Gall gweithwyr gofal cymdeithasol heb y cymhwyster gofynnol i gofrestru gyda ni ofyn i'w rheolwr cofrestredig, neu Unigolyn Cyfrifol os nad oes rheolwr cofrestredig, asesu eu dealltwriaeth o egwyddorion gofal cymdeithasol yng Nghymru, tra bod nhw’n gweithio tuag at gael cymhwyster.
Mae hyn yn golygu gallwch chi gadarnhau cais eich gweithwyr i gofrestru os ydych chi'n fodlon bod ganddynt y ddealltwriaeth briodol. Os ydych chi'n rheolwr cofrestredig, cysylltwch â llofnodwyr@gofalcymdeithasol.cymru fel y gallwn ni roi'r mynediad perthnasol i chi wneud hyn.
Dylech chi ddefnyddio'r wybodaeth ar y dudalen hon i'ch helpu chi i benderfynu a yw gweithiwr gofal cymdeithasol yn addas i ymarfer ac a oes ganddyn nhw'r ddealltwriaeth briodol i wneud cais i gofrestru gyda ni.