Jump to content
Dweud eich dweud am weithio ym maes gofal cymdeithasol
Newyddion

Dweud eich dweud am weithio ym maes gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ein harolwg o’r gweithlu gofal cymdeithasol ar gyfer 2024 bellach yn fyw!

Ym mis Hydref, fe wnaethon ni cyhoeddi canlyniadau ein harolwg peilot o’r gweithlu.

Dangosodd canlyniadau arolwg y llynedd fod gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi gan y bobl a’r teuluoedd y maen nhw’n cefnogi. Ond maen nhw hefyd yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol gan y cyhoedd ac nad ydyn nhw'n cael digon o dâl am y gwaith maen nhw'n ei wneud.

Gofynnodd yr arolwg gwestiynau am bethau fel iechyd a llesiant, tâl ac amodau, a beth mae pobl yn ei hoffi am weithio yn y sector.

Hwn oedd yr arolwg cyntaf o’i fath ac, ynghyd â’n casgliad data'r gweithlu, rhoddodd gipolwg i ni ar weithio ym maes gofal cymdeithasol nad ydyn ni wedi’i gael o’r blaen.

Rydyn ni nawr yn cynnal yr arolwg eto fel y gallwn ddechrau monitro tueddiadau dros amser.

Cymerwch ran yn arolwg Dweud Eich Dweud 2024

Rhowch eich barn am weithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae Prifysgol Bath Spa a Chymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) yn gweithio gyda ni i gyflawni'r ymchwil hwn, a bydd yr arolwg yn cael ei gynnal ar y platfform Online Surveys.

Hyd yn oed os ydych chi wedi gadael y sector, hoffen ni glywed am eich profiadau.

Byddwn ni’n defnyddio canlyniadau’r arolwg hwn i helpu lunio’r cymorth a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig, yn ogystal â gwaith sefydliadau partner, felly peidiwch â cholli’ch cyfle i ddweud eich dweud.

Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £20.

Dywedodd David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio: “Mae’r arolwg hwn yn hynod bwysig i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r gweithlu a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

‘’Amlygodd ein hymchwil yn 2023 rai materion pwysig. Wnaethon ni rannu'r canfyddiadau gyda'n partneriaid ac rydyn ni’n gweithio gyda'n gilydd i nodi sut y gallwn ni wneud pethau'n well i bobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

“Bydd yr arolwg nesaf yn gyfle i ddechrau monitro tueddiadau ac i olrhain effaith y cymorth rydyn ni a’n partneriaid yn ei gynnig.

“Rydyn ni’n deall efallai nad yw cwblhau arolwg yn flaenoriaeth i bobl – yn enwedig o ystyried gofynion amser a phwysau eu swyddi o ddydd i ddydd. Ond bydd cymryd 15 munud i ddweud wrthym beth yw eu barn yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac y gallwn ni ymateb i anghenion y sector yn fwy effeithiol."

Darganfyddwch fwy

Ewch i'n hafan Dweud Eich Dweud 2024.