Jump to content
Arweinydd / rheolwr / person mewn rheolaeth Dechrau’n Deg

Cymhwyster cyfredol a dderbyniwyd

Yn ofynnol o dan bolisi Llywodraeth Cymru:

  1. City and Guilds Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Ac yn olynol a chanllawiau Llywodraeth Cymru disgwylir i arweinwyr Dechrau'n Deg gwblhau neu fod yn gweithio tuag at y cymhwyster ymarfer ar gyfer y rôl:

  1. City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Graddau:

Bydd y graddau canlynol hefyd yn cael eu derbyn ar gyfer rôl Rheolwr Dechrau’n Deg, ar yr amod bod Fframwaith sgiliau cymhwysedd Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant yn cael ei gwblhau o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl dechrau’r rôl newydd:

  1. BA2 Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd blynyddoedd cynnar (cwblhawyd ar ôl Gorffennaf 2024)

  2. BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd blynyddoedd cynnar (cwblhawyd ar ôl Gorffennaf 2024)

  3. Prifysgol De Cymru: BA Addysg ac Ymarfer y Blynyddoedd Cynnar (gyda statws Ymarferydd y blynyddoedd cynnar) (cwblhawyd ar ôl Gorffennaf 2025)

Dim ond os yw unigolion wedi graddio ar ôl y dyddiad cwblhau a nodir y cydnabyddir y graddau uchod.


Mae prifysgolion wedi diweddaru eu modiwlau cwrs a chynnwys i alinio â meini prawf Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth, sy’n ofynnol ar gyfer rôl Rheolwr Dechrau’n Deg.


Rhaid i raddedigion wedyn ddangos eu sgiliau Arwain a Rheoli Lefel 5 trwy gwblhau logiau cynnydd sgiliau cymhwysedd Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Rheolwyr y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant o fewn y flwyddyn gyntaf o ddechrau eu rôl reoli, sydd hefyd yn ofynnol ar gyfer rôl Rheolwr Dechrau’n Deg.

Cymwysterau blaenorol

Cymwysterau eraill y DU a dderbyniwyd

Gofynion sefydlu