Mae gweithiwr Dechrau’n Deg yn darparu gofal a chymorth i blant yn eu dysgu a’u datblygiad mewn rôl heb oruchwyliaeth neu rôl oruchwyliol.
Nod y rôl yw sicrhau bod plant yn profi ystod eang o gyfleoedd chwarae creadigol ac arbrofol mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
Ar gyfer gofynion cymwysterau, diffinnir gwarchodwr plant nad yw’n gweithio gyda chynorthwyydd(wyr) fel Ymarferydd Dechrau’n Deg a diffinnir gwarchodwr plant sy’n gweithio gyda chynorthwyydd(wyr) gwarchodwyr yn y lleoliad fel Arweinydd Dechrau’n Deg.
Noder, bod cynorthwyydd gwarchod plant sy'n cefnogi Arweinydd Dechrau'n Deg i ddarparu darpariaeth Dechrau'n Deg yn cael ei ddiffinio fel Ymarferydd Dechrau'n Deg.
Os oes gennych chi ymholiad am gymwysterau gofal plant a’r blynyddoedd cynnar, anfonwch e-bost atom yn Cymwysterauasafonau@gofalcymdeithasol.cymru gan nodi teitl y cymhwyster, lle y cafwyd y cymhwyster, rôl y swydd a’r math o leoliad y mae’r rôl ar ei gyfer.