1
00:00:04,960 --> 00:00:07,390
Croeso i'r pumed o'n hadnoddau fideo
2
00:00:07,440 --> 00:00:09,770
sydd wedi'u datblygu i gefnogi sefydliadau
3
00:00:09,820 --> 00:00:11,750
sy'n gweithio ym maes
gofal cymdeithasol plant,
4
00:00:11,800 --> 00:00:16,240
i ddeall sut gallan nhw wreiddio dull
recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
5
00:00:16,840 --> 00:00:21,600
Yn y fideo hwn byddwn ni'n canolbwyntio
ar yr olaf o'r 5A, sef 'cymathu',
6
00:00:21,650 --> 00:00:25,455
ac mae hynny'n golygu sut rydych chi'n
sefydlu, hyfforddi a chefnogi staff newydd
7
00:00:25,505 --> 00:00:28,680
i roi dechrau llwyddiannus
iddyn nhw yn eich sefydliad.
8
00:00:29,000 --> 00:00:32,710
Dangoswn sut gallwch chi wreiddio
eich gwerthoedd a'ch ymddygiadau
9
00:00:32,760 --> 00:00:35,660
yn eich prosesau sefydlu,
mewn goruchwyliaeth,
10
00:00:35,710 --> 00:00:38,880
ac mewn sgyrsiau ffurfiol ac anffurfiol
gyda staff newydd.
11
00:00:39,840 --> 00:00:43,880
Mae sefydliadau'n aml yn rhoi
llawer o amser ac egni i recriwtio staff,
12
00:00:44,120 --> 00:00:47,600
ac yn gweld hynny fel diwedd y broses
recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
13
00:00:47,800 --> 00:00:50,630
Ond celfyddyd yw recriwtio,
nid gwyddoniaeth,
14
00:00:50,680 --> 00:00:54,150
sy'n golygu na all hyd yn oed
y broses recriwtio orau ei chynllun
15
00:00:54,200 --> 00:00:58,460
warantu y bydd eich staff newydd
yn ffitio eich rôl yn berffaith,
16
00:00:58,510 --> 00:01:03,435
nac y byddan nhw'n gwireddu'r gwerthoedd
wnaethoch chi eu nodi wrth recriwtio.
17
00:01:03,948 --> 00:01:07,230
Felly mae'r cam olaf hwn o'r model
recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd
18
00:01:07,280 --> 00:01:10,215
yn ymwneud â sut rydych chi'n
cydnabod pwysigrwydd sefydlu,
19
00:01:10,265 --> 00:01:12,960
datblygu, rheoli,
a chefnogi'ch staff,
20
00:01:13,010 --> 00:01:16,660
fel eu bod nhw'n deall y gwerthoedd
a'r ymddygiadau rydych chi'n eu disgwyl,
21
00:01:16,710 --> 00:01:20,960
a sut gallan nhw gymathu a dod
yn rhan o ddiwylliant eich sefydliad.
22
00:01:21,160 --> 00:01:25,015
Mae'n eu paratoi nhw
i rannu eu doniau unigryw
23
00:01:25,065 --> 00:01:27,040
a'u nodweddion unigol,
24
00:01:27,090 --> 00:01:31,120
ac i gysoni'r rheini â'ch gwerthoedd
a'ch ffyrdd disgwyliedig o weithio.
25
00:01:32,000 --> 00:01:33,675
Yn y sector gofal cymdeithasol,
26
00:01:33,725 --> 00:01:37,323
gall y gyfradd trosiant staff
yn y flwyddyn gyntaf fod yn uchel.
27
00:01:37,574 --> 00:01:40,855
Pan rydych chi wedi gwneud yr
holl waith caled i recriwtio staff gwych,
28
00:01:40,905 --> 00:01:43,280
eu cadw nhw
yw eich prif flaenoriaeth,
29
00:01:43,330 --> 00:01:46,600
fel nad oes rhaid i chi ailadrodd
buddsoddi amser ac adnoddau
30
00:01:46,650 --> 00:01:48,180
mewn mwy o recriwtio.
31
00:01:48,301 --> 00:01:51,240
Gall canolbwyntio ar werthoedd
ac ymddygiadau gyda staff
32
00:01:51,290 --> 00:01:54,120
o ddechrau'r daith gyflogaeth
33
00:01:54,170 --> 00:01:56,000
eich helpu chi i gadw pobl,
34
00:01:56,050 --> 00:01:59,270
achos byddan nhw'n gwybod
beth sy'n cael ei ddisgwyl ganddyn nhw,
35
00:01:59,320 --> 00:02:00,835
yn teimlo cefnogaeth i ddatblygu
36
00:02:00,885 --> 00:02:04,015
ac i addasu i ffyrdd newydd
o weithio yn eich diwylliant,
37
00:02:04,065 --> 00:02:05,775
a bydd cyfleoedd gyda nhw hefyd
38
00:02:05,825 --> 00:02:09,600
i gael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi
yn gynnar am eu cyfraniad.
39
00:02:10,440 --> 00:02:13,335
Yn y fideo hwn byddwn ni'n
archwilio'r tri maes
40
00:02:13,385 --> 00:02:17,550
lle gallech chi wreiddio gwerthoedd
pan fo staff yn dechrau gweithio i chi.
41
00:02:17,600 --> 00:02:21,040
Edrychwn ar y broses sefydlu,
y broses oruchwylio
42
00:02:21,090 --> 00:02:23,480
a'ch proses gydnabod staff.
43
00:02:24,040 --> 00:02:26,240
Felly gadewch i ni ddechrau â sefydlu.
44
00:02:27,160 --> 00:02:31,280
Pan mae gyda chi werthoedd sefydliadol
sydd wedi'u diffinio'n glir
45
00:02:31,330 --> 00:02:34,320
yn eich disgrifiadau swydd
a'ch manylebau person,
46
00:02:34,370 --> 00:02:38,215
dylech chi hefyd sicrhau eu bod nhw wedi'u
cynnwys mewn polisïau a phrosesau eraill
47
00:02:38,265 --> 00:02:41,130
sy'n gosod disgwyliadau ymddygiad staff,
48
00:02:41,180 --> 00:02:44,760
gyda'i gilydd a chyda'r plant a'r
bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw,
49
00:02:44,810 --> 00:02:47,800
er enghraifft,
yn eich cod ymddygiad staff.
50
00:02:48,880 --> 00:02:50,895
Fel rhan o'ch proses sefydlu,
51
00:02:50,945 --> 00:02:53,175
gallwch chi sicrhau bod staff yn ymwybodol
52
00:02:53,225 --> 00:02:56,495
o'ch disgwyliadau am eu hymddygiad
wrth wireddu eich gwerthoedd,
53
00:02:56,545 --> 00:03:01,506
drwy rannu polisïau fel eich cod
ymddygiad staff yn ystod y cyfnod sefydlu.
54
00:03:02,200 --> 00:03:04,215
O safbwynt person-ganolog,
55
00:03:04,265 --> 00:03:06,935
mae hwn yn gyfle enfawr adeg sefydlu
56
00:03:06,985 --> 00:03:10,640
i ddefnyddio'r wybodaeth rydych
chi wedi'i dysgu am werthoedd,
57
00:03:10,690 --> 00:03:14,833
dulliau dysgu a dewisiadau cyfathrebu
eich ymgeiswyr wrth recriwtio,
58
00:03:14,883 --> 00:03:19,320
i ddatblygu cynllun sefydlu a hyfforddi
personol a chynhwysol iddyn nhw.
59
00:03:20,200 --> 00:03:24,849
Dylai eich proses sefydlu gweithwyr
hefyd gynnwys ffocws ar lesiant staff,
60
00:03:24,899 --> 00:03:29,662
gan helpu i wreiddio gofal tosturiol
fel cyflogwr sy'n gofalu am ei staff.
61
00:03:30,602 --> 00:03:33,175
Mae llesiant staff yn elfen bwysig
62
00:03:33,225 --> 00:03:36,335
sy'n bwydo i mewn i gynnal
diwylliant gweithle cadarnhaol,
63
00:03:36,385 --> 00:03:40,240
ac mae ymchwil yn dangos y
gall hyn arwain at gadw mwy o staff.
64
00:03:41,000 --> 00:03:44,830
Bydd cyfarfod yn rheolaidd
yng nghamau cynnar sefydlu staff newydd
65
00:03:44,880 --> 00:03:47,333
yn eu cefnogi nhw
ac yn eu helpu i setlo.
66
00:03:47,540 --> 00:03:50,415
Meddyliwch am beth rydych chi
wedi'i ddysgu ar y daith recriwtio
67
00:03:50,465 --> 00:03:53,447
am y person hwn
a'i werthoedd a'i ymddygiadau,
68
00:03:53,758 --> 00:03:57,485
beth sydd o ddiddordeb iddyn nhw,
a sut maen nhw'n dysgu gwybodaeth.
69
00:03:57,776 --> 00:04:01,895
Defnyddiwch hynny i sicrhau bod eich
sgyrsiau gyda nhw yn ystod y sefydlu
70
00:04:01,945 --> 00:04:03,175
yn ateb eu hanghenion,
71
00:04:03,225 --> 00:04:05,975
ac i gyfathrebu â nhw mewn ffordd
sy'n sicrhau eu bod nhw'n deall
72
00:04:06,025 --> 00:04:08,545
sut gallan nhw ateb eich disgwyliadau.
73
00:04:09,240 --> 00:04:13,090
Gall gosod disgwyliadau clir yn ymwneud
â'ch gwerthoedd a'ch ymddygiadau,
74
00:04:13,140 --> 00:04:15,760
a bod yn glir am
ddiwylliant eich gweithle,
75
00:04:15,810 --> 00:04:19,200
eu galluogi nhw i gyfrannu
at y diwylliant
76
00:04:19,250 --> 00:04:21,646
drwy eu hymddygiad
a'u gweithredoedd.
77
00:04:22,140 --> 00:04:24,880
Os cewch chi hyn yn iawn
ar y cam sefydlu,
78
00:04:24,930 --> 00:04:27,840
bydd yr holl sgyrsiau
a'r rhyngweithio sy'n dilyn,
79
00:04:27,890 --> 00:04:31,030
boed hynny yn ystod goruchwyliaeth
neu arfarniadau blynyddol,
80
00:04:31,080 --> 00:04:33,720
yn fwy cynhyrchiol
ac yn haws eu cael.
81
00:04:34,660 --> 00:04:38,015
Mae Fframwaith Sefydlu
Cymru Gyfan, neu AWIF,
82
00:04:38,065 --> 00:04:42,655
yn adnodd gwych i sicrhau eich bod chi'n
darparu cyfnod sefydlu cynhwysfawr
83
00:04:42,705 --> 00:04:45,119
i staff sy'n gweithio
mewn gofal cymdeithasol.
84
00:04:45,600 --> 00:04:48,510
Rhaid i gyflogwyr gefnogi
pob gweithiwr newydd
85
00:04:48,560 --> 00:04:53,320
i gwblhau cyfnod sefydlu, gan fod hyn
yn ofyniad rheoleiddiol o fewn RISCA.
86
00:04:53,654 --> 00:04:59,360
Dylai Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan
gyd-fynd â phroses sefydlu eich sefydliad,
87
00:04:59,410 --> 00:05:03,012
i wneud yn siŵr
nad oes dyblygu dysgu diangen.
88
00:05:03,600 --> 00:05:07,420
Mae adnoddau defnyddiol ar wefan
Gofal Cymdeithasol Cymru
89
00:05:07,470 --> 00:05:11,077
i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr
i gwblhau'r AWIF.
90
00:05:11,916 --> 00:05:15,135
Edrychwn nawr ar sut i gymryd
dull sy'n seiliedig ar werthoedd
91
00:05:15,185 --> 00:05:16,615
o ran goruchwylio staff
92
00:05:16,665 --> 00:05:20,100
a'r sgyrsiau ffurfiol ac anffurfiol
rydych chi'n eu cael gyda staff
93
00:05:20,150 --> 00:05:21,710
yn ystod eu cyfnod sefydlu
94
00:05:21,760 --> 00:05:24,016
a thrwy gydol eu hamser
yn gweithio i chi.
95
00:05:25,080 --> 00:05:30,400
Mae gwreiddio a chymathu eich gwerthoedd
i oruchwyliaeth a'r amgylchedd gwaith
96
00:05:30,450 --> 00:05:33,950
yn sicrhau bod staff yn gwybod yn union
beth sy'n cael ei ddisgwyl ganddyn nhw,
97
00:05:34,000 --> 00:05:36,390
a gall hynny wneud iddyn nhw
deimlo'n hapusach,
98
00:05:36,440 --> 00:05:38,160
yn fwy hyderus ac yn fwy diogel.
99
00:05:38,341 --> 00:05:42,110
Ond mae hefyd yn dweud wrth staff beth
rydych chi'n ei werthfawrogi a'i gydnabod,
100
00:05:42,160 --> 00:05:44,350
a sut rydych chi'n
gwerthfawrogi eu cyfraniad nhw
101
00:05:44,400 --> 00:05:46,615
a'r cyfraniad maen nhw'n
ei wneud bob dydd
102
00:05:46,665 --> 00:05:49,055
i fywydau'r bobl maen nhw'n
gofalu amdanyn nhw,
103
00:05:49,105 --> 00:05:52,005
yn y ffordd maen nhw'n dangos
gwerthoedd eich gweithle.
104
00:05:52,450 --> 00:05:57,720
Goruchwyliaeth yw un o'r prosesau
pwysicaf sydd gan sefydliadau
105
00:05:57,770 --> 00:06:02,680
i gefnogi, gwerthfawrogi, datblygu,
herio, a rheoli eu staff.
106
00:06:03,059 --> 00:06:05,920
Gall goruchwyliaeth fod yn ffurfiol
neu'n anffurfiol,
107
00:06:05,970 --> 00:06:09,200
wyneb yn wyneb neu'n rhithwir,
mewn grŵp neu'n unigol.
108
00:06:09,587 --> 00:06:14,080
Y peth pwysicaf, hyd yn oed wrth redeg
tîm neu wasanaeth prysur,
109
00:06:14,130 --> 00:06:17,615
yw bod amser yn cael ei neilltuo
i gynnig cyfleoedd i gyfarfod â'ch staff
110
00:06:17,665 --> 00:06:21,600
a gwrando ar eu profiadau a'u pryderon,
a dathlu eu llwyddiannau.
111
00:06:21,960 --> 00:06:26,590
Mae hefyd yn bwysig bod amser i gydnabod
a dathlu popeth maen nhw'n ei wneud,
112
00:06:26,640 --> 00:06:30,760
ac i nodi pryd mae yna
faterion a llefydd i wella.
113
00:06:31,339 --> 00:06:35,110
Felly pan mae eich sesiynau goruchwylio
yn seiliedig ar werthoedd,
114
00:06:35,160 --> 00:06:38,750
rydych chi'n canolbwyntio nid yn unig
ar beth mae staff yn ei wneud,
115
00:06:38,800 --> 00:06:43,380
ond ar sut maen nhw'n dangos y gwerthoedd
sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu gwaith.
116
00:06:44,080 --> 00:06:46,680
Dyma rai pwyntiau am oruchwyliaeth.
117
00:06:46,731 --> 00:06:50,360
Mae goruchwyliaeth yn helpu i sicrhau bod
eich staff yn gwybod beth yw eu gwaith nhw
118
00:06:50,410 --> 00:06:52,360
a beth sy'n cael ei ddisgwyl ganddyn nhw,
119
00:06:52,410 --> 00:06:54,655
ac fel eu rheolwr,
rydych chi'n cadw'n gyfarwydd
120
00:06:54,705 --> 00:06:57,430
â sut maen nhw'n dod ymlaen
yn ystod y broses goruchwylio.
121
00:06:57,480 --> 00:06:59,935
Ond gall hefyd helpu
eich gweithwyr i ddeall
122
00:06:59,985 --> 00:07:04,381
beth mae'r gwerthoedd a'r ymddygiadau'n ei
olygu iddyn nhw ac yn eu rôl benodol nhw.
123
00:07:04,802 --> 00:07:08,800
Mae'n rhoi fforwm rheolaidd
i weithwyr leisio pryderon
124
00:07:08,850 --> 00:07:11,600
ac i dynnu sylw at
eu llwyddiannau a'u cyflawniadau,
125
00:07:11,650 --> 00:07:15,200
ac mae'n rhoi cyfle i nodi
anghenion dysgu a datblygu,
126
00:07:15,250 --> 00:07:18,440
ynghyd ag unrhyw broblemau
mae'r gweithwyr yn eu hwynebu.
127
00:07:18,800 --> 00:07:20,375
Bydd goruchwyliaeth dda
128
00:07:20,425 --> 00:07:23,480
yn sicrhau bod eich staff yn teimlo eu
bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi,
129
00:07:23,530 --> 00:07:27,800
ac yn galluogi rheolwyr i nodi
cryfderau staff a llefydd i wella,
130
00:07:27,850 --> 00:07:30,520
a sut gellir eu defnyddio
a'u cefnogi orau,
131
00:07:30,570 --> 00:07:33,200
gan gynnwys yn eu gwerthoedd
a'u hymddygiadau.
132
00:07:33,460 --> 00:07:36,055
Ac mae'n cadw ffocws ar lesiant staff,
133
00:07:36,105 --> 00:07:39,975
drwy sicrhau, tra bod staff yn darparu'r
gwasanaeth gorau gallan nhw
134
00:07:40,025 --> 00:07:41,615
i blant a phobl ifanc,
135
00:07:41,665 --> 00:07:45,560
eu bod nhw hefyd yn ymarfer hunanofal
ac yn rhoi strategaethau defnyddiol
136
00:07:45,610 --> 00:07:47,500
ar waith ar gyfer eu llesiant eu hunain.
137
00:07:47,963 --> 00:07:51,260
Mae'r ffordd mae rheolwyr yn cynnal
ac yn ymrwymo i oruchwyliaeth
138
00:07:51,310 --> 00:07:52,809
a sgyrsiau gyda staff
139
00:07:52,860 --> 00:07:57,500
hefyd yn gyfle i fod yn esiampl
o werthoedd y sefydliad i'w staff.
140
00:07:57,960 --> 00:08:02,120
Mae'n bwysig felly sicrhau
bod gan y bobl sy'n cynnal goruchwyliaeth
141
00:08:02,170 --> 00:08:06,400
yr agweddau, y gwerthoedd,
y sgiliau a'r galluoedd cywir.
142
00:08:08,120 --> 00:08:11,520
I wneud gwerthoedd yn bresennol iawn
yn y sesiynau goruchwylio,
143
00:08:11,570 --> 00:08:15,240
dylai rheolwyr ystyried
sut mae gwaith aelodau staff
144
00:08:15,290 --> 00:08:18,373
yn ymwneud â gwerthoedd
ac ymddygiadau'r gweithle.
145
00:08:18,624 --> 00:08:22,078
Felly pan rydych chi'n datblygu
targedau ac amcanion i bobl,
146
00:08:22,128 --> 00:08:25,760
mae'n bwysig eu bod nhw'n
rhai sy'n seiliedig ar werthoedd,
147
00:08:25,810 --> 00:08:28,470
a'u bod nhw'n canolbwyntio
ar sut mae pobl yn gwneud y rôl
148
00:08:28,520 --> 00:08:30,681
yn ogystal â beth mae angen ei wneud.
149
00:08:30,900 --> 00:08:34,843
Ac mae hyn yn arwain at y trydydd maes
ro'n ni eisiau meddwl amdano yn y fideo,
150
00:08:34,893 --> 00:08:38,160
sef defnyddio eich gwerthoedd
i gydnabod a gwerthfawrogi staff.
151
00:08:38,623 --> 00:08:41,415
Pan mae staff yn teimlo bod
gwerthfawrogaeth a chydnabyddiaeth
152
00:08:41,465 --> 00:08:43,855
am eu hymdrech
ac am effaith eu gwaith,
153
00:08:43,905 --> 00:08:47,600
maen nhw'n fwy tebygol o deimlo'n
ymgysylltiedig ac o aros i weithio i chi.
154
00:08:47,920 --> 00:08:52,470
Dywedir yn aml nad yw pobl
yn gadael sefydliadau, ond yn gadael pobl.
155
00:08:52,520 --> 00:08:54,095
Ac er bod llawer o resymau
156
00:08:54,145 --> 00:08:56,535
pam mae pobl yn gadael
rolau mewn gofal cymdeithasol,
157
00:08:56,585 --> 00:08:59,200
un o'r prif resymau
pam maen nhw'n aros
158
00:08:59,250 --> 00:09:02,110
yw pan maen nhw'n teimlo
bod eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth,
159
00:09:02,160 --> 00:09:06,000
a'u bod nhw mewn tîm lle mae pawb
yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei gilydd.
160
00:09:06,520 --> 00:09:08,775
Mae'n bwysig dod o hyd i'r cyfleoedd hyn
161
00:09:08,825 --> 00:09:11,230
i gydnabod a rhoi
adborth cadarnhaol i bobl
162
00:09:11,280 --> 00:09:14,030
pan rydych chi'n eu gweld
yn rhoi eich gwerthoedd ar waith,
163
00:09:14,080 --> 00:09:15,920
iddynt wybod
eu bod nhw'n gwneud yn dda
164
00:09:15,970 --> 00:09:17,951
ac yn ateb disgwyliadau
eich gweithle.
165
00:09:19,600 --> 00:09:22,730
Gellir cydnabod
yn ffurfiol ac yn anffurfiol.
166
00:09:22,780 --> 00:09:26,760
Dyma rai enghreifftiau o ffyrdd
gallech chi gydnabod pobl yn ffurfiol
167
00:09:26,810 --> 00:09:29,120
am eu gwerthoedd,
eu hymddygiadau, a'u cyfraniad,
168
00:09:29,170 --> 00:09:31,120
sy'n cael eu defnyddio
gan gyflogwyr eraill.
169
00:09:31,400 --> 00:09:33,895
Gallech chi gael gwobr gweithiwr y mis
170
00:09:33,945 --> 00:09:36,695
sydd wedi'i chysylltu â gwerthoedd
ac ymddygiadau eich sefydliad,
171
00:09:36,745 --> 00:09:40,775
ac efallai roi tystysgrifau gwerthoedd
gydag enghreifftiau ystyrlon
172
00:09:40,825 --> 00:09:43,055
o pam cawsant eu dewis ar gyfer y wobr
173
00:09:43,105 --> 00:09:45,665
a pha werthoedd ac ymddygiadau
maen nhw wedi'u dangos.
174
00:09:46,040 --> 00:09:49,840
Gallech chi gael cardiau post ffisegol
neu gardiau post electronig
175
00:09:49,890 --> 00:09:51,935
y gallai staff eu hanfon at ei gilydd
176
00:09:51,985 --> 00:09:54,455
pan maen nhw eisiau cydnabod
neu werthfawrogi rhywun
177
00:09:54,505 --> 00:09:56,660
am y ffordd
maen nhw'n gwneud eu gwaith.
178
00:09:57,600 --> 00:10:00,190
Gallech chi hefyd gael
cylchlythyr tîm misol
179
00:10:00,240 --> 00:10:02,935
gyda chyfle i gydnabod
llawer o wahanol bobl
180
00:10:02,985 --> 00:10:05,775
am eu gwaith a'r gwahaniaeth
maen nhw'n ei wneud,
181
00:10:05,825 --> 00:10:10,430
a gall hyn fod yn ffordd gynhwysol iawn
o gydnabod y pethau bach a'r pethau mawr
182
00:10:10,480 --> 00:10:12,870
mae pobl yn eu gwneud,
a'r llawer o wahanol ffyrdd
183
00:10:12,920 --> 00:10:15,230
mae pobl yn rhoi
eich gwerthoedd ar waith.
184
00:10:15,280 --> 00:10:18,350
A gallech chi gynnwys gwerthoedd
yn eich proses arfarnu,
185
00:10:18,400 --> 00:10:20,295
fel bod cydnabyddiaeth ffurfiol
186
00:10:20,345 --> 00:10:22,855
o'r cyflawniad mae pobl
wedi'i wneud drwy'r flwyddyn
187
00:10:22,905 --> 00:10:25,000
sy'n cysylltu â'ch gwerthoedd.
188
00:10:25,576 --> 00:10:26,900
O ran ffyrdd anffurfiol
189
00:10:26,950 --> 00:10:30,870
o gysylltu gwerthoedd â'r ffordd rydych
chi'n cydnabod a gwerthfawrogi pobl,
190
00:10:30,920 --> 00:10:32,840
gallwch gael sgyrsiau bob dydd,
191
00:10:32,890 --> 00:10:36,600
cymryd yr amser i gydnabod pan mae
rhywun wedi gwneud rhywbeth cadarnhaol
192
00:10:36,650 --> 00:10:38,800
a chysylltu hynny â'r gwerthoedd.
193
00:10:38,891 --> 00:10:42,989
Er enghraifft, gallech chi weld rhywun
yn gwneud rhywbeth cadarnhaol a dweud,
194
00:10:43,039 --> 00:10:47,260
'Welais i sut wnaethoch chi siarad
â'r person ifanc yna pan oedd e'n ypset.'
195
00:10:47,310 --> 00:10:49,480
'Roedd yn gwneud cymaint
o wahaniaeth iddo,
196
00:10:49,530 --> 00:10:52,520
a gallwn i weld pa mor dosturiol
a pharchus ro'ch chi.'
197
00:10:53,521 --> 00:10:56,790
Dydy ymrwymo i ddal pobl
yn gwneud pethau da bob wythnos
198
00:10:56,840 --> 00:11:00,292
ac anfon negeseuon e-bost byr
o ddiolch a chydnabyddiaeth
199
00:11:00,342 --> 00:11:04,920
ddim yn cymryd llawer o amser,
ond gall gael effaith enfawr yn anffurfiol
200
00:11:04,970 --> 00:11:06,920
o ran gwneud i bobl deimlo'n werthfawr.
201
00:11:06,971 --> 00:11:10,470
A sicrhewch eich bod chi'n gwneud amser
i bobl pan mae arnynt angen siarad,
202
00:11:10,520 --> 00:11:13,990
a chanolbwyntiwch nid jyst ar beth
mae pobl yn ei wneud neu ddim yn ei wneud,
203
00:11:14,040 --> 00:11:17,440
ond hefyd ar sut maen nhw'n ymddwyn
ac yn dangos eich gwerthoedd.
204
00:11:18,500 --> 00:11:20,055
Felly hoffem orffen y fideo hwn
205
00:11:20,105 --> 00:11:22,735
gyda phrif awgrymiadau
a chwestiynau i fyfyrio arnyn nhw,
206
00:11:22,785 --> 00:11:27,120
i'ch ysbrydoli a'ch cefnogi chi
i feddwl am sut rydych chi'n sefydlu,
207
00:11:27,170 --> 00:11:29,135
hyfforddi, a chefnogi staff newydd
208
00:11:29,185 --> 00:11:32,280
i roi dechrau llwyddiannus
iddyn nhw yn eich sefydliad.
209
00:11:32,872 --> 00:11:34,976
Dyma'r cyntaf o'r awgrymiadau.
210
00:11:35,026 --> 00:11:36,103
Prif awgrym un,
211
00:11:36,295 --> 00:11:39,670
rhannwch eich gwerthoedd
a'ch ymddygiadau yn y broses sefydlu
212
00:11:39,720 --> 00:11:41,375
i osod disgwyliadau clir
213
00:11:41,425 --> 00:11:44,758
a helpu staff i deimlo cysylltiad
â gwerthoedd eich gweithle.
214
00:11:45,280 --> 00:11:48,510
Prif awgrym dau, hyfforddwch
a datblygwch eich staff newydd
215
00:11:48,560 --> 00:11:50,375
drwy gydol eu cyfnod sefydlu
216
00:11:50,425 --> 00:11:53,050
ar sut i wneud y gwaith
rydych chi am iddynt ei wneud
217
00:11:53,101 --> 00:11:55,150
mewn ffordd sy'n seiliedig ar werthoedd,
218
00:11:55,200 --> 00:11:58,427
a chefnogwch hynny
drwy ei gysylltu â pholisïau a phrosesau.
219
00:11:58,960 --> 00:12:02,690
A phrif awgrym tri, gwreiddiwch
eich gwerthoedd mewn goruchwyliaeth,
220
00:12:02,740 --> 00:12:07,560
cyfarfodydd un-i-un, arfarniadau,
a chydnabyddiaeth a dogfennaeth staff,
221
00:12:07,610 --> 00:12:09,975
fel bod ystyried a thrafod eich gwerthoedd
222
00:12:10,025 --> 00:12:13,840
yn dod yn rhan naturiol o'r ffordd
rydych chi'n gwneud pethau bob dydd.
223
00:12:14,760 --> 00:12:17,941
I orffen, mae gyda ni dri chwestiwn
i fyfyrio arnyn nhw.
224
00:12:18,520 --> 00:12:23,381
Beth sy'n gweithio'n dda ar hyn o bryd
yn y broses sefydlu yn eich sefydliad?
225
00:12:23,822 --> 00:12:26,535
Pa mor dda mae eich
gwerthoedd a'ch ymddygiadau
226
00:12:26,585 --> 00:12:28,040
wedi'u gwreiddio yn eich proses sefydlu?
227
00:12:28,320 --> 00:12:30,575
Ac yn drydydd, beth sydd
angen i chi ei wneud
228
00:12:30,625 --> 00:12:33,320
i sicrhau y gallwch gymryd
dull sy'n seiliedig ar werthoedd
229
00:12:33,370 --> 00:12:36,560
o ran sefydlu, goruchwylio,
a chydnabod staff,
230
00:12:36,610 --> 00:12:40,760
ac i'w paratoi nhw ar gyfer llwyddiant
pan maen nhw'n dechrau gweithio i chi?
231
00:12:41,800 --> 00:12:44,390
Diolch am gymryd yr amser
i wylio'r fideo hwn,
232
00:12:44,440 --> 00:12:47,350
i ddysgu sut i baratoi staff newydd
ar gyfer llwyddiant.
233
00:12:47,400 --> 00:12:50,990
Gobeithiwn eich bod chi wedi gwerthfawrogi
gwylio pob un o'n pum adnodd fideo
234
00:12:51,040 --> 00:12:53,120
ar recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd,
235
00:12:53,170 --> 00:12:56,360
a'u bod nhw wedi'ch ysbrydoli
i ddechrau ar eich taith
236
00:12:56,411 --> 00:12:58,490
recriwtio sy'n seiliedig ar werthoedd.
237
00:12:58,540 --> 00:13:01,920
Cymerwch olwg ar y Pecyn Cymorth
Recriwtio sy'n Seiliedig ar Werthoedd
238
00:13:01,970 --> 00:13:04,190
ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
239
00:13:04,240 --> 00:13:06,735
am ragor o adnoddau
a chanllawiau defnyddiol.