Trosolwg o'n cynnydd yn erbyn y canlyniad hwn yn 2023-2024
Mae gan y cyhoedd yng Nghymru ganfyddiad cadarnhaol o sgiliau a phroffesiynoldeb y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru:
- mae gan 72% hyder yn y rhai sy'n gweithio yn y sector gofal
- mae 82% yn gwybod beth yw safon gofal derbyniol
- mae 63% yn meddwl bod gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol yn cael eu rheoleiddio (o'i gymharu â 58% yn 2021)
- dim ond 29% sy'n gwybod sut i godi pryder am weithiwr cymdeithasol neu weithiwr gofal cymdeithasol
- mae 70% yn meddwl bod gweithwyr gofal plant a'r blynyddoedd cynnar yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru - dim ond 8% sy'n gwybod nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio
- mae 67% yn cytuno y dylai pobl dderbyn gofal trwy gyfrwng y Gymraeg os mai dyna yw eu dewis (yr un ganran ag yn 2021) - mae cefnogaeth yn uwch ymhlith y rhai sy'n siarad Cymraeg (76%), ond mae'n gymharol uchel ymhlith pobl ddi-Gymraeg (63%) hefyd
(Ffynhonnell: Arolwg Omnibws Cymru 2023)
Rheoleiddio
Rydyn yn diogelu'r cyhoedd trwy sicrhau bod y gweithlu a reoleiddir wedi'i gofrestru ac yn addas i ymarfer.
Rydyn am i bobl sy'n dibynnu ar ofal a chymorth fod yn sicr bod gan weithwyr cofrestredig y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddarparu gofal a chymorth, a'u bod yn gweithio yn unol â'r safonau rydym wedi'u pennu ar gyfer y sector.
Gweithlu cofrestredig
Ym mis Mawrth 2024 roedd 61,000 o bobl wedi'u cofrestru gyda ni (8,000 yn fwy nag ar ddiwedd 2023):
- 1,299 o reolwyr cartrefi gofal i oedolion
- 24,970 o weithwyr cartrefi gofal i oedolion
- 988 o reolwyr gofal cartref
- 21,578 o weithwyr gofal cartref
- 6,763 o weithwyr cymdeithasol
- 383 o reolwyr gofal plant preswyl
- 4,342 o weithwyr gofal plant preswyl
- 749 o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.
Addasrwydd i ymarfer
Mae addasrwydd i ymarfer yn golygu bod gan weithiwr cofrestredig y sgiliau, y wybodaeth a'r cymeriad i wneud ei waith yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae'n fframwaith rheoleiddio sydd wedi'i gynllunio i ddiogelu'r cyhoedd trwy sicrhau mai dim ond y rhai sy'n addas i ymarfer sy'n cael gwneud hynny.
Yn 2023 i 2024:
- cafodd 465 o weithwyr gofal cymdeithasol eu cyfeirio at ein tîm addasrwydd i ymarfer
- cynhaliwyd 51 gwrandawiad terfynol
cafodd 46 o bobl (0.08% o'r Gofrestr) eu tynnu oddi ar y Gofrestr, sy'n golygu na allant weithio mewn swydd gofal cymdeithasol gofrestredig yng Nghymru mwyach, sef:
- 4 o weithwyr gofal plant preswyl
- 2 o reolwyr cartrefi gofal i oedolion
- 8 o weithwyr cartrefi gofal i oedolion
- 1 gweithiwr cymdeithasol
- 31 o weithwyr gofal cartref.
Newidiadau cofrestru ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr
Wrth i'r gweithlu gofal cymdeithasol dyfu, gwyddom pa mor bwysig yw gwneud ein proses gofrestru’n symlach, fel ei bod mor hawdd â phosibl i bobl weithio yn y sector.
Rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf, fe wnaethom holi'r gweithlu gofal cymdeithasol am ei farn ar ein newidiadau arfaethedig i gofrestru. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig ffordd newydd o gofrestru, ynghyd â rhoi mwy o amser i weithwyr gwblhau'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i adnewyddu eu cofrestriad.
Hefyd, fe wnaethom ofyn i'r gweithlu am adborth ar ein gofynion cofrestru a'r canllawiau ymarfer drafft ar gyfer gweithwyr a rheolwyr preswyl ysgolion arbennig. Ar ôl ystyried yr adborth a gawsom, daeth y newidiadau arfaethedig i rym ym mis Medi 2023.
“Bydd y newidiadau hyn yn gwneud y broses gofrestru’n symlach ac yn fwy effeithiol i Gymru, gan sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddenu'r gweithlu gorau ar gyfer gofal cymdeithasol.” David Pritchard, ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio