Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19

Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd

Cymwysterau sy'n cael eu hargymell ar gyfer ymarfer:

  1. Diploma Lefel 3 mewn Eiriolaeth Annibynnol (y llwybr Rheoli Eiriolaeth Annibynnol)

neu

  1. Gradd mewn gwaith cymdeithasol

ac

Cymhwyster rheoli generig ar yr amod ei fod:

  • yn o leiaf lefel 3
  • ganddo o leiaf 37 credyd
  • wedi’i asesu yn y gweithle ar gyfer cymhwysedd galwadigaethol a bod y person cofrestriedig mewn rôl iechyd neu gofal cymdeithasol perthnasol pan gafodd y cymhwyster ei ymgymryd.

Noder: Mae’r rheolwyr sy’n dal y Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol ond dim un o’r cymhwysterau rheolwyr, yn gallu ceisio cofrestru ond fe fydd angen cwblhau un o’r cymwysterau rheoli a restrwyd yn ei cyfnod cofrestru 3 mlynedd.

Nid oes angen cofrestru

Gofynion eraill

Mae’r rheoliadau gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod “y darparwr gwasanaeth yn sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad priodol yn gweithio yn y gwasanaeth”.

Mae’r cymwysterau priodol yn cael eu cynnwys yn y fframwaith hwn.

Cymwysterau eraill a dderbyniwyd

  1. Tystysgrif Lefel 3 mewn Eiriolaeth Annibynnol (Rheoli Eiriolaeth Annibynnol)

ac

  1. NVQ 4 mewn Rheoli (wedi’i asesu mewn lleoliad gofal cymdeithasol)

Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd

Lloegr:

Yr un yw’r cymhwyster yng Nghymru ac yn Lloegr.

Gogledd Iwerddon:

Yr un yw’r cymhwyster yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.

Yr Alban:

Nid oes cymwysterau wedi’u nodi ar gyfer yr Alban.

Gofynion sefydlu

Cyfrifoldeb y cyflogwr a'r darparwr gwasanaeth yw sicrhau bod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael hyfforddiant sefydlu sy'n briodol i'w rôl. Bydd hyn yn cynnwys rheolwyr. Disgwylir i'r hyfforddiant hwn fod yn gadarn ac yn hwylus er mwyn eu paratoi ar gyfer rolau a chyfrifoldebau sy’n newydd ac sy'n newid.

Disgwylir hefyd i bob rheolwr newydd gael copi o'r ddogfen Y Rheolwr Gofal Cymdeithasol – canllawiau ymarfer ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel rhan o'r rhaglen sefydlu, ynghyd â chopi o’r Côd Ymarfer i Gyflogwyr Gofal Cymdeithasol.