Jump to content
Dechrau’n Deg

Rhaglen a ariennir sy’n cefnogi teuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Nod y rhaglen hon yw rhoi ‘dechrau teg’ mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.

Ni fydd angen i leoliadau gofal plant fodloni gofynion cymhwyster Lefel 4 a Lefel 5 arweinyddiaeth ychwanegol 'Dechrau'n Deg' (Flying Start) mwyach er mwyn darparu gofal plant a ariennir ar gyfer plant dwy oed. 

Ni fydd angen i warchodwyr plant feddu ar y cymhwyster Lefel 3 sylfaenol ychwanegol, na bodloni gofyniad Lefel 5 ychwanegol, os ydynt yn cyflogi cynorthwyydd neu gynorthwywyr. Rhaid i bob darparwr, gan gynnwys gwarchodwyr plant, barhau i fodloni'r gofynion perthnasol o ran cymwysterau'r gweithlu a staffio, fel y'u pennir gan Ofal Cymdeithasol Cymru ac o fewn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Fe fydd y maes gwasanaeth yma a’r rôl swyddi yn cael eu dileu ar 1 Ebrill 2027.

Rôl swyddi