Jump to content
Pam mae cael tystiolaeth a data mor bwysig i ofal cymdeithasol yng Nghymru
Newyddion

Pam mae cael tystiolaeth a data mor bwysig i ofal cymdeithasol yng Nghymru

| Sue Evans, ein Prif Weithredwr

Un o’n nodau yw gwneud yn siŵr bod ymchwil, data a mathau eraill o dystiolaeth ansawdd uchel wrth wraidd gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod pobl Cymru yn gallu manteisio ar ofal a chymorth sy’n bodloni eu hanghenion.

Gall data a thystiolaeth roi deallusrwydd cyfoethog i ni y gellir ei ddefnyddio gan bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i helpu llywio a gwella gofal a chymorth i bobl Cymru – nawr ac yn y dyfodol.

Gall ddweud wrthym pwy sy’n defnyddio data a thystiolaeth i ragweld pa gymorth y gall fod ei angen yn y dyfodol, ble mae bylchau, ble mae cyfleoedd i wella pethau a beth yw’r heriau.

Hefyd, gallwn ddefnyddio’r data a’r dystiolaeth i ragweld pa gymorth y gall fod ei angen yn y dyfodol, fel y gallwn gynllunio ymlaen a gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau hynny ar waith.

Mae’n hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau ac os na ddefnyddiwn y data a’r dystiolaeth sydd ar gael yn dda, byddwn ni’n colli cymaint o gyfleoedd.

Ond nid yw’n ymwneud â chasglu mwy o ddata yn unig. Rhan o’r her yw ystyried sut y gallwn gysylltu’r data sydd gennym ni â data sectorau eraill, er mwyn i ni allu cysylltu’r bylchau ac adeiladu darlun am gyflwr y genedl, oherwydd rydyn ni’n gwybod nad yw dinasyddion Cymru’n defnyddio gwasanaethau yn arunig.

Os ydych chi’n defnyddio gofal cymdeithasol, byddwch yn ôl pob tebyg yn defnyddio’r GIG hefyd a gallech fod yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn ogystal.

Dechrau y mae ein taith data a thystiolaeth yng Ngofal Cymdeithasol Cymru, ond rydyn ni wedi cymryd camau mawr ymlaen dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae ein hadroddiad blynyddol ar ddata’r gweithlu, er enghraifft, yn rhoi mewnwelediad i ni i’r rhyw 85,000 o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol am yr heriau y mae’r sector yn eu hwynebu, fel cyfraddau swyddi gwag a lefelau salwch.

Hefyd, rydyn ni newydd lansio ein hail arolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn dilyn llwyddiant arolwg peilot y llynedd.

Mae’r arolwg yn gofyn i bobl sydd wedi cofrestru gyda ni am eu barn am bethau fel eu hiechyd a’u llesiant, tâl ac amodau, a sut beth yw gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Roeddwn i wrth fy modd pan atebodd mwy na 1,000 o bobl yr ail arolwg yn y pedwar diwrnod cyntaf ac mae’n dangos yn union pa mor bwysig yw hi i roi cyfle i weithwyr gofal ddweud eu barn wrthym ni.

Mae canfyddiadau’r ddau adroddiad wedi rhoi llawer o dystiolaeth werthfawr i ni i gefnogi pethau roeddem eisoes yn gwybod amdanynt ar lafar, ac rydyn ni wedi rhannu’r canfyddiadau â phenderfynwyr dylanwadol, fel arweinwyr gofal cymdeithasol, Llywodraeth Cymru a gwleidyddion.

Hefyd, mae gennym ni brosiectau data a thystiolaeth cyffrous ar y gweill. Dros y misoedd nesaf, byddwn ni’n lansio gwefan newydd.

Bydd y wefan, o’r enw’r Grŵp Gwybodaeth, yn siop un stop i wybodaeth am ymchwil, data ac arloesiadau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd yn adnodd amhrisiadwy i unrhyw sy’n gweithio yn y sector sydd am ddarganfod beth sy’n gweithio a pham mae’n gweithio’n dda.

Hefyd, rydyn ni wedi lansio porth data gofal cymdeithasol ar ei newydd wedd i Gymru (socialcaredata.wales) i’w gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i’r data maen nhw’n chwilio amdano.

Mae’r porth data yn adnodd defnyddiol sy’n casglu gwahanol fathau o ddata’n gysylltiedig â gofal cymdeithasol, fel nifer y gweithwyr cymdeithasol a faint o blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol.

Mae’n amser cyffrous i dystiolaeth a data gofal cymdeithasol yng Nghymru a gallwch ddysgu am yr agwedd hanfodol hon ar ein gwaith ar ein gwefan.