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r plant, gan gynnwys siarad, darllen, canu, adrodd straeon, chwarae gemau, dathliadau fel Dydd Gŵyl Dewi a holl eiliadau bach y drefn ddyddiol.

Mae gweithgareddau thematig, digwyddiadau lleol a phartneriaethau cymunedol cryf yn mynd â chefnogaeth Jodie i'r Gymraeg y tu hwnt i'r lleoliadau ac i'r gymuned. Mae'r sefydliad yn noddi Eisteddfodau lleol. Mae Jodie yn deall pwysigrwydd annog y Gymraeg yn y gymuned ac yn y cartref, yn ogystal ag yn y lleoliadau.

Dywedodd Megan: "Mae Jodie yn mynd y tu hwnt i gefnogi teuluoedd sy'n newydd i'r Gymraeg, gan ddarparu cyfleoedd iddyn nhw ddysgu ac ymgysylltu â'r iaith ochr yn ochr â'u plant."

O dan arweiniad Jodie, mae'r meithrinfeydd a'r clybiau gofal plant wedi dod yn amgylchedd cynhwysol i blant a theuluoedd o gartrefi Cymraeg a chartrefi di-Gymraeg.

Mae Jodie hefyd yn gwneud yn siŵr bod gan staff fynediad at hyfforddiant fel y gallant ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus gyda'r plant. Mae defnyddio'r Gymraeg wedi'i integreiddio i fywyd bob dydd yn y lleoliadau. Mae'n cael ei gydnabod fel rhan bwysig o ddatblygiad pob plentyn.

I Megan, "mae angerdd, arweinyddiaeth ac ymrwymiad Jodie i wneud y Gymraeg yn hygyrch i bawb yn ei gwneud hi'n fodel rôl ar gyfer gofal plant dwyieithog".

Owain Simpson, Rheolwr Gweithredol yn Enfys Care Ltd.

Enwebwyd Owain gan Lorna Ward, y Swyddog Cymorth Gweithredol yn Enfys Care Ltd.

Owain yw'r Rheolwr Gweithredol yn Enfys Care Ltd., sefydliad gofal preswyl i blant, lle mae'n eiriolwr angerddol dros ofal Cymraeg, gan sicrhau ei fod wedi'i ymgorffori mewn arferion bob dydd fel nad oes rhaid i bobl ifanc fyth ofyn am gydnabod eu hanghenion iaith.

Mae Owain yn deall bod gofal Cymraeg yn ymwneud â llawer mwy na chyfathrebu ac o dan ei arweinyddiaeth, mae wedi helpu i greu cartrefi lle mae'r Gymraeg yn rhan o fywyd bob dydd, gan gefnogi staff i dyfu mewn hyder a chael gwared ar rwystrau i ddefnyddio iaith. Trwy droi'r cynnig gweithredol yn weithred ystyrlon, mae Owain yn hyrwyddo perthyn, yn cryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ac yn helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu gweld, eu parchu a'u bod yn falch o'u treftadaeth Gymreig.

Trwy ei arweinyddiaeth, mae'r Gymraeg yn cael ei werthfawrogi fel rhan hanfodol o ofal sy'n canolbwyntio ar y person yn hytrach nag ystyriaeth ychwanegol. Mae'n annog staff i nodi dewisiadau iaith Gymraeg o'r camau cynharaf o atgyfeirio a derbyn, gan ystyried cysylltiadau â theulu, ysgol, cymuned a gweithwyr proffesiynol.

O fewn y cartref, mae Owain yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg gyda chyfarchion, ymadroddion, arwyddion, arferion a gweithgareddau dyddiol. Mae "bore da" syml yn ystod galwadau ffôn y bore yn dangos ei ymrwymiad i wneud y Gymraeg yn weladwy, yn barchus ac yn naturiol mewn rhyngweithiadau bob dydd. Mae'n arwain trwy esiampl, gan annog staff a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg lle bynnag y bo hynny'n briodol a chreu amgylchedd lle mae'r iaith yn cael ei chroesawu a'i dathlu.

Mae Owain hefyd yn gwneud yn siŵr bod cynllunio gofal yn adlewyrchu anghenion iaith pob person ifanc, gan gynnwys cyfleoedd i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, cynnal perthnasoedd teuluol ac aros yn rhan o'u cymuned leol.

Dywed Lorna fod dull Owain "yn helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi a'u cysylltu â phwy ydyn nhw".

Sian Francis, Cysylltydd ICAN yn KIM Inspire yn Sir y Fflint

Enwebwyd gan Nia Anwen Donovan, Prif Swyddog Gweithredol KIM Inspire

Mae Sian yn darparu cymorth iechyd meddwl cymunedol drwy gyfrwng y Gymraeg yng nghefn gwlad de Sir Ddinbych, lle mae'n cefnogi tua 250 o bobl bob blwyddyn.

Yn ei rôl, mae Sian yn cynnal sesiynau cymorth emosiynol un-i-un a sesiwn galw heibio Cymraeg 'KIM Cymraeg'. Ers 2016, mae hi wedi bod yn rhedeg cwrs iaith a diwylliant Cymraeg 10 wythnos a ddyluniwyd ganddi ei hun. Mae gweithgareddau Sian wedi dod â phobl ynysig at ei gilydd, gan roi cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd iddynt rannu dysgu, tra hefyd yn gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg yn y gymuned.

Mae Sian wedi ysbrydoli'r bobl y mae'n eu cefnogi i fod eisiau dysgu Cymraeg a chymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg, o dderbyn cymorth iechyd meddwl yn Gymraeg i ddysgu'r iaith trwy ganeuon, fideos ac ymweliadau, a dysgu am hanes Cymru. Mae hi hefyd wedi adeiladu rhwydwaith o ffigurau amlwg o Gymru, gan gynnwys y canwr Dafydd Iwan, sy'n cefnogi ei gwaith ac yn ymweld â'r grwpiau i roi sgyrsiau ysbrydoledig.

Mae hi wedi cefnogi mwy na 100 o bobl ag iechyd meddwl gwael i ennill achrediad Rhwydwaith Coleg agored trwy ei chwrs, tra hefyd yn eu helpu i wella eu hiechyd meddwl a chynyddu eu hunan-gred.

Meddai Nia: "Mae Sian yn gwneud ymdrech anhygoel i blethu'r Gymraeg drwy gydol ei rôl cymorth iechyd meddwl. Mae hi'n gwneud ei hun ar gael i unrhyw un sydd eisiau siarad yn eu hiaith frodorol waeth ble maen nhw'n lleoli."

Mae Nia yn disgrifio cyfradd llwyddiant Sian fel "anhygoel" gyda llawer o bobl yn dweud eu bod wedi ceisio dysgu Cymraeg trwy ddosbarthiadau o'r blaen ond wedi methu.

Dywedodd un o'r bobl a gefnogodd Sian: "Mae'r grwpiau wedi fy helpu i symud ymlaen i ddysgu'r Gymraeg mewn lleoliad croesawgar cyfeillgar ac wedi rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi, sydd wedi gwella'n fawr sut rwy'n teimlo ynof fy hun."

Tra dywedodd un arall: "Dysgais am yr Eisteddfod ac felly es i ymweld, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi meddwl y byddai gen i'r hyder i'w wneud."

Y seremoni wobrwyo

Byddwn ni’n rhoi tlws i’r enillydd a thystysgrif i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Ni fydd unrhyw wobr ariannol na’r hyn sy’n cyfateb iddi.

Bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’u henwebwyr yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo Gofalu trwy’r Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Garreg Las, Sir Benfro ar ddydd Mawrth, 4 Awst 2026. Os na fydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn gallu dod i’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni ymlaen llaw a dweud wrthym ni pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.

Os byddwn ni’n canfod bod rhywun sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol neu ei enwebydd wedi torri’r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno’r wobr – efallai y bydd y beirniaid yn gwahardd y gweithiwr rhag bod yn rhan o’r wobr. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid anfon y tlws a/neu’r dystysgrif yn ôl atom ni ar unwaith.