Mae Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) ar gyfer rheolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn ymdrin â’r wybodaeth a’r ymarfer y dylech ei arddangos fel rheolwr newydd.
Mae’r canllaw hwn yn egluro:
- pam y mae sefydlu’n bwysig
- beth mae’r AWIF yn ymdrin ag ef
- sut i gwblhau’r AWIF
- sut i ddefnyddio logiau cynnydd
- sut i gysylltu’r AWIF â datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
- pa adnoddau all eich helpu.
Pam y mae rhaglen sefydlu dda yn bwysig?
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw datblygu gweithlu medrus ym maes gofal plant a chwarae, sy’n uchel ei barch fel proffesiwn a gyrfa o ddewis, ac sy’n cael ei gydnabod am y rôl hanfodol y mae’r sector yn ei chwarae wrth gefnogi datblygiad ein plant.
Fel rhan o gymorth hyfforddi ehangach, mae Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob lleoliad blynyddoedd cynnar ddarparu rhaglen sefydlu i weithwyr newydd. Dylai’r rhaglen sefydlu helpu gweithwyr i ddeall ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r gwerthoedd sydd eu hangen i weithio yn y blynyddoedd cynnar.
O dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i Blant hyd at 12 oed rhaid i weithwyr gwblhau, neu fod yn gweithio tuag at, hyfforddiant sefydlu sy’n berthnasol i’w rôl, gan gynnwys Fframwaith sefydlu Cymru gyfan. Dylai gweithwyr hefyd gael hyfforddiant sefydlu yn ymwneud ag iechyd a diogelwch a pholisïau a gweithdrefnau amddiffyn plant yn ystod eu hwythnos gyntaf.
Mae rhaglen sefydlu drylwyr sydd wedi’i hystyried yn ofalus yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir.
Mae rhaglen sefydlu yn sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn a’r gwerthoedd sy’n sail i weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae hefyd yn eich helpu i setlo a dod yn fwy effeithiol yn eich rôl.
Mae rhaglen sefydlu yn sicrhau eich bod yn gwybod beth yw eich rôl, a beth yw cyfyngiadau’r rôl. Gall gynyddu ymrwymiad gweithwyr a’u bodlonrwydd mewn swydd, ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar leihau trosiant staff.
Beth yw'r AWIF ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant?
Mae'r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) ar gyfer rheolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn safonau sydd wedi’u codi o gynnwys deilliannau dysgu gorfodol cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli a Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.
Mae’n nodi’r wybodaeth a’r ymarfer y dylech ei ddangos dros gyfnod, fel rheolwr blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n newydd i’r rôl.
Mae dwy ran i’r Fframwaith sefydlu:
Rhan A - safonau sefydlu sy’n seiliedig ar wybodaeth
Mae’r safonau sefydlu sy’n seiliedig ar wybodaeth yn ymdrin â’r cyfrifoldebau eang ar gyfer arwain a rheoli gwasanaethau blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae hyn yn cynnwys:
- arwain ymarfer plentyn-ganolog
- fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli
- deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol.
Rhan B - safonau sefydlu sy’n seiliedig ar gymhwysedd
Mae’r safonau sefydlu sy’n seiliedig ar gymhwysedd yn ymdrin â meysydd amrywiol, er enghraifft ymarfer proffesiynol, ac arwain a rheoli:
- ymarfer plentyn-ganolog
- perfformiad tîm effeithiol
- ansawdd y gweithle/lleoliad
- ymarfer sy’n hybu diogelu plant
- iechyd a diogelwch.
Pwy ddylai gwblhau’r AWIF a faint o amser ddylai hynny ei gymryd?
Dylai pob rheolwr blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n newydd yn ei swydd gwblhau’r AWIF fel cyflwyniad cyffredinol i’w rôl.
Os ydych yn rheolwr profiadol neu gymwysedig, byddem yn disgwyl bod gennych rywfaint o dystiolaeth o wybodaeth ac ymarfer yn barod drwy’r cymwysterau rydych eisoes wedi’u cwblhau, neu drwy gyflogaeth flaenorol, ond efallai y bydd gan rai rheolwyr lai o brofiad.
Rydym yn argymell bod pob rheolwr yn cwblhau’r AWIF cyn pen 12 mis ar ôl dechrau swydd newydd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ymwreiddio eich dysgu mewn ymarfer a diweddaru eich gwybodaeth o fframweithiau deddfwriaethol, ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a meysydd arbenigol.
Sut i gwblhau’r AWIF
Dylech gwblhau rhan A a rhan B. Dylid cytuno ar hyn gyda’ch cyflogwr.
Os yw’n bosibl, dylech gael mentor a/neu hyfforddwr a all roi cyngor ac arweiniad gwrthrychol, ac adborth adeiladol, a’ch helpu i dyfu a datblygu.
Os oes gan unigolion radd gydnabyddedig sydd ar Fframwaith cymwysterau rheolwyr Dechrau’n Deg, dim ond rhan B fydd angen iddyn nhw ei chwblhau.
Mae hyn oherwydd bod prifysgolion wedi diweddaru modiwlau a chynnwys eu cyrsiau ers hynny i fod yn gyson â meini prawf Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli, sy’n ofynnol ar gyfer rôl Rheolwr Dechrau’n Deg.
Rhaid i raddedigion wedyn ddangos eu sgiliau Lefel 5 Arwain a Rheoli drwy gwblhau logiau cynnydd sgiliau cymhwysedd (rhan B) yr AWIF ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant o fewn y flwyddyn gyntaf ar ôl iddynt ddechrau eu rôl reoli, sydd hefyd yn ofynnol ar gyfer rôl rheolwr Dechrau’n Deg.
Logiau cynnydd
Mae logiau cynnydd rhan A a logiau cynnydd rhan B yn ymdrin â holl adrannau’r fframwaith. Dylech ddefnyddio’r rhain i nodi’r dystiolaeth rydych wedi’i defnyddio i gadarnhau eich bod wedi cyrraedd safon y rhaglen sefydlu.
Mae’r dystiolaeth yn cynnwys:
- cwblhau cymhwyster
- goruchwylio
- cofnodion
- arsylwi ymarfer
- geirda tystion.
Pwy all gymeradwyo cwblhau’r AWIF?
Cymeradwyo logiau cynnydd
Dylai pob adran o’r logiau cynnydd gael eu llofnodi gennych chi a’r person sydd wedi gwneud y penderfyniad bod pob safon yn y rhaglen sefydlu wedi’i bodloni, a dylid nodi’r dyddiad.
Rhaid i’r person sy’n gwneud y penderfyniad:
- fod â gwybodaeth weithredol o’r safonau sefydlu y mae’n eu beirniadu
- fod yn gymwys o safbwynt galwedigaethol yn y maes y mae’n ei feirniadu
- fod yn gyfarwydd â’ch ymarfer.
Gallai’r person hwn, er enghraifft, fod yn Unigolyn Cyfrifol, mentor a ddyrannwyd, arweinydd datblygu ymarfer neu reolwr arall sy’n goruchwylio eich gwaith.
Cymeradwyo’r dystysgrif cwblhau
Os yw’n bosib, dylai’r dystysgrif cwblhau’n llwyddiannus gael ei chymeradwyo a’i llofnodi gan yr Unigolyn Cyfrifol a gennych chi. Rhaid i’r Unigolyn Cyfrifol allu darparu sicrwydd o broses drylwyr sydd wedi cadarnhau eich bod wedi bodloni safonau’r rhaglen sefydlu. Nid oes angen iddo gymeradwyo a llofnodi tystiolaeth o bob safon yn y logiau cynnydd, ond dylai gymeradwyo a llofnodi’r dystysgrif gwblhau gyffredinol.
Weithiau, nid yw’n bosibl i’r Unigolyn Cyfrifol gymeradwyo a llofnodi bod y Fframwaith Sefydlu wedi’i gwblhau, er enghraifft mewn sefydliadau bach lle mae’r Unigolyn Cyfrifol hefyd yn rheolwr arnoch.
Mewn achosion o’r fath, dylai’r dystysgrif cwblhau gael ei chymeradwyo a’i llofnodi gan rywun y tu mewn neu y tu allan i’r sefydliad sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniad ynglŷn â safonau’r rhaglen sefydlu.
Dylai’r person fod yn weithiwr proffesiynol rydych wedi ei adnabod yn broffesiynol tra’n cwblhau’r AWIF, ac ni ddylai fod yn perthyn i chi, nac mewn perthynas bersonol â chi mewn unrhyw ffordd.
Cysylltu’r AWIF â datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Gan fod yr AWIF yn cynnwys set gytunedig o safonau ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant, gallwch hefyd ei ddefnyddio fel offeryn i’ch cynorthwyo os oes gennych gymwysterau hŷn, neu os oes angen i chi uwchsgilio neu ddiweddaru eich ymarfer.
Gall cyflogwyr hefyd ei ddefnyddio fel rhan o’r broses arfarnu, i wirio cymhwysedd ac i sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth iawn i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich rôl. Mae gennym becyn cymorth DPP i’ch helpu i feddwl am hyn.
Adnoddau i’ch helpu
Mae Manyleb y Cymhwyster ar gyfer Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli a Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys uned ar gyfer pob adran o’r AWIF. Rydyn ni wedi cymryd y deilliannau dysgu gorfodol o bob uned a defnyddio’r rhain fel y safonau.
O fewn yr unedau, mae'r safonau sefydlu wedi’u cysylltu â set o feini prawf asesu. Nid ydyn ni'n disgwyl i rhywun fynd â chi drwy bob un o’r rhain yn fanwl, ond byddant yn rhoi syniad i chi ynglŷn â’r math o wybodaeth ac ymddygiadau y disgwylir i chi fod â thystiolaeth ohono.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r llyfr gwaith gwybodaeth AWIF, sydd wedi’i ddatblygu i’ch helpu i ymdrin â’r bylchau yn eich gwybodaeth. Mae gweithgareddau amrywiol y gallwch eu defnyddio i ddangos bod yr wybodaeth ofynnol gennych.
Mae'r Llawlyfr sgiliau cymhwysedd wedi’i ddatblygu i roi enghreifftiau o sut y gallwch gasglu darnau ymarferol o dystiolaeth i ddangos eich sgiliau rheoli drwy gydol eich rôl.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.